Adroddiad cynnydd yn amlygu diwygiadau diogelu yng Ngwynedd

Dyddiad: 30/06/2025

Mae cynnydd yn cael ei wneud ar draws y ffrydiau gwaith sy’n deillio o’r Cynllun Ymateb i Droseddau Neil Foden, gyda gwaith pellach i’w wneud er mwyn atal unrhyw blentyn yng Ngwynedd yn dioddef yn yr un modd eto.

Dyma fydd prif neges yr Athro Sally Holland, cyn Gomisiynydd Plant Cymru ac awdurdod yn y maes amddiffyn plant, wrth iddi gyflwyno ei hadroddiad chwarterol cyntaf ers ei phenodi’n gadeirydd annibynnol y Bwrdd Rhaglen Cynllun Ymateb i Droseddau. Sefydlwyd y bwrdd gan Gabinet Cyngor Gwynedd ym mis Ionawr 2025 i fonitro cynnydd ar y cynllun, i gynnig cyngor ac i herio’r sefydliad.

Yn ôl yr Athro Holland mae cynnydd cadarnhaol wedi'i wneud hyd yma gyda 32 o’r 63 tasg gwaith wedi'u cwblhau yn barod gyda awydd y Cyngor i gyflawni’r gweddill yn glir.

Mae’r prosiectau sydd eisoes wedi eu cwblhau o fewn y Cynllun Ymateb yn cynnwys:

 

  • Adroddiad gan fargyfreithiwr annibynnol sy’n arbenigo mewn ymchwiliadau diogelu a gomisiynwyd i gynnal ymchwiliad i ddigwyddiadau penodol yn 2019 â amlygwyd yn ystod achos troseddol Neil Foden – mae’r adroddiad wedi ei dderbyn ac mae’r Cyngor wedi ymrwymo i weithredu ar yr argymhellion. Bydd hyn yn cael ei fonitro gan y Bwrdd Rhaglen Cynllun Ymateb i Droseddau.

 

  • Ymchwiliad Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth – wedi ei gwblhau a gweithdrefnau Rhyddid Gwybodaeth Cyngor Gwynedd wedi eu diweddaru.

 

  • Sefydlogi sefyllfa Ysgol Friars – mae pennaeth dros dro newydd wedi ei phenodi a threfniadau mewn lle i barhau i gefnogi’r ysgol i symud ymlaen.

 

  • Ymchwiliad i drefniadau diogelu yn ysgolion Gwynedd – mae Pwyllgor Craffu’r Cyngor wedi sefydlu ymchwiliad. Mae cynnydd da yn cael ei wneud gyda gwaith yr Ymchwiliad gyda’r nod o’i orffen cyn diwedd 2025.

 

Mae’r gweithgaredd sydd wedi deillio o’r Cynllun Ymateb yn rhedeg ochr-yn-ochr ag ymchwiliadau’r Adolygiad Ymarfer Plant (CPR) – sef proses statudol sy’n cael ei gynnal gan Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru – ac mae holl ganfyddiadau ymchwiliadau’r Cyngor wedi eu rhannu â’r Adolygiad yn syth.

Dywedodd yr Athro Sally Holland, Cadeirydd y Bwrdd Rhaglen:

“Holl bwrpas y Cynllun Ymateb hwn a phob cam mae’r Cyngor yn ei gymryd yw gwneud popeth posibl i atal troseddau o'r fath rhag cael eu cyflawni gan bersonau mewn swyddi o ymddiriedaeth, a dylai hynny fod bob amser ar frig ein hystyriaethau. Mae’n hanfodol fod Cyngor Gwynedd yn cryfhau hyder trigolion y sir ei fod yn gwneud popeth o fewn ei allu i ddiogelu plant mewn amgylchedd ysgol ac y bydd yn ymateb yn gadarn pan fod pryderon yn cael eu codi.

“Rydw i’n falch o ddod a’r adroddiad cyntaf hwn i’r Cabinet i ddangos y gwaith sydd wedi ei wneud hyd yma ac i amlygu’r hyn sydd eto i’w gwblhau.

“Fel rwyf yn nodi yn yr adroddiad, mae’r swyddogion sy'n aelodau o'r Bwrdd yn awyddus i wneud cynnydd yn y meysydd gwaith y maent yn gyfrifol amdanynt, ac maent wedi dangos parodrwydd i wrando a gweithredu ar gyngor arbenigwyr allanol a gweddill y Bwrdd.

“Mae cydnabyddiaeth llawn gan bawb na fydd hon yn broses gyflym na hawdd gyda rhagor o waith manwl o’u blaenau. Fel bo pob ymchwiliad annibynnol yn cael ei gwblhau, mae’n rhaid i’r cynllun ymateb gael ei addasu a’i gryfhau.

“Wrth edrych i’r dyfodol, rwy'n hyderus y bydd y Bwrdd yn gallu parhau i lywio'r cynllun gwaith sy'n esblygu yn effeithiol a chynghori, craffu a herio er mwyn sicrhau bod argymhellion yn cael eu cyflawni’n llawn.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Nia Jeffreys, Arweinydd Cyngor Gwynedd:

“Mae’n bwysig pwysleisio ein bod fel Cyngor yn parhau i gadw’r goroeswyr a’u teuluoedd, a phawb sydd wedi cael eu heffeithio gan yr hyn ddigwyddodd, ar flaen ein meddyliau a bod eu cryfder yn ein sbarduno i edrych ar ein trefniadau a dysgu gwersi pellach gyda chymorth ac arweiniad y Bwrdd Rhaglen.

“Bydd cyfarfod y Cabinet, a chyflwyno’r adroddiad, yn gyfle i ddysgu mwy am y cynnydd sydd wedi ei gyflawni a’r gwaith sydd o’n blaenau. Rwyf yn ddiolchgar i’r Athro Holland am ei harweiniad arbenigol i’r broses allweddol yma.”

Yn ogystal, mae’r Cyngor wedi cwblhau ymchwiliad mewnol arall gan dderbyn adroddiad a gomisiynwyd gan ymchwilydd Adnoddau Dynol annibynnol i asesu os oedd ymateb Ysgol Friars, Llywodraethwyr yr ysgol a’r Cyngor i ganfyddiadau Adroddiad Panel Cwynion a gynhaliwyd yn 2019 yn ddigonol ac yn briodol.

Sefydlwyd nad oedd yr adroddiad hwnnw yn 2019 yn ymwneud â chwynion am faterion diogelu plant ond casglwyd hefyd y gellid fod wedi sicrhau gwell ymateb gan y Corff Llywodraethu a gan y Cyngor, i argymhellion y Panel.

Mae’r Corff Llywodraethwyr a’r Cyngor yn croesawu argymhellion yr adroddiad, ac yn ymrwymo i sicrhau y bydd pob argymhelliad yn derbyn ymateb trwyadl er mwyn sicrhau fod ymateb gwell mewn unrhyw sefyllfa o'r fath yn y dyfodol. Bydd y Bwrdd Rhaglen, dan gadeiryddiaeth yr Athro Sally Holland, yn monitro a herio’r cynnydd yn gyson.