Hinsawdd a natur – cyfle i bobl Gwynedd ddatgan barn

Dyddiad: 17/06/2025

Mae Cyngor Gwynedd yn annog pobl leol ddweud eu dweud ar faterion sy’n ymwneud â hinsawdd a natur mewn arolwg newydd.

Bydd derbyn barn y cyhoedd yn helpu’r Cyngor wrth siapio polisïau, buddsoddi mewn adnoddau a blaenoriaethu gwasanaethau sy’n cael  dylanwad ar faterion amgylcheddol dros y blynyddoedd nesaf.

Gall pobl gymryd rhan yn yr ymarferiad ymgysylltu mewn nifer o ffyrdd dros y chwe wythnos nesaf:

  • Ar-lein – mae modd llenwi’r holiadur yn rhwydd ar wefan Cyngor Gwynedd. Ewch i www.gwynedd.llyw.cymru/CynllunArgyfwngHinsawddANatur
  • Wyneb-yn-wyneb – bydd swyddogion o Gyngor Gwynedd yn ymweld â lleoliadau gwahanol ar draws y sir yn ystod cyfnod yr ymarferiad. Cadwch lygaid ar wefannau cymdeithasol y Cyngor am fwy o wybodaeth.
  • Ar bapur – mae copïau papur ar gael o lyfrgelloedd y sir neu’r dair swyddfa Siop Gwynedd (Caernarfon, Pwllheli Dolgellau). I dderbyn copi papur drwy’r post, neu mewn fformat amgen, dylai aelodau’r cyhoedd gysylltu â: NewidHinsawdd@gwynedd.llyw.cymru / 01286 679144.

 Bydd Cyngor Gwynedd yn diweddaru ei Gynllun Argyfwng Hinsawdd a Natur cyn diwedd y flwyddyn, a bydd barn a sylwadau a dderbyniwyd yn ystod yr ymarferiad ymgysylltu yn bwydo fewn i’r adroddiad diwygiedig.

Dywedodd y Cynghorydd Nia Jeffreys, Arweinydd Cyngor Gwynedd:

“Ein uchelgais ydi bod yn garbon sero net ac yn ecolegol gadarnhaol erbyn 2030.

“Fel pob awdurdod arall, mae Cyngor Gwynedd yn gyfrifol am feysydd megis trafnidiaeth, gwastraff a defnydd tir ac mae sut rydym yn darparu’r gwasanaethau hyn a pha ddefnydd mae pobl yn wneud ohonynt i gyd yn cael effaith ar ein hamgylchedd.

“Dyma pam ei bod mor bwysig ein bod yn gweithio gyda’r cyhoedd er mwyn canfod y dulliau mwyaf effeithiol o weithredu a chael y cydbwysedd cywir rhwng darparu gwasanaethau a gwarchod ein hamgylchedd, a hynny o fewn ein cyllidebau.

“Rydym yn awyddus i glywed barn y cyhoedd fel bo gennym lwybrau clir i’w dilyn wrth i ni lunio gwasanaethau a phrosiectau’r dyfodol.”

Bydd yr arolwg yn cau ddydd Iau, 31 Gorffennaf.

Am fwy o wybodaeth am Gynllun Argyfwng Hinsawdd a Natur cyfredol Cyngor Gwynedd a’r gwahanol brosiectau sy’n cyfrannu tuag at nod y Cyngor o fod yn garbon sero net ac yn ecolegol gadarnhaol erbyn 2030, ewch i’r wefan: www.gwynedd.llyw.cymru/HinsawddANatur