Cwyn am Ysgol
Os oes gennych unrhyw bryder am addysg eich plentyn, neu os ydych yn ddisgybl mewn ysgol efo pryder, gallwch fel arfer ei ddatrys drwy siarad â phennaeth yr ysgol, athro dosbarth neu aelod arall o staff yr ysgol.
Gallwch ddod o hyd i fanylion cyswllt ysgolion Gwynedd drwy ein rhestr o ysgolion.
Mae gan bob ysgol ei Pholisi Delio gyda Chwynion ei hun. Gofynnwch am gopi ohono gan yr ysgol.
Ni all Awdurdod Addysg Cyngor Gwynedd ymateb i gwynion am ysgol benodol, mae'n rhaid i chi gyflwyno’r gŵyn honno yn uniongyrchol i’r ysgol. Os mai cwyn sy’n ymwneud â gwasanaethau’r Awdurdod Addysg sydd gennych (yn hytrach na chwyn am ysgol benodol) gallwch gyflwyno cwyn ffurfiol i Gyngor Gwynedd.
Gwneud cwyn am ysgol
Os ydych am wneud cwyn, rhaid cyflwyno’r gŵyn honno yn uniongyrchol i’r ysgol.
Cam A: Cwyn anffurfiol
Codi’r pryder yn anffurfiol efo’r athro dosbarth neu’r Pennaeth. Yn aml, gellir datrys materion yn syml ar y cam hwn.
Cam B: Cwyn ysgrifenedig
Os nad ydych yn teimlo bod eich cwyn wedi ei datrys dylech wneud eich cwyn yn ysgrifenedig i’r Pennaeth. Os mai’r Pennaeth yw testun eich cwyn, dylech ysgrifennu’ch cwyn at sylw Cadeirydd y Llywodraethwyr a defnyddio cyfeiriad yr ysgol. Bydd yr ysgol yn ymchwilio ac yn rhoi ymateb ffurfiol.
Cam C: Panel Cwynion
Os nad ydych yn fodlon efo’r ymateb yn Cam B gallwch ofyn i Banel Cwynion y Corff Llywodraethol edrych ar y gŵyn. Ni all y Panel Cwynion edrych ar unrhyw gŵyn hyd nes i unai’r Pennaeth neu’r Cadeirydd ddelio â’r gŵyn yn Cam B. Bydd y panel yn cyfarfod a byddwch yn cael gwahoddiad i ddod at y panel i egluro eich cwyn. Bydd y panel hefyd yn siarad â’r Pennaeth ac unrhyw un arall perthnasol i’r gŵyn. Yn dilyn y cyfarfod fe fyddwch yn derbyn ymateb ffurfiol gan y Panel yn egluro eu penderfyniad. Dyma’r cam olaf yn y broses ysgol.
Os am fwy o wybodaeth am Ddiogelwch a Lles mewn ysgolion ewch i: Diogelwch a lles; Bwlio; neu Cadw disgyblion yn ddiogel.