Cyngor Gwynedd yn galw am ofalwyr

Dyddiad: 25/06/2025

Mae Cyngor Gwynedd yn gwahodd unrhyw un sydd â diddordeb mewn gyrfa ym maes gofal i fynychu digwyddiad recriwtio anffurfiol ar gyfer Gweithwyr Preswyl yn y Cartref Preswyl Plant newydd yn Ninorwig.

Bydd y digwyddiad galw-heibio yn cael ei gynnal rhwng 4 a 7pm, ddydd Mercher, 16 Gorffennaf yng Ngwesty’r Celt, Caernarfon. Bydd y sesiwn yn gyfle i bobl o bob oed sy’n awyddus i adeiladu gyrfa yn y maes gofal i gwrdd â’r tîm a chael sgwrs anffurfiol am y swyddi sydd ar gael a’r hyn mae gweithio yn y sector hanfodol hwn yn ei olygu.

Dywedodd y Cynghorydd Menna Trenholme, Aelod Cabinet Plant a Chefnogi Teuluoedd:

“Mae hwn yn gyfle gwych i unrhyw un sydd eisiau gwneud gwahaniaeth gwirioneddol ym mywydau plant a phobl ifanc Gwynedd i ffeindio allan am y cyfleodd gwaith sydd ar gael. Rydym yn chwilio am bobl ofalgar, ymroddedig, sydd yn barod am her newydd.

“Rydym yn croesawu pobl sydd ar ddechrau eu gyrfa a rheini sy’n awyddus i newid trywydd ac am ddod a’u profiadau o feysydd eraill gyda hwy. Bydd pob profiad o fyd addysg, gwaith a bywyd yn cyfoethogi’r hyn allwn ei gynnig blant a phobl ifanc bregus.

“Mae Cyngor Gwynedd yn le gwych i weithio – fel sefydliad rydym yn falch o fod yn gyflogwr cefnogol ac uchelgeisiol, gan gynnig cyfleoedd datblygu, pecyn buddion deniadol, a’r cyfle i ennill wrth ddysgu. Byddai cyfle i unrhyw ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu cefnogi i dyfu a ffynnu yn eu gyrfaoedd.”

Cynhelir y digwyddiad galw heibio:

  • Dyddiad - Ddydd Mercher, 16 Gorffennaf 2025,
  • Amser - rhwng 4-7pm,
  • Lleoliad - Gwesty’r Celt, Ffordd Bangor, Caernarfon, LL55 1AY. 

 Am fwy o wybodaeth am gyfleoedd cyflogaeth yn y maes gofal gyda Chyngor Gwynedd, ewch i’r wefan:www.gwynedd.llyw.cymru/GalwGofalwyr neu anfonwch e-bost at: gofalu@gwynedd.llyw.cymru