Fforwm Mynediad Lleol yn gwahodd aelodau newydd yng Ngwynedd

Dyddiad: 06/06/2025

Wrth i’r tywydd gynhesu a mwy o bobl yn mynd allan i fwynhau harddwch naturiol yr ardal, mae Cyngor Gwynedd yn awyddus i glywed gan unrhyw un sydd â diddordeb dod yn aelod o’r Fforwm Mynediad Lleol.

Prif bwrpas Fforwm Mynediad Arfon a Dwyfor ydi cynghori’r Cyngor, Cyfoeth Naturiol Cymru ac eraill am ffyrdd o wella mynediad y cyhoedd i dir yn yr ardal ar gyfer hamdden awyr agored a mwynhau llwybrau’r ardal (y tu allan ffiniau Parc Cenedlaethol Eryri).

Dywedodd y Cynghorydd Craig ab Iago, Aelod Cabinet Amgylchedd Cyngor Gwynedd:

“Yma yng Ngwynedd, mae gennym rwydwaith o tua 2,423 milltir o lwybrau cyhoeddus, sy’n cynnwys rhannau o Lwybr Arfordir Cymru a chyfres o lonydd glas sy’n cael eu mwynhau gan drigolion lleol ac ymwelwr i’r ardal.

“Wrth gwrs, mae’n bwysig iawn fod pawb yn gallu mynd am dro a mwynhau harddwch naturiol rhyfeddol, ac mae’r Fforwm Mynediad yn chwarae rôl allweddol wrth weithio gyda’r Cyngor a’i bartneriaid i wella mynediad i gefn gwlad trwy’r sir.

“Felly, os oes ydych chi’n mwynhau ac yn ymddiddori yn llwybrau a rhwydwaith hawliau tramwy Gwynedd, byddai ymuno â'r Fforwm Mynediad yn ffordd wych o wneud gwahaniaeth yn yr ardal leol a sicrhau bod ein llwybrau'n aros ar agor, yn ddiogel, ac yn hygyrch i bawb.”

Mae Fforwm Mynediad Arfon a Dwyfor yn awyddus i glywed gan unrhyw un sydd â diddordeb ymgeisio ymuno fel aelod. Mae’r Fforwm yn cynnwys rhwng 12 a 20 o aelodau ac yn cyfarfod hyd at bedair gwaith y flwyddyn.

Am fwy o wybodaeth, ac i ymgeisio ewch draw i www.gwynedd.llyw.cymru/FforwmMynediad – y dyddiad cau ar gyfer ymgeisio ydi 8 Gorffennaf 2025.

Mae Gwynedd yn cael ei chynrychioli gan dri Fforwm Mynediad Lleol: