Cynllun Seddi Gweigion
Hoffai’r Cyngor hysbysu rhieni a gofalwyr na dderbynnir unrhyw geisiadau newydd ar gyfer y Cynllun Seddi Gweigion o 25 Hydref 2025 ymlaen.
Mae’r Cyngor ar hyn o bryd yn cynnal adolygiad llawn o’i Bolisïau Cludiant Ysgolion, gan gynnwys y Cynllun Seddi Gweigion. Cynhelir ymgynghoriad cyhoeddus cyn gweithredu unrhyw newidiadau yn y dyfodol, a gwahoddir ysgolion a theuluoedd i gymryd rhan. Diolchwn i deuluoedd a gofalwyr am eu dealltwriaeth wrth i’r adolygiad hwn gael ei gynnal.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â’r Tîm Cludiant: 01766 771 000
Close