Ail-agor Cronfa Cefnogi Cynghorau Dinas, Tref a Chymuned Gwynedd
Dyddiad: 10/03/2026
Mae Cronfa Cefnogi Cynghorau Dinas, Tref a Chymuned Gwynedd wedi ail-agor ar gyfer 2026 yn dilyn llwyddiant cynllun peilot llynedd.
Mae’r gronfa wedi’i sefydlu er mwyn galluogi cymunedau i wella edrychiad, cyfleusterau a bwrlwm trefi a phentrefi ar draws y sir trwy welliannau bach, effaith uchel.
Nod y gronfa yw ymateb yn uniongyrchol i anghenion a blaenoriaethau trigolion ar draws Gwynedd, gan gyfarch tair thema benodol:
- gwelliannau i ofodau cymunedol,
- gwelliannau mannau cyhoeddus,
- adfywio canol trefi a’r stryd fawr.
Mae cyllideb o £400,000 wedi’i hymrwymo ar gyfer y gronfa eleni drwy nawdd Gronfa Effaith Balchder Bro (Llywodraeth y Deyrnas Unedig) sy’n cael ei weinyddu gan Cyngor Gwynedd. Gall gymunedau ymgeisio am rhwng £5,500 a hyd at £8,500 y gymuned.
Llynedd bu’r cynllun peilot yn allweddol wrth wireddu nifer o brosiectau cymunedol ar draws y sir. Mae ffocws y gronfa eleni ar gynlluniau cyfalaf sy’n cynnig cyfle pellach i fuddsoddi mewn prosiectau seilwaith cymunedol. Rhai enghreifftiau posib fyddai gwelliannau i fannau chwarae, gwella hygyrchedd, a harddu mannau cyhoeddus.
Dywedodd y Cynghorydd Medwyn Hughes, Aelod Cabinet Economi a Chymuned Cyngor Gwynedd:
“Mae’r Gronfa yma wedi ei greu er mwyn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i drigolion a chymunedau Gwynedd. Mae’r adborth rydym wedi ei dderbyn gan gymunedau i brosiectau llynedd wedi bod yn bositif iawn, gyda llawer yn dweud na fyddent wedi gallu gwireddu eu cynlluniau heb y gefnogaeth ariannol yma.
“Rydym yn edrych ymlaen i gyd-weithio eto eleni gyda’r Cynghorau Dinas, Tref a Chymuned i gyflawni rhagor o welliannau sydd wedi eu siapio gan ddymuniadau’r gymuned.
“Mae’r Gronfa yn agored i holl Gynghorau Lleol yng Ngwynedd. Dwi’n gobeithio’n fawr y bydd pob ardal yn gweld y manteision ac yn elwa ar y cyfle hwn.”
Er mwyn sicrhau bod y prosiectau’n adlewyrchu anghenion a blaenoriaethau trigolion lleol mae’r cynghorau tref a chymuned yn cael eu hannog i drafod gyda’r gymuned cyn cyflwyno ceisiadau.
Mae swyddogion Cefnogi Cymunedau Cyngor Gwynedd ar gael i ddarparu cymorth ar gynlluniau posibl trwy gydol y cyfnod ymgeisio. Gellir cysylltu drwy e-bost: cefnogicymunedau@gwynedd.llyw.cymru
Bydd y gronfa yn cau i geisiadau ar 15 Mehefin, 2026.