I weld a ydych yn gymwys i dderbyn budd-dal tai a help i dalu eich Treth Cyngor defnyddiwch y gyfrifiannell ar-lein (yn agor mewn tab newydd)
Gwneud cais
Os ydych yn gymwys ewch ymlaen i wneud cais: (yn agor mewn tab newydd)
Cyflwyno cais newydd ar-lein / dychwelyd i gais wedi ei gadw (yn agor mewn tab newydd)Os ydych eisiau ffurflen bapur neu angen help i lenwi'r ffurflen ar-lein cysylltwch â ni:
Budd-daliadau a grantiau: Cysylltu â ni
Mae gwybodaeth hefyd ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru:
Disgowntiau, diystyriadau, esemptiadau a gostyngiadau'r Dreth Gyngor (yn agor mewn tab newydd)
Os ydych yn dymuno gwneud cais, neu wedi gwneud cais am Gymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith, Lwfans Cyflogaeth a Chefnogaeth, Credyd Pensiwn neu Gredyd Cynhwysol, yna bydd raid i chi wneud cais budd-dal tai yn uniongyrchol drwy'r Ganolfan Waith (yn agor mewn tab newydd) neu’r Gwasanaeth Pensiwn (yn agor mewn tab newydd) (Saesneg yn unig).
Ar ôl i chi wneud cais, bydd y Ganolfan Waith neu’r Gwasanaeth Pensiwn yn gadael i ni wybod, a byddwn ni yn anfon ffurflen fer i chi ynglŷn â derbyn cymorth i dalu’ch Treth Cyngor.
Os ydych yn derbyn Budd-dal Tai neu Ostyngiad Treth Cyngor yn barod, a ddim yn siŵr a oes angen cwblhau ffurflen newydd neu beidio, cysylltwch â ni i drafod.