Ardaloedd Cadwraeth

Beth ydi Ardal Gadwraeth?

Mae Ardal Gadwraeth yn ardal sydd o ddiddordeb hanesyddol, cymdeithasol neu bensaernïol arbennig. Fel Cyngor rydym yn ymdrechu i warchod a gwella ansawdd yr ardaloedd hyn.

Cyngor Gwynedd sy’n gyfrifol am ddynodi ardal yn Ardal Gadwraeth o fewn y sir (ac eithrio ardal Parc Cenedlaethol Eryri).


Ardaloedd Cadwraeth a chaniatâd cynllunio

Os ydych yn bwriadu gwneud unrhyw waith neu ddymchwel adeilad mewn Ardal Gadwraeth bydd rheolau ychwanegol y byddwch angen eu hystyried, ac mae’n bosib y byddwch angen caniatâd cynllunio neu ganiatâd Ardal Cadwraeth.

Cyn cychwyn ar unrhyw ddatblygiad mewn Ardal Gadwraeth, rydym yn awgrymu'n gryf eich bod yn cysylltu â ni i weld os ydych angen caniatâd ai peidio. Mae posibilrwydd y cewch eich erlyn os cewch eich dal yn gwneud gwaith heb ganiatâd.

 Cysylltwch â ni:

(bydd angen i chi greu cyfrif os nad oes ganddoch chi un yn barod)

  •  Ffôn: 01766 771000


Cyflwyno cais am ganiatâd cynllunio / ardal gadwraeth

Am wybodaeth ynglŷn â chyflwyno cais cynllunio / ardal gadwraeth, ewch i'r adran gynllunio ar y wefan hon.

Os byddwch yn gwneud gwaith i du allan adeilad mewn Ardal Gadwraeth, mae'n bosib y byddwch yn gymwys i dderbyn grant tuag at y gwaith gan Cadw.

 

Coed mewn ardaloedd cadwraeth

Mae rheoliadau ychwanegol yn bodoli os ydych yn bwriadu gwneud gwaith ar goed mewn Ardal Gadwraeth. Am ragor o wybodaeth a chyngor, ewch i:


Rhagor o wybodaeth

COFIWCH! Os yw'r datblygiad o fewn Parc Cenedlaethol Eryri, byddwch angen cysylltu gydag Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri nid gyda Chyngor Gwynedd. I weld a yw'r datblygiad yn y Parc Cenedlaethol, edrychwch ar y map - Ardal Parc Cenedlaethol Eryri.