Mae Budd-dal Tai yn un o fudd-daliadau’r wladwriaeth i'ch cynorthwyo i dalu eich rhent os ydych ar incwm isel. Yn ddibynnol ar eich incwm a'ch amgylchiadau, gall y Cyngor gyfrannu hyd at 100% tuag at eich rhent.

Gallwch wneud cais os ydych yn gweithio neu’n ddi-waith. Os ydych yn byw efo partner, dim ond un ohonoch all wneud cais am Fudd-dal Tai.

Mae'r swm a gewch yn dibynnu ar:

- os oes gennych bartner neu beidio

- eich incwm o weithio, ac o bethau fel budd-daliadau a phensiynau

- unrhyw gynilion a buddsoddiadau sydd gennych

- amgylchiadau pobl eraill sydd yn byw gyda chi (e.e. eu hoed ac incwm)

- y nifer o ystafelloedd gwely rydych eu hangen os yn rhentu gan Gymdeithas Tai

- rheolau Lwfans Tai Lleol os ydych yn rhentu gan landlord preifat