Dweud wrthym am newid amgylchiadau

Peidiwch â’i adael tan y tro nesaf y byddwn ni'n cysylltu gyda chi - dywedwch wrthym nawr.

Mae’n rhaid i chi ein hysbysu o unrhyw newid i’r wybodaeth a ddefnyddiwyd i benderfynu eich hawl i Fudd-dal Tai, Gostyngiad Treth Cyngor a Budd-daliadau Addysg.

Rhaid rhoi gwybod am unrhyw newid cyn gynted ag y maent yn digwydd.

Rhoi gwybod am newid mewn amgylchiadau (yn agor mewn tab newydd)

Os ydych eisiau ffurflen bapur neu angen help i lenwi'r ffurflen ar-lein cysylltwch â ni:

Budd-daliadau a grantiau: Cysylltu â ni

Siop Gwynedd: Arfon, Cyngor Gwynedd, Stryd y Jêl, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1SH

Pa newidiadau sydd angen i ni wybod amdanynt?

Dyma rai o'r newidiadau y dylech ddweud wrthym amdanynt:

  • os newidiwch eich cyfeiriad
  • os bydd eich incwm chi neu eich cymar yn newid, e.e. codiad cyflog, pensiwn neu Gredyd Treth Gwaith a Phlant, dechrau neu orffen derbyn Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith, Lwfans Gwaith a Chefnogaeth, Credyd Cynhwysol a.y.b.
  • os yw plentyn dibynnol yn gadael yr ysgol, os yw eich hawl Budd-dal Plant yn terfynu neu beidio
  • os bydd unrhyw rent rydych yn dderbyn gan is-denant yn codi neu’n gostwng
  • os daw rhywun i fyw atoch neu adael eich aelwyd
  • os bydd amgylchiadau neu incwm rhywun nad yw’n ddibynnol yn y cartref yn newid, e.e., dechrau gwaith, priodi, a.y.b.
  • os bydd eich rhent yn codi neu’n gostwng (Tenant Preifat yn unig)
  • unrhyw newid, codi neu ostwng, yn eich cyfalaf / arbedion.

Nid yw’r rhestr uchod yn ymdrin â phob newid, ond dylech ddweud am bob newid a all effeithio faint o fudd-dal tai / gostyngiad treth cyngor a dderbyniwch. Os telir gormod i chi, bydd yn rhaid i chi ei dalu’n ôl.