Adroddiad Estyn yn canmol Cyfundrefn Addysg Drochi Gwynedd
Dyddiad: 11/06/2025
Mae Cyngor Gwynedd wedi croesawu adroddiad diweddar gan yr arolygiaeth addysg a hyfforddiant cenedlaethol sy’n tynnu sylw at gryfderau sylweddol Cyfundrefn Addysg Drochi’r sir, gan ei disgrifio fel “[d]darpariaeth hynod werthfawr” i ddisgyblion sy’n newydd-ddyfodiaid i’r Gymraeg.
Yn dilyn arolygiad a gynhaliwyd ym mis Mawrth 2025, mae Estyn wedi canmol y ffordd y mae’r gyfundrefn wedi’i hailstrwythuro ers Ionawr 2023, gyda chwe uned drochi iaith wedi’u sefydlu ar draws tair ardal – Arfon, Dwyfor a Meirionnydd.
Mae’r unedau hyn yn cynnig cwrs dwys 10 wythnos i gefnogi disgyblion i ymdoddi i’r gymdeithas ddwyieithog a chymryd rhan lawn mewn addysg Gymraeg.
Yn ôl yr adroddiad, mae’r ddarpariaeth wedi cael ei harwain gan bennaeth medrus, gyda thîm o athrawon a chymorthyddion sy’n arddel egwyddorion trochi iaith yn effeithiol. Mae’r staff yn meithrin perthynas gadarnhaol â disgyblion, gan greu amgylchedd dysgu cynhwysol a Chymreig sy’n annog hyder a pharch.
Mae Estyn hefyd yn tynnu sylw at y defnydd o adnoddau digidol a rhithwir, yn ogystal â’r cynllun ‘Aberwla’, sy’n ysgogi diddordeb disgyblion ac yn cefnogi eu datblygiad ieithyddol. Mae Aberwla bellach yn cael ei ddefnyddio mewn canolfannau iaith gan awdurdodau addysg ar draws y wlad mwyn galluogi plant o bob cwr o Gymru i ddatblygu ac ymarfer eu sgiliau Cymraeg.
Dywedodd y Cynghorydd Dewi Jones, Aelod Cabinet dros Addysg ar Gyngor Gwynedd:
“Rydw i’n falch iawn o’r adroddiad hwn ac yn ddiolchgar i Estyn am eu gwaith trylwyr. Cefais y fraint o ymweld â’r Uned Drochi yn Nhywyn yn ddiweddar a chael gweld gyda fy llygaid fy hun y gwaith gwych sy’n cael ei wneud yno ac angerdd y staff dros drosglwyddo’r iaith i bobl ifanc yr ardal.
“Hoffwn ddiolch a thalu teyrnged i staff yr Adran Addysg am eu gwaith yn y maes, ac yn arbennig Rhys Glyn – cyn bennaeth y gwasanaeth trochi sydd wedi ymddeol yn ddiweddar – am arwain y gyfundrefn yn fedrus er mwyn ei datblygu i fod yn arloesol.
“Edrychwn ymlaen i ddefnyddio cynnwys yr adroddiad i’n helpu i wella a chryfhau’r ddarpariaeth ymhellach, a pharhau i adeiladu ar y sylfeini cadarn hyn i sicrhau bod pob disgybl yn cael y cyfle i ffynnu trwy gyfrwng y Gymraeg.”
Ychwanegodd y Cynghorydd Nia Jeffreys, Arweinydd Cyngor Gwynedd:
“Mae Cyngor Gwynedd yn arwain y ffordd yn genedlaethol wrth annog y defnydd o’r Gymraeg ym mhob agwedd o fywyd ac mae hybu ffyniant y Gymraeg ym mhob rhan o’r sir yn flaenoriaeth i ni.
“Rhan allweddol o hyn yw sicrhau fod pob plentyn yng Ngwynedd yn gallu defnyddio’r Gymraeg yn hyderus yn yr ysgol ac yn gymdeithasol ac mae cyfundrefn Addysg Drochi Gwynedd yn ganolog i’r uchelgais hwn.
“Rwyf yn hynod falch o dderbyn yr adroddiad hwn gan Estyn a’r ffaith ei fod yn tanlinellu ymrwymiad Cyngor Gwynedd i hyrwyddo dwyieithrwydd ac i ddarparu cyfleoedd cyfartal i bob disgybl, waeth beth fo’u cefndir ieithyddol.
“Diolch i staff a llywodraethwyr y Canolfannau Trochi am eu hymrwymiad a’u cefnogaeth a dymunaf y gorau i ddisgyblion y canolfannau a’u teuluoedd ar eu siwrnai iaith.”
Mae adroddiad Estyn ar drefniadau trochi yn y Gymraeg Cyngor Gwynedd ar gael ar wefan yr arolygaeth: Adroddiad arolygiad Cyngor Sir Gwynedd 2025