Dathlu gwaith celf cyhoeddus a gwelliannau diweddar ym Mhorthmadog

Dyddiad: 20/06/2025

Daeth aelodau o’r gymuned ym Mhorthmadog at ei gilydd mewn digwyddiad diweddar i ddathlu cyfres o welliannau i’r dref.

Cynhaliwyd y digwyddiad yng  Nghanolfan Byw’n Iach Glaslyn yng nghwmni aelodau o'r cyngor tref, plant ysgol, yr artist Howard Bowcott, a chyfranwyr eraill i ddathlu’r buddsoddiad diweddar a oedd yn bosib fel rhan o gynllun Llewyrch o’r Llechi - rhaglen buddsoddi ddiwylliannol a ariennir gan Lywodraeth y DU ac a weinyddir gan Cyngor Gwynedd sy’n ymwneud â dynodiad Safle Treftadaeth y Byd Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru.

Mae’r buddsoddiad wedi cynnwys:

  • ail-wynebu ffyrdd a phalmentydd,
  • gosod meinciau clyfar,
  • biniau newydd,
  • ychwanegu 9 twll i’r ardal Golff Giamocs

 

Yn ganolog i’r dathliad roedd cyfle i werthfawrogi gwaith celf cyhoeddus trawiadol yr artist Howard Bowcott.  Comisiynwyd Howard i greu cyfres o bedwar cerflun unigryw sy’n adlewyrchu treftadaeth ddiwydiannol a chymdeithasol Porthmadog. Mae’r cerfluniau wedi eu lleoli  yn ardal yr harbwr ger yr Amgueddfa Forwrol, y parc yng nghanol y dref, maes parcio'r orsaf drenau ger Byw’n Iach Glaslyn, ac ar lwybr Cob Crwn lle mae’n ymuno gyda Stryd yr Wyddfa. Mae’r celf yn cyfuno elfennau o lechi i adrodd straeon lleol mewn ffordd gyfoes a deniadol.

Mae pob cerflun yn cynnwys elfennau o waith ymchwil hanesyddol, cyfraniadau gan blant ysgol, a symbolau sy’n cynrychioli’r cysylltiad dwfn rhwng Porthmadog a’r diwydiant llechi. Trwy’r cyfuniad hwn, mae’r gwaith yn rhoi llais gweledol i hanes cymunedol ac yn ysbrydoli’r trigolion i ymfalchïo yn eu hetifeddiaeth.

Dywedodd y Cynghorydd Medwyn Hughes, Aelod Cabinet dros Economi a Chymuned, Cyngor Gwynedd:

“Mae’r pedwar cerflun cafodd eu creu gan Howard Bowcott yn ymwrthod â’r drefn arferol o greu gwaith celf cyhoeddus, gan gynnwys cyfuno’r creadigrwydd o ddylunio gyda hanes lleol. Maent yn rhoi gwedd arall i’r dref, yn agor drysau newydd i ddysgu am ein diwydiant llechi a’i effeithiau ar y gymuned leol. Hoffwn hefyd ddiolch yn fawr i’r disgyblion Blwyddyn 6 o Ysgol Eifion Wyn am eu cyfraniad gwerthfawr i’r prosiect.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Gwilym Jones, Aelod lleol dros Borthmadog (Gorllewin):

“Mae wedi bod yn bleser bod yn rhan o'r "Prosiect Adfywio Trefi" ym Mhorthmadog a ddefnyddiodd arian o grantiau Gronfa Ffyniant Gyffredin. Bydd y pedwar gwaith celf ar wahân gan Howard Bowcott mewn gwahanol rannau o'r dref yn endidau ffisegol a fydd yn rhoi cyfle i ymwelwyr a phobl leol ddysgu am hanes a hunaniaeth y dref. Bydd y gwelliannau yn y parc hefyd yn atyniad i bawb sy'n ymweld â chanol y dref. Yn olaf, hoffwn ddiolch i staff Cyngor Gwynedd am eu gwaith a'u brwdfrydedd dros y prosiect a hefyd i'r plant a gyfrannodd at y gwaith celf. Gobeithio y bydd hyn yn rhywbeth gweladwy yn y dref am flynyddoedd lawer.

Meddai’r Cynghorydd Nia Jeffreys, Aelod lleol dros Borthmadog (Dwyrain) ac Arweinydd y Cyngor:

“Dwi’n hynod o falch fod Cyngor Gwynedd wedi defnyddio arian y Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU er mwyn gwella edrychiad Tref Porthmadog.

“Mae Harbwr Port yn hollol ganolig i stori Llechi ac i Safle Treftadaeth y Byd – diolch o galon i blant Ysgol Eifion Wyn am eu gwaith gwych ar y cerfluniau yma sy’n dathlu hanes ein Tref arbennig ni.”

Croesawyd disgyblion Blwyddyn 6 o Ysgol Eifion Wyn i’r digwyddiad, yn dilyn ymweliad diweddar â’r ysgol gan un o swyddogion prosiect LleCHI LleNI. Mae’r prosiect LleCHI LleNI yn gynllun i gysylltu ystod eang o bobl efo’r Dirwedd Llechi gan ddefnyddio arysgrif UNESCO fel sbardun ar gyfer adfywio economaidd a chymdeithasol, ac yn cynnwys gweithgareddau rhyngweithiol a chreadigol mewn ysgolion.

Am ragor o wybodaeth ewch i: www.llechi.cymru