Cyngor Gwynedd yn recriwtio gweithwyr Gwasanaethau Gofal – Digwyddiad Galw Heibio

Dyddiad: 10/09/2025

Mae Cyngor Gwynedd yn gwahodd aelodau o’r cyhoedd sydd â diddordeb mewn gweithio yn y maes gofal yn ardal Bangor i ddigwyddiad galw heibio.

Mae Cyngor Gwynedd yn recriwtio ar gyfer rolau Gweithwyr Gofal, Gweithwyr Cymunedol, a Staff Cegin ar gyfer gwasanaethau gofal yn yr ardal.

Bydd y sesiwn anffurfiol yn gyfle i glywed am y cyfleodd gwaith sydd ar gael ynghyd a chael mwy o wybodaeth am gyfleon hyfforddiant a datblygiad personol. Cynhelir y digwyddiad fel rhan o ymdrechion parhaus Cyngor Gwynedd i gryfhau gwasanaethau gofal lleol.

Dywedodd y Cynghorydd Dilwyn Morgan, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol Oedolion Cyngor Gwynedd:

“Ydych chi’n garedig, yn empathetig ac yn barod i wneud gwahaniaeth yn eich cymuned? Efallai mai swydd yn y sector gofal yw’r cam nesaf yn eich gyrfa. Does dim angen profiad blaenorol – rydym yn cynnig hyfforddiant llawn, cyfleoedd dysgu parhaus, a mynediad at becyn buddion cyflogaeth y Cyngor.

“Dewch draw i ddysgu mwy, cwrdd â’r tîm am sgwrs anffurfiol ac i ffeindio allan sut mae gwneud cais am swydd yn y sector holl-bwysig yma.”

Mae’r digwyddiad yn agored i bobl o bob oed a phrofiad – yn Storiel, Bangor; ddydd Iau, 16 Medi 2025; rhwng 10am a 5pm.

Am fwy o wybodaeth, ewch i’r wefan: www.gwynedd.llyw.cymru/galwgofalwyr