Rydym wedi ymrwymo i ddarparu Budd-dâl Tai a Gostyngiad Treth Cyngor i drigolion Gwynedd sydd ymysg y mwyaf bregus ac anghenus o fewn cymdeithas.

Mae rhai unigolion neu grwpiau a fydd yn ceisio derbyn budd-daliadau nad ydynt yn gymwys iddynt. Ar rai achlysuron, gwneir hyn gyda bwriad a gydag elfen o gynllunio ymlaen llaw, neu fel canlyniad i fethiant anonest i hysbysu'r Cyngor o newid yn eu hamgylchiadau.

Bydd y Cyngor yn parhau i ddelio gyda ceisiadau am fudd-daliadau, ond mae’r gwasanaeth sy’n ymchwilio i dwyll budd-dal yn rhan o Adran Gwaith a Phensiynau y Llywodraeth.

Os ydych yn amau fod rhywun yn twyllo'r system fudd-daliadau, gallwch adrodd am hyn drwy gwblhau’r ffurflen ar wefan y Llywodraeth (yn agor mewn tab newydd).

(Noder bod hon yn wefan allanol, ac nad oes gan y Cyngor unrhyw reolaeth dros ei chynnwys.)

Gallwch hefyd roi gwybod am amheuaeth o dwyll Budd-dal Tai mewn ffyrdd eraill:

Ffôn

Cysylltwch â’r Llinell Frys Twyll Budd-daliadau Genedlaethol 0800 678 3722 (neu 0800 854 4400 am wasanaeth Saesneg.)

Bydd eich galwad yn rhad ac am ddim ac yn gyfrinachol ac nid oes yn rhaid i chi roi eich enw neu'ch cyfeiriad.

Os oes gennych broblemau lleferydd neu glyw, gallwch ddefnyddio gwasanaeth ffon testun ar 0800 328 0512.

Post

NBFH, PO Box 224, Preston PR1 1GP