Amgueddfa Lloyd George yn ailagor yn dilyn buddsoddiad

Dyddiad: 02/06/2025
Mae'r Amgueddfa bwrpasol sy'n olrhain bywyd cyn-Brif Weinidog y DU, David Lloyd George, wedi ailagor i'r cyhoedd yn ddiweddar yn dilyn gwaith ailddatblygu helaeth.

Mae'r atyniad yn Llanystumdwy wedi elwa o weddnewidiad gwerth £280,000, diolch i gyllid o £250,000 gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU, Cyngor Gwynedd a Chronfa Iarlles Lloyd George.

Fel rhan o'r prosiect, comisiynwyd y dylunwyr amgueddfeydd Mather & Co i foderneiddio'r arddangosfeydd ac integreiddio'r arteffactau â'r stori.

Y gobaith yw y bydd yr Amgueddfa ar ei newydd wedd yn caniatáu i ymwelwyr gael dealltwriaeth fwy cynhwysfawr o Lloyd George a chyd-destun ei oes. Bydd yr ymagwedd thematig at y straeon a'r gwrthrychau a gyflwynir yn caniatáu golwg newydd ar fywyd Lloyd George, gan edrych ar agweddau cadarnhaol a negyddol ei gymeriad a'i benderfyniadau a'u gwaddol.

Mae pedair ardal thematig i'r Amgueddfa: Y Gwleidydd, y Bobl, y Dyn a'r Gwaddol

  • Mae 'Y Gwleidydd' yn dilyn stori gronolegol sy'n cyflwyno adegau allweddol o yrfa gynnar Lloyd George yn y Senedd, ei rolau arwyddocaol yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, a chyfnodau olaf ei fywyd gwleidyddol.
  • Mae 'Y Bobl' yn edrych ar sut mae'r wasg yn portreadu ffigurau gwleidyddol a'u penderfyniadau, gan lunio barn y cyhoedd.
  • Mae 'Y Dyn' yn dod i'r amlwg drwy ddwy is-thema ar draws gwahanol adrannau o'r Amgueddfa: Bywyd Cynnar a Bywyd Teuluol.
  • Mae 'Y Gwaddol' yn edrych ar effaith gweithredoedd a phenderfyniadau gwleidyddol Lloyd George, ochr yn ochr â'r gydnabyddiaeth ryngwladol a gafodd.

Ymhlith y gwrthrychau allweddol i ymwelwyr edrych allan amdanynt y mae copi drafft Lloyd George o Gytundeb Versailles, y copi cyntaf o Gyllideb y Bobl o 1909, gwisg Canghellor y Trysorlys a wisgwyd gan Lloyd George, a'r casgedau rhyddfraint niferus a roddwyd iddo gan ddinasoedd a threfi o Gymru, Lloegr a'r Alban.

Meddai Megan Cynan Corcoran, Swyddog Datblygu Amgueddfeydd Cyngor Gwynedd:

"Mae wedi bod yn bleser ac yn gyfrifoldeb i ailddatblygu arddangosfeydd yr Amgueddfa. Dros y blynyddoedd, roedd arddangosfeydd a chypyrddau arddangos newydd wedi'u hychwanegu, ond roedd llawer o gypyrddau o'r Amgueddfa wreiddiol yn y 1960au yn dal yno.

"Gyda'r buddsoddiad hwn, rydym yn gallu cyflwyno ffeithiau hanesyddol ochr yn ochr ag arteffactau ategol mewn ffordd ystyrlon. Dim ond dechrau ein hymdrech barhaus i roi sylw i fywyd David Lloyd George a'r gwaddol a adawodd ar ei ôl y mae hyn yn ei nodi."

Meddai'r Cynghorydd Medwyn Hughes, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros yr Economi a Chymuned:

"Rwy'n falch iawn bod Amgueddfa Lloyd George wedi ailagor ei drysau yn barod ar gyfer tymor yr haf. Mae Lloyd George yn parhau i fod yn ffigwr arwyddocaol a dadleuol yn hanes Cymru, Prydain a'r Byd a dechreuodd y cyfan ym mwthyn Highgate.

"Rwy'n falch iawn bod yr Amgueddfa yn parhau i ddenu ymwelwyr o bell ac agos. Rydym bellach yn cynnig profiad cyfoes gyda graffeg ddiddorol a gweithgareddau clyweledol ymdrochol, gan annog myfyrio ar benderfyniadau arwyddocaol Lloyd George a'u gwaddol parhaol."

Mae dyluniad yr Amgueddfa wedi ystyried nodweddion pensaernïol yr adeilad yn ofalus, gan gynnwys ei nenfydau uchel a'i drawstiau strwythurol.

Meddai Hanna Lorenz, Dylunydd 3D ar gyfer Mather & Co: "Mae gweithio ar ailddatblygu Amgueddfa Lloyd George wedi bod yn fraint fawr. Mae rhoi bywyd newydd i fannau sydd gerllaw cartref ei blentyndod ac o fewn golwg i'w fan gorffwys olaf yn golygu cysylltu'r gorffennol, y presennol a'r dyfodol. Mae'n fwy nag Amgueddfa - mae'n deyrnged fyw i un o ffigyrau mwyaf dylanwadol Prydain, wedi'i gwreiddio yn yr union dirwedd a'i siapiodd."

Mae Cyfeillion yr Amgueddfa yn trefnu agoriad swyddogol ar 26 ⁠Mehefin.

 

 

Nodiadau

  • Mae'r Amgueddfa yn cael ei rhedeg gan Gyngor Gwynedd ar ran Ymddiriedolaeth Amgueddfa Lloyd George.
  • Yr Amgueddfa yw'r unig Amgueddfa bwrpasol i gyn-Brif Weinidog yn y DU. Lloyd George yw unig Brif Weinidog y DU a oedd yn siarad Saesneg fel ail iaith.
  • Mae Mather & Co yn adnabyddus am eu gwaith ar brosiectau nodedig fel Shrewsbury Flaxmill Maltings, Silverstone Museum, Olympic Museum, Dover Castle, Inverness Castle, a llawer mwy.