Cyngor Gwynedd yn osgoi toriadau i wasanaethau hanfodol
Dyddiad: 06/03/2026
Mewn cyfarfod o Gyngor Gwynedd heddiw, gosodwyd gyllideb o £380 miliwn a rhaglen gyfalaf o oddeutu £40 miliwn ar gyfer blwyddyn ariannol 2026/27.
Mae osgoi torri gwasanaethau hanfodol i bobl y sir a chadw unrhyw gynnydd mewn biliau treth Cyngor mor fychan a phosib yn flaenoriaeth i Gyngor Gwynedd.
Bydd y gyllideb yn caniatáu buddsoddi yn y gwasanaethau mae pobl Gwynedd yn dibynnu arnynt, gan gynnwys gofal plant, cartrefi i bobl hŷn, gofal i bobl ag anableddau dysgu a gwasanaethau iechyd meddwl. Ac am y tro cyntaf ers blynyddoedd, bydd modd cynnig mwy o gefnogaeth i blant sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol a chynyddu cyllidebau Ysgolion Arbennig.
Dywedodd y Cynghorydd Huw Wyn Jones, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Gyllid:
“Mae cyllideb y Cyngor yn effeithio pob un ohonom.
“Mae’n rhaid i ni gael arian i dalu am y gwasanaethau a’r adnoddau ma pawb yn eu defnyddio – pethau fel cartrefi gofal, casgliadau gwastraff ac addysg ein plant. Rydym yn derbyn grantiau gan Llywodraeth Cymru ac yn codi Treth Cyngor ar gyfer hyn.
“Eleni, mae mwy o arian wedi dod gan y Llywodraeth yng Nghaerdydd sy’n golygu na fydd rhaid i ni dorri gwasanaethau rheng flaen hanfodol, fydd yn rhyddhad i bobl Gwynedd dwi’n siŵr.
“Wedi dweud hynny, mae costau pethau fel trydan, disel, bwyd a deunyddiau adeiladu yn parhau i godi ac mae mwy o alw nag erioed am ein gwasanaethau. Fel trigolion lleol a busnesau’r sir, rhaid i ni gario mlaen i gynllunio’n ofalus ac edrych ar ôl pob ceiniog.
“Er ein bod yma yng Ngwynedd wedi derbyn mwy na’r disgwyl gan y Llywodraeth, dydi’r cynnydd yn yr arian sy’n dod i fewn dal ddim yn ddigon i dalu am y cynnydd mewn costau.
“Mae’r Cyngor llawn felly wedi cytuno i godi’r dreth Cyngor o 5.17%. I rhywun sy’n byw mewn eiddo ‘Band D’, mae hyn yn golygu byddan nhw’n talu £2,006.11 y flwyddyn, sy’n gynnydd o £98.62 yn flynyddol neu £1.90 yn fwy yr wythnos.
“Does yr un ohonom eisiau gorfod cynyddu Treth y Cyngor o gwbl wrth gwrs a rydym wedi gwneud popeth o fewn ein gallu i gadw’r cynnydd hwn mor fychan a phosib heb gosbi pobl sy’n ddibynnol ar wasanaethau’r Cyngor.”
Mae rhai o’r enghreifftiau o gostau ychwanegol mae’r Cyngor yn eu wynebu yn cynnwys:
- mwy o oedolion gydag anableddau dysgu angen cefnogaeth i fyw’n annibynnol, sy’n costio mwy na £1miliwn i’r Cyngor;
- cynnydd yn y galw am ofal preswyl i bobl sydd â anhwylderau iechyd meddwl dwys, sy’n costio mwy na £1 miliwn arall i’r Cyngor;
- gwaith cynnal a chadw hanfodol i adeiladau fel ysgolion, cartrefi henoed, llyfrgelloedd a chanolfannau hamdden, sy’n costio £2 miliwn i’r Cyngor.
Ychwanegodd y Cynghorydd Nia Jeffreys, Arweinydd Cyngor Gwynedd:
“Ni all un setliad gan Llywodraeth Cymru wneud yn dda am flynyddoedd o lymder a thoriadau i gyllidebau llywodraeth leol.
“Er ein bod yn rhoi pob ymdrech i gadw’r Dreth Cyngor mor isel a phosib , rydw i’n gwybod yn iawn fod unrhyw gynnydd yn ychwanegu i’r baich ariannol sydd ar bobl Gwynedd, yn enwedig pobl sy’n ei chael yn anodd yn barod.
“Os ydych yn ei chael yn anodd i dalu eich bil Treth Cyngor, plîs cysylltwch â Gwasanaeth Trethi’r Cyngor i weld beth y gallwn ei wneud i’ch helpu. Mewn rhai amgylchiadau, mae’n bosib gwneud trefniant talu arbennig neu efallai eich bod yn gymwys am ostyngiad neu eithriad. Gallwch gysylltu â’r tîm drwy wefan y Cyngor neu ffonio 01286 682700.
“Mae help hefyd ar gael gyda costau byw eraill, fel sut i hawlio bydd-daliadau, help i gadw’ch cartref yn gynnes a chymorth i fynd ar-lein i ffeindio’r cynigion gorau. Mae llawer o wybodaeth ar wefan Cyngor Gwynedd www.gwynedd.llyw.cymru/CymorthCostauByw neu gallwch fynd i un o’r Hybiau Cymunedol sydd ar draws y sir.”
Mae’r adroddiad llawn fu gerbron y Cyngor ar gael ar y wefan: Rhaglen ar gyfer Y Cyngor ar Dydd Iau, 5ed Mawrth, 2026, 1.30 y.h.
Nodiadau
- Mae’r cynnydd yn y Dreth Cyngor yn cynnwys cyfraniad i’r Gwasanaeth Tân ac Achub, Comisiynydd Heddlu a Throsedd a chynghorau cymuned a thref y sir.
- Dros y 10 mlynedd ddiwethaf, mae Cyngor Gwynedd wedi gorfod gwneud £47 miliwn o doriadau oherwydd cyllidebau sy’n crebachu a cynnydd yn galw am wasanaethau.