Os ydych yn anghytuno efo’n penderfyniad Budd-dal Tai dylech gysylltu â ni o fewn UN MIS i ddyddiad y rhybudd, neu efallai na fedrwn ystyried unrhyw anghydfod.

Gallwch naill ai:

  • ofyn am eglurhad
  • ofyn i ni edrych eto ar y penderfyniad
  • apelio yn erbyn y penderfyniad – yn ysgrifenedig yn unig.

Os byddwch yn apelio yn erbyn y penderfyniad Budd-dal Tai, mi fydd eich apêl yn cael ei glywed gan dribiwnlys annibynnol a weinyddir gan Wasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Mawrhydi.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â ni:

Budd-daliadau a grantiau: Cysylltu â ni

Siop Gwynedd: Arfon, Cyngor Gwynedd, Stryd y Jêl, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1SH