Olion Hanesyddol

Mae gan Wynedd etifeddiaeth gyfoethog o olion hanesyddol gyda chyfanswm o tua 500 o henebion o bob math gan gynnwys:

  • ogofâu
  • safleoedd angladdol a defodol
  • safleoedd amddiffynnol a domestig cynhanesyddol
  • safleoedd Rhufeinig
  • gwrthgloddiau llinellol
  • croesau a cherrig arysgrifedig
  • safleoedd a ffynhonnau eglwysig
  • safleoedd seciwlar canoloesol a rhai diweddarach
  • pontydd
  • safleoedd diwydiannol

Mae henebion cofrestredig yn ychwanegu at gyfoeth tirlun a diwylliant Gwynedd er nad yw’r mwyafrif ohonynt yn dod ag unrhyw fudd economaidd i dirfeddianwyr.

 

I chwilio am henebion cofrestredig yng Ngwynedd ewch i'r:


Henebion cofrestredig a chaniatâd cynllunio

Mae angen caniatâd penodol er mwyn ymgymryd ag unrhyw waith yn agos at henebion cofrestredig. Gall hyn ddylanwadu ar unrhyw geisiadau cynllunio yn yr ardal. Am ragor o wybodaeth ewch i:

 

Caniatâd heneb gofrestredig

Os ydych yn bwriadu gwneud unrhyw waith ar heneb gofrestredig, byddwch angen cyflwyno Caniatâd Heneb Gofrestredig i Cadw. Mae rhagor o wybodaeth a ffurflen gais ar gael ar wefan Cadw - Caniatâd Heneb Gofrestredig.



Grantiau

Mae grant ar gael gan ar gyfer gwneud gwaith cadwraeth ar henebion / olion hanesyddol. Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Cadw - Grant Henebion.

 

Rhagor o wybodaeth

Am ragor o wybodaeth am henebion cofrestredig ewch i wefan Cadw - Henebion.

neu cysylltwch â ni: