Diogelwch a lles
Am wybodaeth ychwanegol am unrhyw un o'r polisïau canlynol, neu i dderbyn copi o ganllawiau'r ysgol, cysylltwch â’r ysgol yn uniongyrchol. Am fanylion cyswllt ewch i'r Manylion Cyswllt Ysgolion.
Cymorth cyntaf mewn ysgolion
Mae gofyn ar bob ysgol i gael person dynodedig sydd wedi ei hyfforddi yn y maes hwn.
Mae gan bob ysgol hefyd ganllawiau unigol ynglŷn â chymorth cyntaf sydd yn cynnwys gwybodaeth fel:
- offer a chyfleusterau cymorth cyntaf addas
- amlinelliad o'r nifer o bersonél cymorth cyntaf sy'n rhaid i ysgolion eu cael
- y math o asesiad risg sy'n cael ei ddefnyddio er mwyn penderfynu ar anghenion cymorth cyntaf yr ysgol
Bwlio
Am unrhyw wybodaeth ynglŷn a bwlio, ewch i'r dudalen bwlio.
Grym rhesymol
Mae gan bob ysgol ganllawiau unigol ynglŷn â defnyddio grym rhesymol. Mae'r canllawiau'n cynnwys gwybodaeth fel:
- beth yw'r gyfraith ynglŷn ag athro yn defnyddio grym rhesymol mewn ysgol
- pa staff a awdurdodir i ddefnyddio grym rhesymol a sut maent yn cael ei hyfforddi
- beth yw'r broses o gofnodi digwyddiadau lle defnyddiwyd grym corfforol gan aelod o staff
- beth fydd yn digwydd os gwneir cwyn yn dilyn digwyddiad
Rhoi meddyginiaeth i blentyn
Mae gan bob ysgol ganllawiau ynglŷn â darparu meddyginiaeth i ddisgyblion. Mae'r canllawiau'n cynnwys gwybodaeth fel:
- beth yw'r oblygiadau cyfreithiol ar athrawon i roi meddyginiaeth i ddisgyblion
- pa aelodau o staff sy'n gymwys i roi meddyginiaeth i ddisgyblion
- pa fath o feddyginiaeth sy'n addas i'w storio yn yr ysgol
Polisi tynnu lluniau
Mae gan bob ysgol ganllawiau unigol ynglŷn â thynnu lluniau. Mae'r canllawiau'n nodi:
- ym mha amgylchiadau mae angen caniatâd gan riant neu warchodwr
- pa fath o ganiatâd fydd ei angen gan riant neu warchodwr ar gyfer lluniau sy'n cael eu tynnu at bwrpas cyhoeddusrwydd
- ym mha sefyllfaoedd y dylid gwahardd camerâu a ffonau symudol
Nyrs ysgol
Am wybodaeth ynghylch gwaith y nyrs ysgol neu i weld pa bryd y mae'n ymweld â pha ysgol, ewch i wefan Gwynedd Ni.