Gwynedd yn paratoi am ragor o dywydd garw
Dyddiad: 08/01/2026
Gyda’r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio fod mwy o dywydd garw ar y gorwel, mae Cyngor Gwynedd yn parhau i annog pobl i gymryd gofal os yn mentro allan.
Ers dydd Gwener, 2 Ionawr, bu rhannau o’r sir dan orchudd o eira gyda’r tymheredd wedi plymio o dan –9°C mewn rhannau o Feirionnydd. Er fod y tywydd wedi gwell erbyn ddydd Mawrth, mae’r amodau wedi parhau i fod yn heriol mewn rhai ardaloedd gan fod yr eira oedd wedi disgyn wedi cywasgu ar balmentydd ac ar lonydd cefn gan achosi amodau llithrig mewn sawl rhan o’r sir.
Mae’r tymheredd wedi codi erbyn hyn, ond mae’r awdurdodau bellach yn cadw golwg ar storm arall sy’n datblygu , gyda’r posibilrwydd y gall ddod a chwaneg o dywydd gaeafol i'r rhan yma o Gymru at ddiwedd yr wythnos a rhybuddion tywydd pellach wedi eu datgan.
Dros y cyfnod hwn, mae staff Cyngor Gwynedd wedi bod yn gweithio rownd y cloc i raeanu rhwydwaith o brif ffyrdd y sir ac i gadw’r bobl mwyaf bregus yn ein cymunedau’n ddiogel. Mae 4,500 tunnell o raean wedi ei ddefnyddio a rhwydwaith o 680 milltir o ffyrdd y sir wedi eu trin ar gyfartaledd o ddwywaith y diwrnod.
Meddai’r Cynghorydd June Jones, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros wasanaethau Priffyrdd:
“Mae amodau gyrru yn parhau i fod yn heriol a rydw i'n annog pobl i edrych ar y rhagolygon tywydd cyn mentro allan, yn enwedig gyda Storm Goretti ar y gorwel. Cymrwch bwyll a gyrrwch i’r amodau – er fod yr eira wedi dadmer gall y ffyrdd a’r palmentydd dal fod yn slic mewn llawer o ardaloedd.
“Mewn cyfnod o dywydd garw fel sydd wedi ei brofi dros y dyddiau diwethaf, bydd swyddogion yn cadw golwg fanwl ar ragolygon arbenigol gan y Swyddfa Dywydd. Bydd cylchdeithiau ein fflyd o gerbydau graeanu yn cael eu hamseru i gyd-fynd a’r amodau ac yn arferol bydd y gylchdaith gyntaf yn mynd allan fin nos, un arall yn hwyr yn y nos ac un arall yn oriau mân y bore.
“Y prif ffyrdd sy’n cael blaenoriaeth yw ffyrdd dosbarth A, ffyrdd i ysbytai, llwybrau trafnidiaeth gyhoeddus a ffyrdd i ysgolion. Wedi i'r gwaith yma gael ei gwblhau, bydd swyddogion yn mynd ymlaen i raeanu lonydd llai, sef ffyrdd dosbarth B.
“Rydw i’n ddiolchgar iawn i’r swyddogion am eu gwaith caled dan amodau anodd. Roedd rhai o’r gyrwyr wedi gorfod cerdded i’w gwaith gan nad oedd eu ceir yn gallu cael at y depos halen.”
Er yn deall rhwystredigaeth fod y tywydd wedi atal pobl rhag gyrru ar hyd ffyrdd y sir, mae’r Cyngor yn nodi y gall tywydd eithafol atal graean rhag gweithio’n effeithlon.
Eglurodd y Cynghorydd June Jones: “Mae graean yn helpu i atal dŵr ar y ffordd rhag rhewi. Ond yn anffodus, os ydi’r tymheredd yn gostwng o dan tua -7°C, nid yw’r graean yn gweithio’n effeithiol a gall rhew ffurfio.
“Yn yr un modd, os ydi eira trwchus yn disgyn ar ben haen o raean, nid yw’r halen yn gweithio’n effeithlon a nid yw’r eira a’r rhew yn dadmer. Mewn sefyllfa o’r fath, bydd ein staff yn defnyddio aradr i glirio’r eira ond mae hyn yn arafu’r gwaith.”
Nodiadau
Am gymorth i baratoi ar gyfer tywydd garw, ewch i wefan Cyngor Gwynedd: www.gwynedd.llyw.cymru/Argyfwng
Anogir y cyhoedd i wirio amodau tywydd a’r rhwydweithiau teithio cyn mentro allan. Mae gwybodaeth ddefnyddiol ar gael ar gyfryngau cymdeithasol: