Cadw disgyblion yn ddiogel

Pwy sy'n derbyn y gwasanaeth yma?

Mae’r gwasanaeth yn cefnogi gwaith ysgolion i sicrhau fod pob disgybl yn ddiogel oddi mewn i ysgolion Gwynedd.

 

Beth mae’r gwasanaeth yn ei gynnig?

  • Cyngor yng nghyswllt pob agwedd o ddiogelu plant mewn addysg.
  • Hyfforddiant lefel dau ar gyfer staff sydd â chyfrifoldeb arbennig am ddiogelu plant yn Ysgolion Gwynedd
  • Cyfrifol am sicrhau fod plant Gwynedd yn ddiogel wrth iddynt dderbyn addysg yng Ngwynedd.
  • Sicrhau fod pob Ysgol yn deall ac yn gweithredu yn unol â Gweithdrefnau Diogelu Plant Cymru 2020
  • Rhoi cefnogaeth a chyngor i swyddogion dynodedig Ysgolion Gwynedd.
  • Herio pob ysgol i ddarparu gwasanaeth diogelu o ansawdd uched i bob plentyn sydd yn derbyn addysg yng Ngwynedd.

 

Pwy ydi'r tîm?

Swyddog Arweiniol Dynodedig ar gyfer Diogelu mewn Addysg - Bethan Helen Jones


Sut mae posib cael mynediad i’r gwasanaeth?

Ffôniwch: 07977504344

E-bostiwch: DiogeluAddysg@gwynedd.llyw.cymru   

 

Beth yw rôl yr ysgol?

Rôl Ysgolion Gwynedd o fewn y drefn Diogelu Plant yw sicrhau amgylchfyd ac ethos diogel lle y gall plant a phobl ifanc ddysgu gan roddi sylw digonol i’w lles a’u diogelwch.

Mae gan ysgolion gyfrifoldeb i gydweithio gyda Gwasanaethau Cymdeithasol ac adrannau eraill y cyngor i hyrwyddo diogelwch trwy godi ymwybyddiaeth, gwella dealltwriaeth a chryfhau gwytnwch plant a phobl ifanc thrwy’r cwricwlwm yn ogystal â thrwy waith ataliol ac ymyrraeth gynnar; trwy gyfeirio pryderon, cyfrannu gwybodaeth a thuag at asesiadau o angen.

Dylai’r ysgol fod yn berchen ar weithdrefnau effeithiol wrth:

  • rwystro pobl amhriodol rhag gweithio gyda phlant a phobl ifanc
  • hyrwyddo arferion ardderchog a herio arferion annigonol ac anniogel
  • adnabod ac ymateb yn gadarn i unrhyw achos o bryder yng nghyswllt diogelwch a lles plentyn gan weithredu ar weithdrefnau sy’n sicrhau diogelwch
  • monitro ac arfarnu’n rheolaidd i wella ansawdd strwythurau a gweithdrefnau diogelu’r gwasanaeth

Mae disgwyl i'r ysgolion sicrhau:

  • bod polisi diogelu plant cyfredol a chynhwysfawr mewn lle sy’n cyd-fynd a’r arweiniad a gynigir
  • bod y polisïau a’r gweithdrefnau’n ystyried gweithgareddau all ddigwydd y tu mewn a thu allan i oriau i furiau’r ysgol (defnydd o gyfleusterau hamdden, ymweliadau addysgol, defnydd o gyfleusterau’r ysgol i ddibenion cymunedol ayyb)
  • bod polisïau yn cael eu hadolygu a’u mabwysiadu yn amserol gan gorff llywodraethol yr Ysgol
  • bod un aelod o’r uwch dim rheoli yn berson dynodedig Diogelu Plant ac yn cymryd cyfrifoldeb o fewn y sefydliad am faterion Diogelu. Dylent roddi cyngor, anwytho pob aelod o staff newydd/llanw, cynnig arweiniad penodol a chyffredinol, sicrhau trefniadau hyfforddi a diweddaru, a bod yn ddolen gyswllt gyda’r gwasanaeth addysg/gwasanaethau cymdeithasol/asiantaethau eraill mewn materion diogelu;
  • bod y Person Dynodedig Diogelu yn berchen ar yr awdurdod priodol i weithredu, wedi’i hyfforddi i’r lefel priodol a gyda phrofiad addas;
  • bod ‘eilydd/dirprwy’ diogelwch yn wybyddus i bawb yn absenoldeb y Person Dynodedig;
  • bod Llywodraethwr Dynodedig Diogelu Plant hefyd wedi’i hyfforddi i’r lefel priodol, eu bod ar gael i gynorthwyo’r Person Dynodedig pan yn briodol, ac yn cyfrannu at a chyflwyno’r Adroddiad Blynyddol i Lywodraethwyr i sylw’r Corff Llywodraethol yn flynyddol;
  • bod pob ysgol ac uned yn cyflwyno Adroddiad Blynyddol Diogelu Plant i sylw’r gwasanaeth Addysg pob blwyddyn, erbyn diwedd tymor yr Haf
  • bod copi o bob cyfeiriad a wneir i’r Gwasanaethau Cymdeithasol i Delyth Griffiths, Uwch Swyddog Diogelu Plant yr Adran Addysg).
  • eu bod yn cwblhau ffurflen ‘Camau Nesaf’ yn dilyn gwneud cyfeiriad a derbyn adborth gan y Gwasanaethau Cymdeithasol.

Mae sylw dyladwy yn cael ei roi i’r categorïau o gamdriniaeth fel y’u hamlygir yng Nghanllawiau Ngweithdrefnau Diogelu Plant Cymru 2020:

  • Cam driniaeth corfforol
  • Cam driniaeth emosiynol / seicolegol
  • Cam driniaeth rhywiol
  • Esgeulustod
  • Cam driniaeth ariannol

Mae gan holl weithlu Gwasanaeth Addysg Gwynedd gyfrifoldeb:

  • i fod yn ymwybodol o Weithdrefnau Diogelu Plant Cymru 2020
  • i ymddwyn yn broffesiynol a chyfreithiol dros les a diogelwch plant a phobl ifanc
  • “Chwythu’r Chwiban” os ydynt yn ymwybodol o unrhyw achos o gamdriniaeth
  • i fod yn effro i arwyddion o gamdriniaeth ac i ymateb yn unol â Gweithdrefnau Diogelu Plant Cymru 2020
  • i fod yn effro i arwyddion o gamdriniaeth gan oedolion sy’n gweithio gyda neu yn goruchwylio plant a phobl ifanc, ac ymateb yn unol â Gweithdrefnau Diogelu Plant Cymru 2020
  • i fod yn effro i arwyddion o fwlio (gweler canllawiau cenedlaethol a lleol)
  • gwybod sut i ymateb pan fo plentyn yn datgelu gwybodaeth a pha gamau priodol i’w cymryd (gweler Rhan 2.1,2.2,2.3 a 2.4)
  • gwybod at bwy y dylid cyfeirio unrhyw amheuon neu ddatgeliad gan blentyn neu berson ifanc, y tu mewn a thu allan i oriau’r ysgol;
  • i gyflwyno datganiad/cofnod ysgrifenedig o’r hyn a welwyd neu a glywodd gan blentyn neu berson ifanc 

Yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru mae’n ofynnol i bob ysgol adnabod athro a llywodraethwr dynodedig sydd â chyfrifoldeb dros faes Diogelu Plant (gweler Cadw Dysgwyr yn Ddiogel - Mae’r ddogfen hon yn cynnwys canllawiau i awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu ar drefniadau ar gyfer diogelu plant o dan adran 175 o Ddeddf Addysg 2002.)

Dylai ysgol:

  • Sefydlu systemau er mwyn targedu unigolion yn ôl eu hangen
  • Ymateb yn ar lefelau gwahanol i anghenion disgyblion drwy gynnal grwpiau targed
  • Defnyddio offeryn sgrinio er mwyn adnabod meysydd mae unigion angen cynhaliaeth ychwanegol
  • Ymateb yn raddoledig i anghenion disgyblion drwy gynnal grwpiau targed
  • Datblygu awyrgylch dysgu sy’n gyfeillgar a chynhwysol i unigolion ag anawsterau cyfathrebu a rhyngweithio
  • Datblygu awyrgylch sy’n caniatáu amser i ddatblygu sgiliau cyfathrebu a rhyngweithio addas o fewn diwrnod ysgol