Ethol Cadeirydd newydd i Gyngor Gwynedd
Dyddiad: 01/05/2025
Yng nghyfarfod blynyddol Cyngor Gwynedd ar 1 Mai, etholwyd y Cynghorydd Ioan Ceredig Thomas (Menai, Caernarfon) yn Gadeirydd Cyngor Gwynedd a’r Cynghorydd Elin Walker Jones (Glyder, Bangor) yn Is-Gadeirydd.
Yn Gynghorydd Gwynedd ers sawl blwyddyn, mae’r Cynghorydd Ioan Thomas wedi gwasanaethu ar nifer o bwyllgorau, gan gynnwys Cabinet y Cyngor.
Wrth gael ei ethol yn Gadeirydd Cyngor Gwynedd, dywedodd y Cynghorydd Ioan Thomas:
“Mae hi’n fraint ac anrhydedd cael fy ethol yn Gadeirydd Cyngor Gwynedd.
”Rwy’n edrych ymlaen, at wneud fy ngorau i wasanaethu a hybu gwaith y Cyngor a holl drigolion Gwynedd yn ystod y flwyddyn sydd i ddod.”