Ffactorau a all effeithio ar eich cais

Mae nifer o ffactorau a all effeithio ar y math o gais cynllunio y byddwch angen ei gyflwyno ac ar lwyddiant eich cais cynllunio.

 

Bydd pob penderfyniad yn seiliedig ar y polisïau cynllunio lleol. Am ragor o wybodaeth ac i weld y polisïau lleol, ewch i'r adran polisi cynllunio ar y wefan hon.

Byddwch angen ystyried effaith eich datblygiad ar fywyd gwyllt. Mae llawer o anifeiliaid, planhigion a chynefinoedd wedi eu gwarchod (er enghraifft ystlumod a moch daear). Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar y dudalen bioamrywiaeth a cheisiadau cynllunio neu drwy fynd i wefan y Porth Cynllunio.

Efallai y bydd angen addasu’r datblygiad neu ei gyflawni mewn ffordd benodol er mwyn sicrhau bod ystlumod yn cael eu diogelu.

Gyda rhai datblygiadau mae'n bosib fod angen caniatâd rheolaeth adeiladu. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn yr adran rheolaeth adeiladu ar y wefan hon ac ar wefan y Porth Cynllunio.

Mae gan y Cyngor ganllawiau i gynorthwyo a chynghori ar ddatblygu arferion dylunio da sy'n gwella ansawdd yr amgylchedd a bywyd trigolion Gwynedd. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn y taflenni gwybodaeth ar y wefan hon.

Mae’n bwysig meddwl am edrychiad a hygyrchedd y datblygiad ac mae'n debyg y byddwch angen cyflwyno datganiad dyluniad a mynediad gyda'r cais. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn y taflenni gwybodaeth ar y wefan hon, ar wefan y Porth Cynllunio neu wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru - Arweiniad ar Ddatganiadau ar ddylunio a mynediad.

Rhaid sicrhau bod cartrefi ac adeiladau newydd yn cael eu dylunio a'u hadeiladu yn unol ag egwyddorion cynaliadwyedd er mwyn gweithio tuag at uchelgais Llywodraeth Cynulliad Cymru, sef creu adeiladau carbon isel. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn y Canllawiau Cynllunio Atodol - Cynllunio ar gyfer adeiladu'n gynaliadwy ar y wefan hon neu ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru - Nodyn Cyngor Technegol 22: Adeiladau Cynaliadwy.

Mae Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd yn gyfrifol am ddiogelwch pawb sy’n byw neu yn gweithio yn yr ardal. Bydd unrhyw ddatblygiad a allai amharu ar ddiogelwch (e.e. llygredd aer / sŵn / llwch) angen ei ystyried gan Swyddog Iechyd yr Amgylchedd. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan y Porth Cynllunio.

Mae llawer o goed wedi eu gwarchod gan Orchymyn Diogelu Coed sy’n golygu y byddwch angen caniatâd cyn y gallwch eu torri neu eu tocio. Hefyd, mae angen rhoi gwybod yn ffurfiol i'r Cyngor os ydych eisiau cael gwared ar rai mathau o wrychoedd. Am ragor o wybodaeth edrychwch ar:

Mae’n bosib y bydd eich datblygiad yn cael effaith ar eich cymdogion ac efallai y dylech ystyried hyn wrth wneud eich cynlluniau. Bydd gan eich cymdogion, fel pawb arall, yr hawl i roi sylwadau ffurfiol (manylion i'w gweld o dan y pennawd 'Rhoi sylw ar gais cynllunio') ar eich datblygiad yn ystod y broses ymgynghori. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan y Porth Cynllunio.

Nid yw rheolau cynllunio yn effeithio ar oleuadau cyffredin y tu mewn i gartref. Mae amodau cynllunio yn rheoli goleuadau y tu mewn a'r tu allan i ddatblygiad - er enghraifft, hysbysebion wedi eu goleuo (mewnol / allanol).  Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan y Porth Cynllunio.

Os yw eich datblygiad mewn Ardal Gadwraeth mae'n bosib y bydd cyfyngiadau yn effeithio ar eich cais. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn:

Os yw eich datblygiad yn ymwneud âg adeilad rhestredig, neu os yw'n effeithio mewn unrhyw ffordd ar adeilad o'r fath, bydd cyfyngiadau yn bodoli. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn:

Bydd mynediad i’ch datblygiad yn cael ei ystyried o safbwynt diogelwch ffyrdd fel rhan o’r cais. Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan y Porth Cynllunio neu cysylltwch â Gwasanaeth Trafnidiaeth a Gofal Stryd Cyngor Gwynedd ar 01766 771000.

Bydd cynnydd yn lefel traffig o ganlyniad i ddatblygiad yn cael ei ystyried, yn ogystal ag a yw’n debygol o achosi problemau traffig. Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Gwasanaeth Trafnidiaeth a Gofal Stryd Cyngor Gwynedd ar 01766 771000.

Bydd darpariaeth parcio yn cael ei hystyried gyda cheisiadau am ddatblygiadau. Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Gwasanaeth Trafnidiaeth a Gofal Stryd Cyngor Gwynedd ar 01766 771000.

Os yw lleoliad eich datblygiad mewn perygl o lifogydd rhaid i'r Cyngor fod yn fodlon bod cyfiawnhad i’r cynnig a bod canlyniadau posib y llifogydd yn dderbyniol. Am ragor o wybodaeth ac i weld os yw eich datblygiad mewn perygl o lifogydd ewch i wefan Llywodraeth Cymru

Yn ddibynnol ar yr amodau ynghlwm â’ch perchnogaeth / les i’r eiddo, mae’n bosib y byddwch angen caniatâd rhywun arall cyn gwneud unrhyw waith ar yr eiddo. Am ragor o wybodaeth ewch i wefan y Porth Cynllunio.

Mae henebion (ancient monuments) yn strwythurau o ddiddordeb hanesyddol allweddol a gall eu presenoldeb effeithio ar eich datblygiad arfaethedig. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar y dudalen olion hanesyddol, yng Nghynllun Datblygu Unedol Cyngor Gwynedd neu drwy fynd i wefan Cadw.

mae'r Cyngor yn ymdrechu i gynyddu'r ddarpariaeth o dai fforddiadwy o fewn cymunedau'r sir. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn yr adran Tai Fforddiadwy ar y wefan hon.

Mae gwybodaeth ar gael ar wefan Dŵr Cymru.