Newyddion diweddaraf
Digwyddiadau Tai ar Daith Cyngor Gwynedd yn dod â chyngor tai i gymunedau
Dros yr wythnosau nesaf, bydd Cyngor Gwynedd yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau ‘Tai ar Daith’ trwy’r sir er mwyn rhannu gwybodaeth a chyngor am faterion tai gyda thrigolion.
Tai

Unedau busnes newydd ym Mharc Busnes Eryri ar fin cael eu cwblhau
Mae gwaith adeiladu deg uned fusnes newydd ym Mharc Busnes Eryri ym Minffordd, ger Penrhyndeudraeth, ar fin cael ei gwblhau, gan greu safleoedd modern, sero net i fusnesau lleol, ac mae gwahoddiad iddyn nhw ddod i weld yr unedau newydd mewn bore agored.
Economi

Cymorth i deuluoedd Gwynedd gyda chostau cinio ysgol
Wrth i gostau byw barhau i godi pryder i deuluoedd, mae Cyngor Gwynedd yn canolbwyntio ar sicrhau bod pob teulu sy’n gymwys yn cael gwybod am y hawl i ginio ysgol am ddim a sut i wneud cais. Mae’r mesur hwn yn allweddol i leddfu’r pwysau ariannol ar deuluoedd wrth i blant ddychwelyd i’r ysgol.
Economi

Cyngor Gwynedd yn atgyfnerthu ei bartneriaeth â’r trydydd sector
Cabinet Cyngor Gwynedd wedi cytuno i fabwysiadu cytundeb newydd a fydd yn cryfhau’r berthynas rhwng y Cyngor a’r trydydd sector
Democratiaeth

Hen Ysgol Cwm y Glo i gael bywyd newydd fel hwb elusen
Mae Cabinet Cyngor Gwynedd wedi cymeradwyo argymhelliad i roi prydles hir dymor i Fenter Fachwen, gan alluogi’r elusen i wireddu cynlluniau i ddatblygu hen safle Ysgol Cwm y Glo yn adnodd i’r elusen.
Economi

Dweud eich dweud ar deithio llesol yng Ngwynedd
Mae Cyngor Gwynedd yn awyddus clywed barn trigolion Gwynedd ar sut y gellir gwneud cerdded, olwyno a beicio yn fwy diogel, yn haws ac yn fwy hygyrch i bawb.
Diwylliant a hamdden

Cyngor Gwynedd i fabwysiadu Cynllun Gweithredu ar gyfer Atal Hunanladdiad a Hunan-niweidio
Ar drothwy Diwrnod Atal Hunanladdiad y Byd (Iau, 10 Medi), mae Cyngor Gwynedd yn tynnu sylw at yr egwyddor fod atal hunanladdiad yn “fusnes pawb” ac yn gyfrifoldeb ar y cyd rhwng sefydliadau, cymunedau ac unigolion.
Arall

Gŵyl Arfordir Llŷn
Dewch i ddarganfod, dathlu a chysylltu ag arfordiroedd unigryw Pen Llŷn drwy gyfres o ddigwyddiadau cyffrous sydd wedi'u cynllunio i ddod â phobl ynghyd.
Amgylchedd

Gwaith adfywio yn Nhywyn yn destun balchder lleol
Mae'r Cyngor wedi cwblhau rhaglen o waith adfywio celfyddydol yn Nhywyn
Diwylliant a hamdden

Canlyniadau TGAU 2026 – Cyngor Gwynedd yn llongyfarch disgyblion y sir
Mae Cyngor Gwynedd yn estyn llongyfarchiadau i ddisgyblion ledled y sir wrth iddynt dderbyn canlyniadau eu harholiadau TGAU.
Addysg a phobl ifanc

Gwella cyfleusterau toiledau ar Bromenâd y Gogledd, Abermaw
Uwchraddio toiledau cyhoeddus yn un o gyrchfannau glan môr mwyaf poblogaidd y sir
Amgylchedd

Hwb i Fangor - Cyllid wedi'i sicrhau ar gyfer prosiect Cysylltu Storiel Cyngor Gwynedd
Mae cynlluniau Cyngor Gwynedd i greu gofod diwylliannol a digwyddiadau awyr agored newydd yng nghanol Bangor wedi cymryd cam mawr ymlaen yn dilyn cyhoeddiad o gyllid sylweddol gan Lywodraeth Cymru er mwyn cefnogi cwblhau’r prosiect.
Economi
