Polisi Cludiant Addysg Ôl-16

1. Cyflwyniad

1.1 Mae rhan 2 o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 yn ei gwneud hi’n ofynnol i Awdurdodau Lleol asesu anghenion teithio pob dysgwr sydd o dan 19 oed. (Mae’n rhaid i ddysgwr fod yn astudio cwrs llawn amser a bod o dan 19 oed ar 1 Medi y flwyddyn academaidd y dilynwyd y cwrs).

1.2 Mae’r Awdurdod Lleol yn darparu cludiant dewisol y tu hwnt i oedran ysgol statudol i ddysgwyr cymwys sy’n byw yng Ngwynedd. Bydd cludiant yn cael ei ddarparu i’r Ysgol Uwchradd ddalgylch / addas agosaf a ddynodwyd gan yr Awdurdod i wasanaethu cyfeiriad cartref y dysgwyr yn unig, neu yn achos cyrsiau llawn amser Grŵp Llandrillo Menai, i’r safle coleg addas agosaf sy’n darparu’r cwrs. Bydd cludiant am ddim ar gael i ddysgwyr sy’n byw 3 milltir neu fwy o’r ysgol ddalgylch / addas agosaf, neu’r safle coleg addas agosaf. Bydd yr Awdurdod yn defnyddio’r pellter a fesurwyd ganddynt o’r cartref i’r ysgol neu goleg cymwys ar y system (GIS) er mwyn cadarnhau gwir bellter.

1.3 Bydd yr ystyriaethau canlynol yn berthnasol wrth ystyried y lleoliad agosaf sy’n darparu’r cwrs:

- A yw’r cwrs a gynigir

- A yw’r cwrs a gynigir yn y ysgol ddalgylch/addas agosaf neu’r safle coleg addas agosaf yn cael ei ddarparu yn yr un cyfrwng iaith â safle ysgol/coleg dewisol y dysgwr?

- A oes gan y cwrs a gynigir yn yr ysgol ddalgylch/addas agosaf neu’r safle coleg addas agosaf yr un gofynion mynediad â safle ysgol/coleg dewisol y dysgwr?

- A yw’r cwrs a gynigir yn yr ysgol ddalgylch/addas agosaf neu’r safle coleg addas agosaf yn cynnig yr un cymhwyster â safle ysgol/coleg dewisol y dysgwr?

1.4 Bydd dysgwyr gydag anghenion dysgu ychwanegol yn gallu manteisio ar gynllun cludiant ôl-16 yr Awdurdod am gyfnod o hyd at 4 blynedd o ddechrau eu tymor cyntaf.

1.5 Mae’r polisi’n berthnasol ar gyfer teithio i’r sefydliadau addysgol canlynol:

- Ysgolion Uwchradd a gynhelir gan Gyngor Gwynedd sy’n darparu ar gyfer Blynyddoedd 12 a 13.

- Ysgolion arbennig a gynhelir gan Gyngor Gwynedd sy’n darparu ar gyfer Blynyddoedd 12 a 13 a 14.

- Grŵp Llandrillo Menai - safleoedd Dolgellau, Pwllheli, Glynllifon, Safle Menai Parc Menai - Bangor, Llangefni a Chaernarfon. Gellir gweld y cyrsiau sydd ar gael ym mhob un o’r sefydliadau hyn yn eu prosbectai, sydd ar gael gan y sefydliadau yn uniongyrchol.

1.6 Os yw lleoliad cwrs neu ddysgwr yn trosglwyddo sefydliad addysgol arall yn ystod y flwyddyn academaidd, bydd y meini prawf ar gyfer cludiant ôl-16 yn parhau’n berthnasol.

1.7 Mae gan ddysgwyr yr hawl i ddewis unrhyw leoliad ar gyfer eu haddysg ôl-16, ond os na fydd dysgwr yn dewis yr ysgol/ safle coleg agosaf sy’n darparu’r cwrs yna byddent yn colli eu hawl i gludiant am ddim. Codir ffi o £1 y daith ar gyfer dysgwyr sydd yn dewis teithio i ysgol all-dalgylch neu safle coleg nad yw’r safle agosaf sy’n darparu’r cwrs.

1.8 Darperir cludiant rhwng sefydliadau dysgu sy’n gweithio mewn partneriaeth â’i gilydd gan y partneriaid hynny.

2. Cefnogaeth ariannol i ddysgwyr

2.1 Cynigir Lwfans Cynhaliaeth Addysg i ddysgwyr ôl-16 sy’n mynychu ysgol neu goleg lleol. Mae’r Lwfans yn dibynnu ar incwm y cartref. Telir y Lwfans er mwyn cynorthwyo gyda chostau teithio, llyfrau ac offer wrth ddilyn cwrs mewn coleg neu ysgol fel dysgwr ôl-16. Ceir mwy o wybodaeth am y lwfans drwy ddilyn y linc: Lwfans Cynhaliaeth Addysg (LCA) | LLYW.CYMRU

3. Y Rhwydwaith Cludiant Ôl-16

3.1 Oherwydd natur ddaearyddol Gwynedd, nid yw bob amser yn bosibl trefnu llwybrau cludiant i fynd heibio cartrefi pob dysgwr sy’n awyddus i deithio. Bydd cludiant ar gael ar lwybrau penodol fydd yn arwain at y sefydliad(au) perthnasol. Bydd y Cyngor yn hysbysu’r dysgwr o leoliad ei fan codi a gollwng dynodedig. Ni fydd y Cyngor yn darparu cludiant ychwanegol i gyrraedd unrhyw fan codi / gollwng ar un o’r llwybrau.

4. Gwneud Cais am Gludiant

4.1 Mae gwybodaeth ynglŷn â sut i wneud cais am gludiant ôl-16 ar gael ar wefan y Cyngor: Tocyn Teithio 16+ - Cyngor Gwynedd

5. Talu am Seddi Gweigion

5.1 Mae gan ddysgwyr yr hawl i ddewis unrhyw leoliad ar gyfer eu haddysg ôl-16, ond os na fydd dysgwr yn dewis yr ysgol/ safle coleg agosaf sy’n darparu’r cwrs yna byddent yn colli eu hawl i gludiant am ddim. Codir ffi o £1 y daith ar gyfer dysgwyr sydd yn dewis teithio i ysgol all-dalgylch neu safle coleg nad yw’r safle agosaf sy’n darparu’r cwrs.

5.2 Bydd disgwyl i ddysgwyr ôl-16 dalu'r ffi berthnasol yn llawn am y tymor cyn cael mynediad at gludiant ôl-16. Bydd cyfnod disgresiynol ar gychwyn Tymor yr Hydref ar gyfer talu’r ffi berthnasol a derbyn y Tocyn Teithio Ôl-16, er sicrhau bod y trefniadau priodol i gyd mewn lle. Yn dilyn hynny, bydd disgwyl i ddysgwyr ôl-16 dalu’r ffi berthnasol ymlaen llaw ar gychwyn bob tymor

6. Adegau Teithio

6.1 Bydd cludiant ar gael rhwng dydd Llun a dydd Gwener yn ystod tymhorau’r ysgol/coleg yn unig.

6.2 Bydd rhaid i daith i goleg neu ysgol gael ei chwblhau cyn 12:00.

6.3 Ni ellir teithio adref o’r coleg neu ysgol cyn 13:00. Bydd rhaid i daith adref gychwyn cyn 18:00.

7. Math o Gludiant

7.1 Bydd y Cyngor yn darparu cludiant yn y dull mwyaf effeithiol a phriodol. Yn bennaf bydd y Cyngor yn trefnu defnydd o wasanaethau bws a thrên cyhoeddus.

7.2 Yn ogystal, bydd y Cyngor yn darparu cludiant ar fysus, bysiau mini neu dacsis sydd o dan gytundeb gyda’r Cyngor.

8. Y Cod Ymddygiad

8.1 Wrth i ddysgwyr gyflwyno cais am gludiant ôl-16, bydd yn rhaid iddynt ddatgan ar y ffurflen gais eu bod wedi deall ac yn ymrwymo i gadw at y Cod Ymddygiad a’u bod yn ymwybodol o’r canlyniadau posib wrth dorri’r Cod.