Archebu bin / offer newydd
Cofiwch! Os ydych angen mwy o fagiau bwyd gallwch adael nodyn efo’ch biniau ar eich diwrnod casglu, a bydd bagiau yn cael eu gadael i chi. Gofynnwn hefyd i chi beidio ag ymweld â'r swyddfa yng Nghaernarfon.
Close
Defnyddiwch y ffurflen hon er mwyn archebu bin neu offer gwastraff ac ailgylchu newydd
Archebu bin / offer newydd
(bydd angen i chi greu cyfrif os nad oes ganddoch chi un yn barod)
neu ffoniwch 01766 771000.
Wrth gyflwyno eich cais, bydd gofyn i chi gytuno i’r telerau ac amodau a chaniatau hyd at 20 diwrnod gwaith ar ôl i ni dderbyn y cais i anfon eich cyfarfpar newydd. Oherwydd y sefyllfa bresennol, gall hyn gymryd mwy o amser.
Gallwch archebu:
Cartgylchu

Bocs glas ailgylchu

- hyd at 4 bocs glas (yn cynnwys caead)
- hyd at 4 caead newydd (yn lle rhai wedi mynd ar goll/colli/torri)
- hyd at 4 rhwyd i’w gosod ar ben y bocs (i'w defnyddio yn hytrach na chaead ar gyfer y bocs os ydych yn cael problemau e.e. bod y caead yn cael ei golli neu ei dorri yn aml)
Bin brown bwyd (22 litr)

Cadi cegin

- Cadi cegin (5 litr) er mwyn dal gwastraff bwyd yn y gegin.
- Cyflenwad blwyddyn o fagiau gwastraff bwyd er mwyn cadw’r cadi cegin yn lân. Bydd angen gwagio cynnwys y cadi cegin i mewn i’r bin bwyd 22 litr er mwyn ei gasglu. Ni ddylech roi’r cadi cegin allan i’w gasglu.
- I gael mwy o fagiau gwastraff bwyd clymwch y label oren sydd tu fewn i'r rolyn bagiau o gwmpas handlen eich bin gwastraff bwyd pan fyddwch yn ei roi allan i'w wagio. (Mae'r label oren yng nghanol y rolyn bagiau a byddwch yn ei weld pan fydd tua 10 bag ar ôl yn y rolyn).
- Os nad ydych chi wedi derbyn eich rolyn bagiau ar ôl rhoi'r label oren allan, gallwch hefyd archebu mwy ar y dudalen hon a mae cyflenwad o'r bagiau ar gael yn eich Siop Gwynedd lleol.
Bin brown gwastraff gardd (neu fagiau gwastraff gardd)

- Gall pob cartref dderbyn:
- Hyd at 4 bin brown mawr – gwastraff gardd (240 litr)
Neu
- cyflenwad blwyddyn o fagiau gwastraff gardd
NODER! Bellach mae'n rhaid talu ffi blynyddol am gasgliad gwastraff gardd (bin brown). Rhagor o wybodaeth ac archebu casgliad.
Bin olwyn gwyrdd (neu fagiau bin du)

- Gall pob cartref dderbyn UN o'r canlynol:
- 1 bin gwyrdd mawr (240 litr) neu
- 1 bin gwyrdd bach (140 litr)
- Mae rhai cartrefi sydd heb fin olwyn gwyrdd yn gymwys i dderbyn cyflenwad o fagiau bin du. I archebu, ffoniwch 01766 771000.
- Mae’n bosib archebu sach hesian er mwyn gwarchod y bagiau bin du rhag cael eu rhwygo gan anifeiliaid (dim ond os ydych yn defnyddio bagiau bin du y cewch archebu sach hesian)
- Os oes mwy na 7 person yn byw mewn eiddo, mae’n bosib gwneud cais am fin gwyrdd maint masnachol (360 litr): Cysylltwch â ni.
Symud tŷ?
Os ydych yn symud tŷ, gadewch y biniau/bocsys yn y tŷ.
Os nad oes biniau/bocsys yn y tŷ newydd, defnyddiwch y ffurflen Archebu bin / offer newydd (bydd angen i chi greu cyfrif os nad oes ganddoch chi un yn barod) neu ffoniwch 01766 771000 i wneud cais am rai newydd.
Am wybodaeth am pa eitemau y gellir eu rhoi ym mha fin, a gweld yr amserlen casglu, ewch i’r tudalennau gwybodaeth biniau ac ailgylchu.