Penodi Pennaeth Adran Oedolion Cyngor Gwynedd
Dyddiad: 21/05/2025
Mae Mari Wynne Jones wedi ei phenodi i fod yn Bennaeth Adran Oedolion, Cyngor Gwynedd yn dilyn cyfarfod diweddar o Bwyllgor Penodi Uwch Swyddogion y Cyngor.
Mae Mari yn weithiwr cymdeithasol ac wedi gweithio i Gyngor Gwynedd ers 25 mlynedd ac ar hyn o bryd yn Bennaeth Cynorthwyol Anableddau Dysgu. Cyn hyn, bu yn Bennaeth Cynorthwyol Gwasanaeth Anableddau a Phobl Hŷn. Fel swyddog mae wedi arwain ar waith yn y maes Gwaith Cymdeithasol a darparu gwasanaethau.
Mae Mari yn olynu Aled Davies sydd yn camu lawr o’r rôl wedi 38 blynedd o wasanaeth i’r Cyngor, gan ddechrau ei yrfa gyda’r hen Gyngor Dosbarth Dwyfor, a dros 10 mlynedd fel Pennaeth yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant.
Yn enedigol o, ac yn parhau i fyw yn Llanuwchllyn mae Mari yn gyn ddisgybl Ysgol O.M Edwards, Llanuwchllyn ac Ysgol Y Berwyn, Y Bala.Yn dilyn hyn bu Mari yn astudio Gradd mewn Cymraeg a Chymdeithaseg ac wedyn cwrs dilynol Diploma Mewn Gwaith Cymdeithasol ym Mhrifysgol Bangor.
Ar ei phenodiad, dywedodd Mari:
“Mae’n anrhydedd cael fy mhenodi i’r rôl bwysig yma. Rydw i wedi bod yn ffodus i weithio yn y maes gofal cymdeithasol yng Ngwynedd gydol fy ngyrfa ac rwyf yn edrych mlaen i arwain yr Adran i’r dyfodol. Er yr heriau sy’n wynebu’r maes, mae’n cynnig nifer o gyfleon i ddatblygu’r Adran i gefnogi oedolion Gwynedd i gyflawni’r hyn sydd yn bwysig iddynt i’r dyfodol.”
Ychwanegodd y Cynghorydd Dilwyn Morgan, Aelod Cabinet dros Oedolion, Iechyd a Llesiant, Cyngor Gwynedd:
“Rydw i’n hynod falch ein bod wedi llwyddo i benodi unigolyn brwdfrydig ac ymroddedig i’r rôl allweddol yma. Mae Mari yn dod a chyfoeth o brofiad yn y maes gofal cymdeithasol ac anableddau dysgu i’r rôl, a hoffwn ei llongyfarch yn wresog ar ei phenodiad.
“Mae’r maes Oedolion, Iechyd a Llesiant yn flaenoriaeth allweddol i ni yng Ngwynedd, fel sydd wedi ei amlygu yng Nghynllun y Cyngor 2023-28 o dan y flaenoriaeth Gwynedd Ofalgar. Mae’r adroddiad Llechen Lân a gyhoeddwyd gennym fis Medi 2024 yn amlinellu ein gweledigaeth ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol i’r dyfodol yma yng Ngwynedd ac edrychwn ymlaen at weld Mari yn ein harwain trwy’r weledigaeth a’r argymhellion.
“Hoffwn hefyd ddiolch yn fawr i Aled Davies am ei wasanaeth, a dymuno’n dda iddo ar y bennod nesaf.”
Dywedodd y Cynghorydd Nia Jeffreys, Arweinydd Cyngor Gwynedd: “Llongyfarchiadau mawr i Mari ar ei phenodiad, mae’n bleser gweld staff y Cyngor yn dringo i fyny’r rhengoedd a dwi’n edrych ymlaen i’w gweld yn arwain yr Adran bwysig hon. Bydd chwith ar ôl Aled a dymunaf y gorau iddo i’r dyfodol.”
Bydd Mari yn dechrau yn ei swydd newydd ar 1 Mehefin, 2025.