Prosiect atal llifogydd gan Gyngor Gwynedd yn datgelu hanes trefol

Dyddiad: 12/03/2026

Mae prosiect gwerth £675,000 fydd yn amddiffyn degau o gartrefi a busnesau yng Nghaernarfon rhag llifogydd wedi datgelu rhan o hanes lleol sydd wedi ei guddio o dan strydoedd prysur y dref. 

Mae’n bosib na fyddai’r rhan fwyaf o bobl yn ymwybodol fod yr Afon Cadnant yn llifo o dan eu traed wrth iddynt gerdded o gwmpas siopau, caffis a thafarndai tre’r Cofis. Ac wrth wneud y gwaith, mae peirianwyr Cyngor Gwynedd wedi gallu gweld llwybr tanddaearol yr afon sydd wedi bod yn guddiedig ers cenedlaethau. 

“Er fod yr Afon Cadnant yn afon fychan, mae wedi dylanwadu ar ddatblygiad tref Caernarfon ers canrifoedd,” eglurodd Emyr Gareth, Prif Beiriannydd gyda Chyngor Gwynedd. “Rydan ni wedi bod yn gweithio ar brosiect sy’n gwarchod 80 o gartrefi a 39 o eiddo busnes rhag llifogydd wedi cael ei ariannu ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Gwynedd.  

“Rydan ni wedi gosod sgrin newydd sy’n atal sbwriel a malurion rhag cael mynd i sianel yr Afon Cadnant. Petai rhwystr i lif yr afon o dan strydoedd y dref, byddai yn gallu achosi llifogydd a phroblemau mawr i’r gymuned leol.” 

Fel rhan o’r gwaith peirianyddol arbenigol, anfonwyd drôn i ddilyn cwrs yr afon o dan y ddaear am 900 metr, gan ddatgelu am y tro cyntaf ers cenedlaethau yr hyn sy’n digwydd o dan ein traed. I lawer, tan heddiw, enwau strydoedd fyddai’r unig gliw am yr hyn sydd wedi ei guddio ond bellach mae’r ffilm dynnwyd gan y drôn i’w weld ar wefan y Cyngor.  

Dyma dipyn o hanes yr Afon Cadnant, wrth iddi ymdroelli tua’r Fenai: 

  • Mae’r Afon Cadnant yn diflannu o dan y ddaear ger y gylchfan rhwng Ffordd Llanberis, Ffordd Bethel a Thanrallt. Dyma ble mae’r sgrin sbwriel newydd wedi ei gosod fel rhan o’r prosiect atal lifogydd. 
  • Mae’r afon yn llifo trwy gyfres o gwlfertiau cudd o dan y dref. Yn ystod yr Oes Fictoriaidd, ehangwyd y cwlfert. 
  • Mae ardal Penllyn (ble saif y maes parcio aml-lawr heddiw) yn allweddol. Am tua 800 mlynedd, roedd llyn bach yma. Dyma wrth gwrs yw gwraidd enwau strydoedd Penllyn a Stryd y Llyn. Adeiladwyd y darn olaf o’r cwlfert yma yn 1996-97. 
  • Mae’r cwlfert yn cynnwys nifer o ddarnau unigryw oherwydd ei oedran a’i natur adeiladwaith. 
  • Roedd y llyn yn gwagio drwy fwâu pont, gan droi melin ddŵr ymhellach i lawr ei thrywydd. Mae’r nodweddion hyn wedi’u hadlewyrchu yn enwau strydoedd fel Ffordd y Felin a’r Bont Bridd. 
  • Mae’r fideo drôn yn dangos yr afon yn cwympo oddeutu 4 metr, o dan lôn Bont Bridd ger Canolfan Penllyn. 
  • Yn 1868, cafodd yr Afon Cadnant ei sianelu i ffos yn Noc Fictoria gan Ymddiriedolaeth Harbwr Caernarfon. Hyd heddiw, mae’r afon yn dod allan i’r Fenai yn ardal y Doc a phan fo’r llanw’n caniatáu, gellir gweld swigod yn codi i’r wyneb ger adeilad yr Archifdy.  

 

 Dywedodd y Cynghorydd June Jones, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros yr Adran Priffyrdd, Peirianneg ac YGC: 

“Dros y blynyddoedd, mae isadeiledd Caernarfon wedi cael ei siapio gan yr afon. Ein blaenoriaeth ni heddiw wrth gwrs ydi amddiffyn cartrefi a busnesau’r dref rhag llifogydd a dwi’n hynod falch ein bod wedi gallu cydweithio gyda Llywodraeth Cymru a buddsoddi yn y prosiect yma er budd y gymuned leol. 

“Mae’r fideo a dynnwyd fel rhan o’r gwaith peirianyddol yn hynod ddifyr a dwi’n siŵr y bydd gan bobl ddiddordeb dysgu am yr afon. Pwy feddylia fod prosiect cyfoes a defnydd o dechnoleg modern wedi ein helpu i gysylltu â hanes tref Caernarfon.”   

Dywedodd Dirprwy Brif Weinidog Cymru gyda chyfrifoldeb am Newid yn yr Hinsawdd, Huw Irranca-Davies:

"Bydd ein buddsoddiad yn y cynllun hwn, sydd bron i £590,000, yn cyflawni buddion hir-dymor o dros 119 eiddo yn yr ardal - ac mae'n enghraifft arall o'n hymrwymiad diwyro i roi sylw i'r heriau rydym yn eu hwynebu yn sgil newid yn yr hinsawdd.

"Yn ddiweddar, rydym wedi buddsoddi dros £377m i warchod cymunedau ledled Cymru rhag tywydd sy'n gynyddol eithafol ac anodd i'w ragweld, gyda chyllid digynsail eleni yn codi i £85 miliwn."

I wylio’r fideo cliciwch yma: Yr afon gudd o dan Gaernarfon