Casglu Gwastraff Gardd (bin brown)
Rhaid talu £41 y flwyddyn i gasglu gwastraff gardd (bin brown).
Gwneud cais casglu gwastraff gardd 2026
Telerau ac amodau gwastraff gardd
(Rhaid creu cyfrif os nad oes ganddoch chi un yn barod)
Neu ffoniwch 01766 711 000 i archebu.
Pris
£41 y flwyddyn am
- 22 casgliad mewn blwyddyn
- gwagio 1 bin olwyn brown bob pythefnos
NID oes casgliad dros y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd.
Dyma'r pris am y flwyddyn yn rhedeg o'r wythnos yn cychwyn 26 Ionawr 2026 hyd at ddiwedd mis Tachwedd / dechrau Rhagfyr 2026. Gallwch archebu’r gwasanaeth unrhyw dro yn ystod y flwyddyn, ond bydd y ffi blynyddol yn aros yr un fath.
Biniau ychwanegol
Gall pob cartref archebu hyd at 4 casgliad bin brown:
- £34 y flwyddyn am bob bin brown ychwanegol.
Pryd mae fy ngwastraff gardd yn cael ei gasglu?
Rhowch eich cod post yn y blwch isod i ddod o hyd i'ch diwrnod casglu neu i lawrlwytho eich calendr casglu...
Sut fydd y gwasanaeth yn gweithio?
Wedi i chi dalu, byddwch yn derbyn y sticer drwy’r post o fewn 10 diwrnod gwaith (gall gymryd yn hirach yn ystod cyfnodau prysur). Rhaid ei osod o gwmpas eich bin olwyn brown.
Nodwch: Fyddwch chi ddim yn cael bin newydd, dim ond sticer i'w osod arno. Os na fyddwch wedi derbyn y sticer drwy'r post cysylltwch â ni.
Cwestiynau Cyffredin
Trafferth gyda'ch gwasanaeth?
Adrodd casgliad wedi ei fethu
Gwybodaeth Bellach
Am fwy o wybodaeth, neu i archebu a thalu dros y ffôn, ffoniwch 01766 771000.
Gallwch hefyd archebu a thalu yn unrhyw un o Siopau Gwynedd