Gellir parhau i dalu Budd-dal Tai mewn rhai amgylchiadau tra’r ydych yn absennol o'ch cartref dros dro.
Y tri phrif amod sy’n rhaid eu bodloni er mwyn i chi dderbyn Budd-dal Tai tra’n absennol yw:
- Eich bod yn bwriadu dychwelyd adref
- Nad yw'r brif annedd wedi bod, nac yn mynd i gael ei is-osod
- Nad yw cyfnod yr absenoldeb yn debygol o ymestyn tu hwnt i'r terfynau.
Mae'r rheolau yn wahanol ar gyfer absenoldebau tu allan i Brydain Fawr (Cymru, Lloegr a'r Alban).
Efallai y bydd y tabl absenoldeb dros dro (yn agor mewn tab newydd) yn eich helpu i adnabod y gwahanol gyfnodau o absenoldeb sy'n gymwys, ond os hoffech gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â ni i drafod.
Budd-daliadau a grantiau: Cysylltu â ni
Siop Gwynedd: Arfon, Cyngor Gwynedd, Stryd y Jêl, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1SH