Gwelliannau ar y gweill i rai o briffyrdd Gwynedd
Dyddiad: 23/05/2025
Bydd nifer o ffyrdd yng Ngwynedd yn gweld gwelliannau dros y ddwy flynedd nesaf wedi i Gyngor Gwynedd dderbyn grant gwerth £7.8 miliwn gan Lywodraeth Cymru.
Mae’r buddsoddiad yn cynnwys gwelliannau i dros i 60 o ffyrdd, llwybrau a strwythurau mewn ardaloedd ar hyd a lled Gwynedd; o Lanrug i Lanystumdwy ac o Dudweiliog i Dywyn.
Bu i Gyngor Gwynedd ddarparu tystiolaeth gadarn i Lywodraeth Cymru am yr angen am fuddsoddiad ac o ganlyniad mae Menter Benthyca Llywodraeth Leol wedi ei ganiatáu ar gyfer buddsoddiad cyfalaf i wella priffyrdd yn ystod y cyfnod 2025-2027.
Mae’r cynlluniau yn cynnwys:
- gwaith ail-wynebu ffyrdd,
- gwaith ‘tar a chip’,
- trwsio llwybrau troed
- gwaith ar strwythurau priffyrdd fel pontydd neu waliau cynnal
Meddai’r Cynghorydd Nia Jeffreys, Arweinydd Cyngor Gwynedd:
“Mae cyflwr y ffyrdd yn rhywbeth sy’n poeni nifer fawr o bobl leol, ond oherwydd sefyllfa ariannol ddyrys awdurdodau lleol nid ydym wedi gallu buddsoddi yn y rhwydwaith fel yr hoffem. Dwi’n hynod falch felly fod ein cais drwy’r Cynllun Benthyca Llywodraeth Leol wedi bod yn llwyddiannus.
“Bydd y buddsoddiad yma yn gwneud gwahaniaeth enfawr a thargedu’r ardaloedd mwyaf anghenus o ran tyllau mewn ffyrdd, ail-wynebu, llwybrau cerdded, a strwythurau eraill.”
Ychwanegodd y Cynghorydd June Jones, Aelod Cabinet gyda chyfrifoldeb dros Priffyrdd, Peirianneg a Ymgynghoriaeth Cyngor Gwynedd;
“Mae’r newyddion hynod o dda yma am ein galluogi i gyflwyno rhaglen waith llawer ehangach na’r hyn fyddai wedi gallu derbyn sylw heb y buddsoddiad hwn.
“Mae’r newyddion yma hefyd yn golygu bydd y Cyngor yn gallu cynllunio gwariant yn llawer gwell. Er enghraifft, yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf gwariwyd £750,000 ar lenwi tyllau ar ein rhwydwaith yma yng Ngwynedd. Nid yw hyn yn ddefnydd gorau o’n harian refeniw cynnal ffyrdd gan ei fod yn llwyr ymatebol.
“Drwy’r buddsoddiad hwn dros ddwy flynedd, rydym yn ffyddiog byddwn yn lleihau ein gwariant brys ar lenwi tyllau yn y ffordd a gwario mwy ar waith ail-wynebu rhaglenedig.”
Nodiadau:
Rhagor o wybodaeth yma: Hwb benthyca o £120m i gynghorau lleol drwsio ffyrdd | LLYW.CYMRU