Newyddion diweddaraf
Teithio llesol yng Ngwynedd: cyfle olaf i ddweud eich dweud
Os ydych chi’n cerdded, beicio neu’n defnyddio cadair olwyn i deithio yn lleol, cofiwch rannu eich barn am sut gellir gwneud gwelliannau fyddai’n gwneud hi’n haws ac yn fwy hygyrch i bawb.
Amgylchedd

Nodi blwyddyn ers cyhoeddi adroddiad Cyfiawnder Trwy Ein Dewrder
Flwyddyn ers cyhoeddi adroddiad annibynnol ac hollbwysig Cyfiawnder Trwy Ein Dewrder, mae Cyngor Gwynedd yn hyderus fod plant a phobl ifanc y sir yn fwy diogel heddiw ar ôl cyflawni nifer o welliannau i drefniadau diogelu.
Adolygiad Ymarfer Plant

Cyfle i fusnesau Gwynedd ddweud eu dweud
Arolwg Busnes 2026 - helpwch i lywio mentrau economaidd, prosiectau a gweithgareddau er budd busnesau yn y dyfodol.
Economi

Llyfrgell Caernarfon yn symud dros dro i Oriel Pendeitsh
Bydd gwasanaeth Llyfrgell Caernarfon yn symud dros dro i Oriel Pendeitsh, Caernarfon, yn ystod mis Tachwedd
Diwylliant a hamdden

Dathliad Cerflun Darllen y Graig yn Llanberis
Daeth aelodau o gymuned Llanberis ynghyd yn ddiweddar i ddathlu gwaith celf newydd sydd yn nodi cysylltiad y pentref â’r diwydiant llechi.
Diwylliant a hamdden

Grantiau Trechi Tlodi - Gwnewch gais
Cyllid ar gael i ddatblygu, gwella ac ehangu gweithgareddau cymunedol sy'n cyfrannu at atal tlodi ac yn cefnogi gwell mynediad at gyngor, cymorth a gwasanaethau i bobl leol.
Economi

Gweithredu ar hinsawdd
Mae dros £7 miliwn wedi ei ymrwymo i weithredu prosiectau o fewn Cynllun Argyfwng Hinsawdd a Natur y Cyngor dros y pedair blynedd nesaf
Amgylchedd

Erlyniad llwyddiannus mewn achos o dipio anghyfreithlon ger Y Bala
Atgoffa trigolion fod tipio anghyfreithlon yn drosedd ddifrifol a all arwain at gamau gorfodi a chosbau ariannol sylweddol.
Amgylchedd

Dathlu llwyddiant y gyrrwr rali Elfyn Evans
Cefnogi digwyddiad arbennig yn Nolgellau i ddathlu llwyddiant y gyrrwr rali o Ddinas Mawddwy, Elfyn Evans
Diwylliant a hamdden

Cynllun Datblygu Lleol wedi sicrhau manteision sylweddol i gymunedau Gwynedd
Ers ei fabwysiadu yn 2017, mae Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd wedi darparu fframwaith effeithiol i gefnogi penderfyniadau a datblygiadau sydd wedi cyfrannu'n sylweddol at fynd i'r afael â heriau tai yng Ngwynedd, cefnogi'r economi, diogelu cyfleusterau cymunedol a rhoi ystyriaeth gadarn i'r Gymraeg.
Economi

Ymestyn Cynllun Dechrau'n Deg i Bwllheli
Mwy o blant ifanc a'u teuluoedd yn gallu cael mynediad at gymorth hanfodol yn ystod blynyddoedd cynnar bywyd wrth ymestyn Dechrau'n Deg i Bwllheli.
Addysg a phobl ifanc

Ymestyn cynnig gofal plant a ariennir gan Lywodraeth Cymru i bob plentyn dwy oed yng Ngwynedd
Gall teuluoedd ar draws Gwynedd bellach wneud cais am ofal plant a ariennir i bob plentyn dwy oed
Addysg a phobl ifanc
