Gorchymyn Cau wedi ei sicrhau ar gyfer siop City Mini Market ym Mangor
Dyddiad: 03/03/2026
Mae Gorchymyn Cau wedi ei gyflwyno trwy’r llys ar gyfer siop ‘City Mini Market’ ar y Stryd Fawr ym Mangor yn dilyn gwerthiant tybaco a fêps yn anghyfreithlon.
Ar ôl sawl mis o ymchwiliad gan swyddogion Safonau Masnach Cyngor Gwynedd a chefnogaeth gan Heddlu Gogledd Cymru, caniataodd Llys Ynadon Caernarfon y gorchymyn ar 2 Mawrth. Mae'r dyfarniad yn golygu y bydd y siop, sydd bellach yn cael ei henwi'n 'Top Shop', yn aros ar gau am dri mis.
Mae hyn yn dilyn Hysbysiad Cau a gyhoeddwyd ar 17 Chwefror gan Safonau Masnach Gwynedd o dan Adran 76 o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 ar y safle a landlord ‘City Mini Market’, 280 Stryd Fawr, Bangor. Cymerwyd y camau hyn, gyda chefnogaeth Heddlu Gogledd Cymru, oherwydd cyflenwad anghyfreithlon o fêps a chynhyrchion tybaco yn ogystal â theganau ffug a allai fod yn anniogel.
Dywedodd y Cynghorydd Craig ab Iago, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros yr Amgylchedd:
"Pan fydd pobl yn ymweld â siop, mae ganddyn nhw hawl i ddisgwyl bod yr hyn maen nhw'n ei brynu yn ddiogel ac yn ddilys. Rwy'n ddiolchgar i dîm Safonau Masnach Cyngor Gwynedd am eu gwaith trylwyr gyda'r achos hwn a sicrhau diogelwch trigolion Gwynedd.
"Er bod ein swyddogion bob amser yn anelu at ymgysylltu'n gadarnhaol efo busnesau i'w helpu i ddeall eu cyfrifoldebau, mae pwynt yn dod lle does gennym ddewis ond cymryd camau cyfreithiol.
"Mae'r gorchymyn cau hwn yn anfon neges glir am ein hymrwymiad i fynd i'r afael â'r cyflenwad o gynhyrchion anghyfreithlon yn ein cymunedau.
"Rydym yn annog y cyhoedd i fod yn hynod ymwybodol o'r hyn maen nhw'n ei brynu a pheidio â chefnogi'r fasnach anghyfreithlon hon sy'n peri risgiau gwirioneddol i bob un ohonom."
Mae'r siop ar 280 Stryd Fawr ym Mangor wedi bod yn ymwneud â gwerthu sigaréts anghyfreithlon, fêps tybaco tra o dan reolaeth mwy nag un perchennog busnes – gyda newidiadau aml mewn perchnogaeth, tacteg hysbys a ddefnyddir i osgoi camau gorfodi.
Yn ystod y cyfnod ymchwilio, fe wnaeth swyddogion Safonau Masnach Cyngor Gwynedd atafaelu nifer sylweddol o fêps anghyfreithlon a theganau ffug. Gweithiodd y Cyngor yn agos gydag asiantaethau partner gan gynnwys Safonau Masnach Cenedlaethol a CThEM, gyda sawl pryniant prawf llwyddiannus yn cadarnhau cyflenwad tybaco a sigaréts anghyfreithlon.
Yn dilyn yr ymdrech gydgysylltiedig hon, bydd y busnes, sydd bellach o dan yr enw 'Top Shop' ar gau am dri mis (tan hanner nos ar 2 Mehefin), a bydd swyddogion Safonau Masnach ynghyd â phartneriaid yn parhau i fonitro'r safle ac unrhyw fusnes arall sy'n torri'r gyfraith.
Gall fêps anghyfreithlon fod yn niweidiol iawn. Maent yn aml yn cynnwys cryfderau nicotin uwchlaw terfynau cyfreithiol, a gallant hefyd gynnwys cemegau anghyfreithlon, a allai fod yn niweidiol.
Mae tîm Safonau Masnach ymroddedig Gwynedd yn defnyddio ystod o ddulliau ymchwilio, gan gynnwys cŵn canfod tybaco, i ddarganfod cynhyrchion cudd - arwydd clir bod gweithredwyr yn gwbl ymwybodol o'u gweithgareddau anghyfreithlon. Mae gweithio partneriaeth agos o fewn a thu hwnt i'r Cyngor yn parhau i fod yn hanfodol wrth fynd i'r afael â'r mater cynyddol hwn.
Mae aelodau o'r cyhoedd yng Ngwynedd sydd ag unrhyw wybodaeth am bobl y maent yn credu a allai fod yn rhan o weithgareddau masnachu anghyfreithlon neu unrhyw un y maent yn credu a allai fod yn ddioddefwr gweithgaredd o'r fath yn cael eu hannog i gysylltu â thîm Safonau Masnach Cyngor Gwynedd www.gwynedd.llyw.cymru/safonaumasnach