Grantiau Gwydnwch Busnes ar gael i fusnesau bach a chanolig Gwynedd
Dyddiad: 26/06/2025
Bydd Cyngor Gwynedd yn lansio pecyn grantiau o’r newydd ar 1 Gorffennaf, 2025 sydd wedi ei anelu at gefnogi busnesau bach a chanolig ledled Gwynedd i gryfhau gwydnwch a gwella effeithlonrwydd.
Wedi'i ariannu gan Gyngor Gwynedd a Chronfa Ffyniant Gyffredin y DU, bydd y cynllun yn cynnig grantiau o hyd at £15,000 i fusnesau lleol cymwys.
Er mwyn rhoi cyfle i ddarpar ymgeiswyr drafod eu cynlluniau grant yn uniongyrchol gyda'r tîm, ac i drefnu derbyn sesiwn un-i-un gyda chynghorwyr busnes, mae cyfres o ddigwyddiadau galw heibio wedi eu trefnu ledled y sir mewn partneriaeth â Busnes Cymru a Menter Môn.
Bydd y sesiynau yn cael eu cynnal ar y dyddiadau ac yn y lleoliadau canlynol:
08 Gorffennaf: Bangor – M-SParc Ar Y Lôn, LL57 1NY
14 Gorffennaf: Porthmadog – Hwb Arloesi, LL49 9NU
17 Gorffennaf: Tywyn – Neuadd Pendre, LL36 9DP
22 Gorffennaf: Pwllheli – M-SParc Ar Y Lôn, LL53 5RT
29 Gorffennaf: Dolgellau – Tŷ Newyddion, LL40 1AS
31 Gorffennaf: Llanberis – Y Ganolfan, LL55 4UR
06 Awst: Nefyn – Yr Heliwr, LL53 6HD
Dywedodd y Cynghorydd Medwyn Hughes, Aelod Cabinet Economi a Chymuned, Cyngor Gwynedd:
“Mae hwn yn gyfle gwerthfawr i gwmnïau sydd angen hwb ychwanegol i’w cynorthwyo gyda’r busnes. Dwi’n falch bod Cyngor Gwynedd wedi gallu cynnig y ddarpariaeth yma er mwyn buddsoddi mewn busnesau bach a chanolig o fewn y sir. Dwi’n annog perchnogion busnes i fanteisio ar y cyfle a bwrw ati pan fydd y ffenest ymgeisio yn agor i ddod a’u ceisiadau ymlaen.”
Er mwyn helpu i arwain darpar ymgeiswyr drwy’r broses ymgeisio, mae tudalen bwrpasol ar gael ar wefan Cyngor Gwynedd sydd yn rhoi ystod o wybodaeth ddefnyddiol, gan gynnwys; canllawiau cam wrth gam, meini prawf cymhwysedd, trosolwg o’r broses, ac manylion cofrestru ar gyfer y digwyddiadau: www.gwynedd.llyw.cymru/grantgwydnwch
Bydd ceisiadau ar gyfer y rownd gyntaf yn agor ddydd Mawrth, 1 Gorffennaf, ac yn cau ddydd Gwener, 15 Awst, 2025. Bydd ail rownd ariannu yn agor mis Medi, 2025.
I dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf am y gronfa, dilynwch Busnes@Gwynedd ar Facebook a chofrestrwch am y Bwletin Busnes:
https://bit.ly/3N1tGe5