Adeiladau Rhestredig
Beth yw Adeilad Rhestredig?
Adeilad sy’n cael ei ystyried fel un sydd o diddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig. Mae’r adeilad wedi’i gofrestru ar ‘Restr’ a lunir gan CADW, sy’n rhan o lywodraeth y Cynulliad, ar gyfer pob cymuned yng Nghymru. Mae tua 2,400 o adeiladau rhestredig yng Ngwynedd (ac eithrio Parc Cenedlaethol Eryri).
Graddfeydd
Mae adeiladau yn cael eu rhestru oherwydd eu pwysigrwydd hanesyddol neu bensaernïol arbennig. Maent wedi’u dosbarthu yn ôl graddfa i ddangos eu pwysigrwydd cymharol:
- I - Adeiladau o ddiddordeb eithriadol, yn genedlaethol fel arfer
- II* - Adeiladau arbennig o bwysig, yn fwy na diddordeb arbennig
- II - Adeiladau o ddiddordeb arbennig, sy’n haeddu pob ymdrech i’w cadw
Waeth beth yw’r raddfa, rhoddir yr un lefel o warchodaeth i bob adeilad rhestredig yn llygad y gyfraith.
Adeiladau rhestredig a chaniatâd cynllunio
Cyn cychwyn ar unrhyw waith ar adeilad rhestredig rydym yn awgrymu'n gryf eich bod yn cysylltu â ni i weld a ydych angen caniatâd ai peidio.
Mae’r math o ddatblygiadau sydd angen caniatâd fel arfer yn cynnwys:
- newid drysau neu ffenestri
- adeiladu estyniad
- peintio dros waith brics
- gosod erial teledu, dysgl loeren neu larwm lladron
- newid deunyddiau ar y to
- symud neu dynnu waliau mewnol
- tynnu neu addasu llefydd tân, paneli neu risiau.
Mae posibilrwydd y cewch eich erlyn os cewch eich dal yn gwneud gwaith heb ganiatâd.
Cyflwyno cais am Ganiatâd Adeilad Rhestredig
Nid oes ffi ychwanegol am gyflwyno cais Caniatâd Adeilad Rhestredig (dim ond y ffi am y cais cynllunio llawn). Am ragor o wybodaeth ac i gyflwyno eich cais, ewch i'r adran cynllunio.
Os byddwch yn gwneud gwaith ar adeilad rhestredig, mae'n bosib y byddwch yn gymwys i dderbyn grant tuag at y gwaith gan Cadw.
Canllaw i ymgeiswyr - Caniatâd Adeilad Rhestredig
Os yw adeilad yn ‘rhestredig’, waeth beth yw’r Raddfa, mae’r cyfan o’r adeilad yn rhestredig – y tu allan a’r tu mewn.
Nid oes fath beth â rhestru rhannol, er enghraifft – y tu allan yn unig / y rhan hynaf yn unig / y blaen yn unig.
Rhaid cael Caniatâd Adeilad Rhestredig ar gyfer y rhan fwyaf o waith a wneir i adeiladau rhestredig, gan gynnwys dymchwel, gwaith altro ac estyniadau. Bydd raid cael Caniatâd Adeilad Rhestredig ar gyfer unrhyw waith sy’n cael effaith ar gymeriad yr adeilad.
Isod nodir y gwaith y mae’n rhaid cael Caniatâd Adeilad Rhestredig ar ei gyfer:
Estyniadau
Pob math o estyniad gan gynnwys portshys, ystafelloedd haul, ffenestri cromen ac ati.
Dymchwel
- Unrhyw ran o Adeilad Rhestredig
- Unrhyw wrthrych neu strwythur yng nghwrtil Adeilad Rhestredig
Ffitiadau
Bydd Caniatâd Adeilad Rhestredig yn bosib o fod ei angen ar gyfer yr isod er enghraifft:
- Dysglau lloeren • Caeadau (ffenestri)
- Blychau Larwm Lladron
- Blychau Mesuryddion Allanol
- Ffenestri yn y to
- Grisiau tân • Placiau
- Goleuadau allanol
- Synhwyryddion “PIR”
- Arwyddion a hysbysebion
- Pibelli carthion ac awyru
- Blychau postio
Mae llawer mwy na’r uchod – gwiriwch cyn rhoi dim yn sownd wrth yr adeilad.
Addurno’r Tu Allan
- Gwaith rendro neu gladio ar unrhyw ran o’r adeilad
- Newid lliw yr adeilad
- Defnyddio gorffenwaith nad yw’n draddodiadol megis staen coed
- Peintio wyneb nad yw wedi’i beintio o’r blaen
- Defnyddio gorffenwaith allanol ansoddedig
Gwaith Atgyweirio a Chynnal a Chadw
Yn gyffredinol nid oes raid wrth Ganiatâd Adeilad Rhestredig cyn belled ag y bo’r gwaith atgyweirio neu newydd union yr un fath ym mhob ffordd gan gynnwys yr arddull, deunydd a’r gorffenwaith. Er hyn, mae angen asesu’r angen (neu beidio) am ganiatad adeilad rhestredig ar gyfer ar gyfer gwaith cynnal a chadw fesul achos.
Mae’n debygol y byddai raid wrth Ganiatâd Adeilad Rhestredig ar gyfer yr isod:
- Glanhau’r tu allan trwy ddull mecanyddol gan ddefnyddio sustemau ysgrafellog a phwysau uchel
- Newid gorchudd y tô a gosod teils clai neu lechi artiffisial yn lle llechi arferol neu hyd yn oed osod llechen o faint, lliw neu arddull wahanol i’r llechen arferol
- Ailrendro gan ddefnyddio deunydd rendro yn seiliedig ar sment yn hytrach nag ar galch
- Ailbwyntio gan ddefnyddio arddull, cymysgedd a lliw gwahanol o bwyntio
- Gosod gwteri a phibelli fertigol plastig yn lle rhai haearn bwrw
- Gosod ffenestri a drysau newydd pan nad ydynt union yr un fath â’r gwreiddiol
Y Tu Mewn
Bydd raid cael caniatâd Adeilad Rhestredig ar gyfer gwaith y tu mewn i adeilad sy’n debygol o gael effaith ar gymeriad yr adeilad neu ei altro. Dyma enghreifftiau:
- Tynnu llefydd tân
- Creu partisiwn a gwneud ystafelloedd yn llai
- Grisiau
- Drysau
- Mowldinau plastr ac ati
- Paneli a mowldinau pren addurniadol
Mae cyfle i apelio os yw cais yn cael ei wrthod, neu os nad ydych yn fodlon gydag amodau sydd ar ganiatâd adeilad rhestredig. Mae’r apêl i’r Arolygaeth Gynllunio, Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Efallai y bydd angen caniatâd cynllunio a/neu gymeradwyaeth rheoliadau adeiladu ar eich Cynigion. Mae materion sy’n ymwneud â rheoliadau adeiladu yn cael eu trin gan
Adran Ymgynghoriaeth Gwynedd
Rhagor o wybodaeth
COFIWCH! Os yw'r datblygiad o fewn Parc Cenedlaethol Eryri, byddwch angen cysylltu gydag Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri nid gyda Chyngor Gwynedd. I weld a yw'r datblygiad yn y Parc Cenedlaethol, edrychwch ar y map - Ardal Parc Cenedlaethol Eryri.