Pwy sydd â hawl i dderbyn cludiant ysgol di-dâl?
Mae Cyngor Gwynedd yn darparu cludiant di-dal i ddysgwyr sy’n byw yn y sir ac sydd wedi cofrestru mewn ysgol sy’n cael ei rhedeg gan y Cyngor o dan yr amgylchiadau canlynol:
Ysgolion Un Safle:
- Dysgwyr sy’n derbyn addysg cynradd - ar gyfer dysgwyr sy’n byw 2 filltir neu ymhellach o’r ysgol yn eu dalgylch, neu’r ysgol agosaf (dim yn cynnwys disgyblion dosbarth meithrin).
- Dysgwyr sy’n derbyn addysg uwchradd - ar gyfer dysgwyr o dan 16 oed sy’n byw 3 milltir neu ymhellach o’r ysgol yn eu dalgylch, neu’r ysgol agosaf.
- Dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol neu anableddau o dan 16 oed yn unol ag yn unol ag argymhellion y Panel Cymedroli Anghenion Addysgol Ychwanegol.
Ysgolion Aml Safle:
- Dysgwyr sy’n derbyn addysg cynradd - ar gyfer dysgwyr sy’n byw 2 filltir neu ymhellach o’r safle ysgol agosaf yn eu dalgylch, neu’r safle ysgol agosaf (dim yn cynnwys disgyblion dosbarth meithrin). [Bydd gan bob safle ysgol (mewn ysgol aml safle) ddalgylch penodol.]
- Dysgwyr sy’n derbyn addysg uwchradd - ar gyfer dysgwyr o dan 16 oed sy’n byw 3 milltir neu ymhellach o’r safle ysgol agosaf yn eu dalgylch, neu’r safle ysgol agosaf. [Bydd gan bob safle ysgol (mewn ysgol aml safle) ddalgylch penodol.]
- Dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol neu anableddau o dan 16 oed yn unol ag argymhellion y Panel Cymedroli Anghenion Addysgol Ychwanegol.
Mae disgwyl i holl ddysgwyr y sir sydd dros 16 oed ac sydd wedi cofrestru ar gwrs ôl-16 lawrlwytho tocyn teithio penodol. Mae’r tocyn ar gael am ddim ac mae ar gael ar wefan Cyngor Gwynedd.
Disgwylir i ddysgwyr sy’n derbyn addysg gynradd neu uwchradd (gan eithrio rhai dysgwyr – gweler uchod), gerdded hyd at 2 filltir i gwrdd ag unrhyw gludiant a ddarperir gan Gyngor Gwynedd.
Er mwyn derbyn cludiant di-dâl, disgwylir i rieni dysgwyr sy’n derbyn addysg cynradd neu uwchradd gwblhau ffurflen gais cludiant di-dâl a’i dychwelyd i Gwasanaeth Trafnidiaeth a Gofal Stryd, Adran Rheoleiddio, Cyngor Gwynedd, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1SH (Mae’n bosib cysylltu drwy ffonio Galw Gwynedd ar 01766 77100).
Mae derbyn cludiant di-dâl yn amodol bod y dysgwr yn cydymffurfio a’r cod ymddygiad ar gyfer cludiant ysgol. Mae gan y rhieni/gwarcheidwaid gyfrifoldeb i sicrhau bod y cod ymddygiad yn cael ei ddilyn. Gall methu cydymffurfio arwain at golli’r hawl i gludiant di-dâl o’r cartref i’r ysgol. Os collir yr hawl i dderbyn cludiant di-dâl, mae gan y rhieni/gwarcheidwaid gyfrifoldeb i drefnu a thalu am gludiant o’r cartref i’r ysgol. Mae’n ofynnol bod dysgwyr sy’n mynychu ysgol (neu safle ysgol) heblaw yr ysgol (neu safle ysgol) yn y dalgylch neu’r ysgol (neu safle ysgol) agosaf yn gwneud eu trefniadau teithio eu hunain ac yn cwrdd â chost y cludiant hwnnw.
Cynllun Seddi Gweigion
Gall dysgwyr sy’n derbyn addysg yng Ngwynedd ac nad oes hawl ganddynt i gludiant di-dâl, fanteisio ar unrhyw seddi gwag yng ngherbydau cludiant y Cyngor. Nid yw’r cynllun seddi gwag ar gael ar gytundebau bysiau gwasanaeth cyhoeddus.
Mae manteisio ar y cynllun yn amodol ar y canlynol:
- Bod seddi gwag ar gael
- Nid oes angen i’r cerbyd wyro oddi ar ei daith arferol
- Dim costau ychwanegol i Gyngor Gwynedd
- Talu’r ffi gyfredol am sedd wag
Nid oes gwarant y bydd seddi gwag ar gael drwy gydol blwyddyn academaidd, os bydd yr hawl yn dod i ben, ceisir rhoi o leiaf wythnos o rybudd. Os bydd hyn yn digwydd, bydd rhaid i’r dysgwr drefnu ei gludiant ei hun i gyrraedd yr ysgol a bydd eich taliad yn cael ei dalgrynnu i’r hanner tymor agosaf. Gall methiant i gydymffurfio â’r Cod Ymddygiad wrth Deithio ddod â’r hawl i sedd wag i ben.
Wrth ddyfarnu seddi gwag o’r newydd neu wrth ddod â defnydd o seddi gwag i ben rhoddir blaenoriaeth i: •
- Ddisgyblion sydd â Chynllun Datblygu Unigol (Awdurdod)
- Ddisgyblion sy’n byw bellaf o’r ysgol neu safle ysgol
Sut i wneud cais?
Gellir gwneud cais ar lein drwy ddilyn y linc canlynol www.gwynedd.llyw.cymru/seddigwag (yn agor mewn tab newydd)
Pryd fydd y cais yn cael ei brosesu?
Os yw'r cais ar gyfer mis Medi, yna asesir y cais erbyn diwedd mis Medi. Bydd angen i chi wneud trefniadau teithio eich hunain hyd nes bydd eich cais wedi ei asesu. Bydd ceisiadau a dderbynnir yn ystod y flwyddyn academaidd (ac eithrio mis Medi) yn cael eu hystyried cyn gynted ag y bod modd. Byddwch yn derbyn ymateb drwy e-bost.
Beth os nad wyf eisiau parhau efo’r cynllun?
Gadewch i’r uned gludiant wybod ar unwaith drwy e-bost cludiant@gwynedd.llyw.cymru (yn agor mewn tab newydd) neu lythyr os nad ydych eisiau parhau efo’r cynllun. Os ydych wedi derbyn tocyn bws bydd angen i chi anfon y tocyn yn nôl i’r Awdurdod. Rydym yn cynghori dychwelyd unrhyw docynnau drwy’r post gyda dosbarthiad arbennig ac angen llofnod er mwyn sicrhau ei fod yn ein cyrraedd. Bydd y ffi seddi gweigion yn dod i ben ar y dyddiad y bydd y tocyn wedi ei dderbyn yn nôl gennym. Os na dderbynnir y tocyn bydd y ffi yn parhau. Os ydych yn talu drwy ddebyd uniongyrchol, peidiwch â’i ganslo, gwneir hyn gan yr Awdurdod.
Gellir anfon llythyr/tocyn i’r cyfeiriad isod:
Uned Gludiant Integredig Cyngor Gwynedd Swyddfeydd y Cyngor Caernarfon Gwynedd LL55 1SH
Beth yw’r ffi?
Bydd y ffi yn disgyn i 2 gategori:
(i) Ffi Dalgylch: dysgwr yn derbyn addysg gynradd ac yn byw llai na 2 filltir i ffwrdd o’r ysgol (neu safle ysgol) y dalgylch, neu yn ddysgwr sy’n derbyn addysg uwchradd sy’n byw llai na 3 milltir i ffwrdd o’r ysgol (neu safle ysgol).
(ii) Ffi All-dalgylch: dysgwr sydd yn mynychu ysgol (neu safle ysgol) heblaw ysgol (neu safle ysgol) y dalgylch.
Adolygir y ffi yn flynyddol a bydd y wybodaeth ar gael ar y wefan www.gwynedd.llyw.cymru/teithioirysgol
Sut i dalu?
Anfonir anfoneb i’ch sylw i’w dalu, neu gallwch drefnu i dalu drwy ddebyd uniongyrchol.
Pa gymorth sydd ar gael os yw llwybrau cerdded yn beryglus?
Pan fo dysgwyr sy’n derbyn addysg gynradd yn byw llai na 2 filltir i ffwrdd o ysgol (neu safle ysgol) y dalgylch, neu pan fo dysgwyr sy’n derbyn addysg uwchradd yn byw llai na 3 milltir i ffwrdd o ysgol (neu safle ysgol) y dalgylch, ac nad oes ganddynt felly hawl i gludiant di-dâl, ond yn teithio i ysgol ar hyd ffordd mae’r Cyngor yn ei hystyried yn beryglus iawn, darperir cludiant di-dâl. Y diffiniad o ffordd beryglus yw ble mae natur y ffordd (sy’n cynnwys llwybrau troed cyhoeddus) yn golygu nad yw’n rhesymol disgwyl i ddysgwyr (wrth ystyried eu hoedran a gyda hebrwngwr fel bo angen) i gerdded yn gymharol ddiogel. Wrth asesu diogelwch cymharol ffordd, bydd y Cyngor yn asesu’r peryglon y gallai dysgwr eu hwynebu ar hyd y ffordd a bennir (yn cynnwys, e.e. afonydd, ffosydd, cyflymder traffig ar hyd y ffordd gyfagos, damweiniau wedi digwydd yn y gorffennol, coed yn gorhongian neu ganghennau a allai rwystro cerddwyr neu yrwyr rhag gweld, ayb). Rhaid cynnal yr asesiad ar yr amser o’r dydd a dyddiau’r wythnos y gellid disgwyl i ddysgwyr ddefnyddio’r ffordd.
Y llwybr byrraf sydd ar gael yw’r un nad yw’r Cyngor yn ei ystyried yn arbennig o beryglus, ar ôl asesu’r llwybrau eraill y gellid eu defnyddio.
A oes cymorth ar gael i ddysgwyr sy’n newid cyfeiriad yn ystod cwrs arholiad?
Bydd y Cyngor yn cyfrannu tuag at gostau teithio dysgwr sydd wedi symud i ddalgylch newydd yn ystod blwyddyn arholiad allanol, neu flwyddyn flaenorol, e.e. cwrs TGAU, ac sy’n dymuno cwblhau’r cwrs yn yr un ysgol (neu safle ysgol) sy’n gwasanaethu eu cyn gartref, trwy un o’r dulliau canlynol:
- Cynnig cludiant di-dâl pan fo modd trefnu cludiant heb olygu cost ychwanegol i’r Cyngor.
- Cynnig talu swm hyd at uchafswm o’r hyn sy’n gyfwerth ag 20 milltir o deithio dyddiol yn unol â graddfa gyfredol lwfans cludiant cyhoeddus cenedlaethol llywodraeth leol.
Telir unrhyw daliad ar ddiwedd pob tymor am bob diwrnod y cafodd y dysgwr ei farcio’n bresennol ar gofrestr yr ysgol.