Agor y Gist - Grantiau cyfalaf a refeniw ar gael i gymunedau Gwynedd
Dyddiad: 22/05/2025
Mae grantiau hyd at £100,000 ar gael drwy Gyngor Gwynedd i grwpiau gwirfoddol a chymunedol y sir, gyda’r bwriad o wella safon bywyd pobl leol.
Mae’r Cyngor yn annog grwpiau lleol i ystyried gwneud cais am y grantiau cyfalaf neu refeniw sydd ar gael drwy dri cynllun gwahanol:
Cronfa Cefnogi Adfywio Cymunedau
Gwahoddir ceisiadau Cyfalaf a/neu Refeniw gwerth rhwng £10,000 a £100,000, wedi i Gyngor Gwynedd dderbyn cyllideb drwy Raglen Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU er mwyn cefnogi prosiectau yn y maes Adfywio Cymunedau.
Nod y gronfa yw darparu cefnogaeth ddwys i gefnogi grwpiau newydd a chynnar mewn ardaloedd â chapasiti cymunedol isel, drwy ariannu cynlluniau fydd yn dod a budd uniongyrchol.
Cronfa Cefnogi Cymunedau – Cist Gwynedd
Cynigir grantiau hyd at £10,000 i ar gyfer cynlluniau sy'n adlewyrchu un neu fwy o'r amcanion isod:
• Annog cymunedau i gymryd rôl fwy rhagweithiol yn eu hardaloedd
• Adnabod ac ymateb i anghenion cymdeithasol, ieithyddol a diwylliannol y gymuned
• Hybu buddsoddiad a datblygiad yr economi leol
• Gwella lleoliadau sy’n bwysig i gymunedau
• Cynyddu cyfleoedd gwaith, datblygiad sgiliau ymhlith unigolion o fewn cymunedau a hybu cyfle cyfartal i bawb
• Cefnogi gwirfoddolwyr a hyrwyddo cyfleoedd gwirfoddoli
• Annog gwarchod a chyfoethogi'r amgylchedd.
Cronfa’r Degwm
Mae Cronfa’r Degwm yn cynnig grantiau hyd at £3,000 i elusennau cofrestredig sy’n adlewyrchu un neu ragor o’r amcanion canlynol:
• Hybu gwybodaeth a gwerthfawrogiad o gelfyddydau a llenyddiaeth Cymru
• Darparu neu gynorthwyo i ddarparu cyfleusterau ar gyfer adloniant neu weithgarwch amser hamdden arall;
• Hybu diddordeb pensaernïol, hanesyddol neu wyddonol sy’n ymwneud a Chymru
Mae canran o’r gronfa (£300) ar gael i eisteddfodau lleol yng Ngwynedd.
Dywedodd y Cynghorydd Medwyn Hughes, Aelod Cabinet Economi a Chymuned, Cyngor Gwynedd: “Mae grantiau Cist Gwynedd yn cefnogi amrywiaeth o brosiectau sy’n arwain at gryfhau cymunedau ledled y sir. Dyma gyfle i’n trigolion wneud gwahaniaeth gwirioneddol yn eu cymunedau eu hunain.”
Ychwanegodd y Cynghorydd Nia Jeffreys, Arweinydd Cyngor Gwynedd:
“Mae pobol Gwynedd yn gwneud gwaith hollbwysig i ddod a bwrlwm i’n trefi a phentrefi. Rwyf yn gwybod yn iawn am y gwaith da yma ac y llwyr gwerthfawrogi pa mor anodd yw parhau oherwydd y cyfnod o galedi ariannol rydym yn byw drwyddo, rwyf felly yn annog grwpiau gwirfoddol a mudiadau cymunedol i wneud cais am yr arian hwn, mae gwybodaeth ar wefan y Cyngor.”
Mae pecynnau ymgeisio ar gyfer y cronfeydd yma ar gael ar wefan Grantiau Cymunedol Cyngor Gwynedd - Grantiau cymunedol / Cist Gwynedd
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau ydi 15 Mehefin 2025.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch gyda swyddfa Cist Gwynedd ar 01286 679870, neu drwy e-bostio: CistGwynedd@gwynedd.llyw.cymru