Pwrpas y Cynllun Seddi Gweigion ydi gwneud y defnydd gorau posibl o gapasiti sydd dros ben ar gerbydau a ddarperir yn bennaf i gyflawni dyletswyddau cludiant ysgol statudol y Cyngor.
Mae'r Cynllun yn ddisgresiynol ei natur ac ni fydd ei weithrediad yn amharu ar allu'r Cyngor i gyflawni ei ddyletswyddau statudol.
Gwneud cais ar-lein: Cynllun seddi gweigion (yn agor mewn tab newydd)Gweithdrefn Cynllun Seddi Gweigion
Hawl Statudol i Gludiant Ysgol:
Hawl dysgwr i gael cludiant ysgol am ddim gan y Cyngor yn unol â gofynion Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008, y canllawiau statudol perthnasol a meini prawf cludiant ysgol y Cyngor fel y'u diwygir o bryd i'w gilydd. At ddibenion y Polisi hwn, bydd Hawliau Statudol i Gludiant Ysgol bob amser yn cael blaenoriaeth dros unrhyw ddarpariaeth cludiant a ddarperir ar sail disgresiwn.
Sedd Wag:
Sedd ar gerbyd cludiant ysgol y mae'r Cyngor wedi penderfynu ei bod dros ben i'w ofynion cludiant statudol ac ar gael i'w dyrannu ar sail disgresiwn. Nid yw seddi sydd wedi'u cadw i ddiwallu anghenion cludiant statudol presennol neu a ragwelir yn y dyfodol yn cael eu hystyried yn seddi gweigion, hyd yn oed os ydynt yn wag ar rai teithiau.
Diben y Cynllun Seddi Gweigion yw gwneud y defnydd gorau posibl o gapasiti sydd dros ben ar gerbydau a ddarperir yn bennaf i gyflawni dyletswyddau cludiant ysgol statudol y Cyngor. Mae'r Cynllun yn ddisgresiynol ei natur ac ni fydd ei weithrediad yn amharu ar allu'r Cyngor i gyflawni ei ddyletswyddau statudol.
Gall y Cyngor, yn ôl ei ddisgresiwn llwyr, gynnig seddi gweigion i ddysgwyr nad ydynt yn gymwys i gael cludiant ysgol statudol. Bydd unrhyw ddarpariaeth o'r fath yn amodol ar gapasiti sydd dros ben ar ôl diwallu anghenion pob dysgwr sydd â Hawl Statudol i Gludiant Ysgol.
Nid oes gan unrhyw ddysgwr hawl awtomatig i gael sedd wag, ac nid oes gan y Cyngor unrhyw ddyletswydd i gynnig, cynnal neu lenwi unrhyw sedd wag.
Bydd manteisio ar y cynllun yn amodol ar y canlynol:
- Bod seddi gwag ar gael
- Nid oes angen i’r cerbyd wyro oddi ar ei daith arferol
- Dim costau ychwanegol i Gyngor Gwynedd
- Talu’r ffi gyfredol am sedd wag
Y Cyngor fydd yn ystyried a gwneud penderfyniadau ynglŷn â’r uchod. Mae penderfyniad y Cyngor yn derfynol.
Mae'r Cyngor yn cydnabod y gall fod dryswch rhwng sedd sy'n ymddangos yn wag ar gerbyd cludiant ysgol ,a sedd sydd ar gael i'w dyrannu o dan y Cynllun Seddi Gweigion.
Nid yw'r ffaith fod sedd yn wag ar daith benodol, nac yn wir yn wag yn rheolaidd dros gyfnod o amser, yn golygu bod y sedd honno ar gael i'w dyrannu. Mae'r Cyngor yn gorfod sicrhau bod ganddo gapasiti digonol i ddarparu ar gyfer pob dysgwr sydd â Hawl Statudol i Gludiant Ysgol, gan gynnwys dysgwyr a all ddod yn gymwys yn ystod y flwyddyn ysgol.
Wrth gynllunio'r gwasanaeth, gall y Cyngor gadw seddi heb eu dyrannu er mwyn darparu ar gyfer newidiadau mewn cymhwystra, symudiadau poblogaeth, galw ychwanegol am gludiant, trefniadau diogelwch neu ofynion gweithredol eraill. Gall y seddi hyn ymddangos yn wag ar rai teithiau ond nid ydynt yn cael eu hystyried yn Seddi Gweigion sydd ar gael. Fe fydd yr un egwyddorion yn wir os yw darparwr cludiant yn penderfynu, ar sail achlysurol neu barhaus, i ddefnyddio cerbyd/au sydd â mwy o seddi na’r gofyn cytundebol i'w darparu.
Dim ond pan fydd y Cyngor wedi penderfynu bod sedd dros ben i'w ofynion cludiant statudol presennol a rhesymol rhagweladwy y bydd y sedd honno yn cael ei hystyried yn sedd wag sydd ar gael i'w dyrannu.
Ni fydd gweld sedd wag ar gerbyd ysgol yn creu hawl, disgwyliad nac unrhyw ragdybiaeth fod y sedd honno ar gael o dan y Cynllun Seddi Gweigion. Penderfyniad y Cyngor fydd argaeledd unrhyw sedd fel Sedd Wag. Mae penderfyniad y Cyngor yn derfynol.
Bydd seddi gweigion yn cael eu dyrannu yn dymhorol, fesul tymor ysgol ar y tro.
Os bydd nifer y ceisiadau am Seddi Gweigion yn fwy na nifer y seddi sydd ar gael, bydd y Cyngor yn dyrannu'r seddi yn unol â'r trefniadau gweithredu canlynol:
Trefniadau ar gyfer dyrannu sedd wag ar ddechrau’r flwyddyn academaidd:
1. Trefn pan fo seddi gweigion ychwanegol ar gael:
- Cynigir seddi gwag am y tymor i’r rhai oedd â sedd wag yn y tymor blaenorol fel eu bod yn cael y cynnig cyntaf.
- Os bydd seddi gweigion ychwanegol ar gael wedyn, bydd y cynnig nesaf yn mynd i’r ymgeiswyr newydd sydd yn byw bellaf o’r ysgol.
- Os bydd mwy nag un ymgeisydd o’r un cyfeiriad, a dim ond un sedd wag ar gael, y rhiant/gwarcheidwad fydd yn dewis pa ymgeisydd o’r cyfeiriad fydd yn cael y sedd.
2. Trefn pan fo dim newid yn y nifer o seddi gweigion sydd ar gael:
- Cynigir seddi gwag am y tymor i’r rhai oedd â sedd wag yn y tymor blaenorol fel eu bod yn cael y cynnig cyntaf.
- Os bydd rhai yn gwrthod y cynnig, yna dylid dilyn trefn rhif 1 (uchod).
3. Trefn pan fo lleihad yn y nifer o seddi gweigion sydd ar gael:
- O’r rhai oedd â sedd wag yn y flwyddyn academaidd flaenorol, y cyntaf i golli’i hawl fydd y sawl sydd yn byw agosaf i’r ysgol (neu safle ysgol).
- Os bydd angen i un disgybl o gyfeiriad penodol golli ei sedd a bod mwy nag un disgybl o’r cyfeiriad â sedd wag yn y flwyddyn flaenorol, y rhiant/gwarcheidwad fydd yn dewis pa ddisgybl o’r cyfeiriad fydd yn colli ei sedd.
Bydd rhestr wrth gefn yn cael i gadw, ac os daw seddi gwag yn rhydd yn ystod y flwyddyn yna bydd y cynnig cyntaf yn mynd i’r rhai sy’n byw bellaf o’r ysgol (neu safle ysgol).
Os oes rhaid dod â’r hawl i seddi gwag i ben yn ystod y flwyddyn, y cyntaf i golli’i hawl fydd y sawl sydd yn byw agosaf i’r ysgol (neu safle ysgol).
Mae'r Cyngor yn cadw'r hawl i beidio â dyrannu sedd wag, hyd yn oed lle mae sedd yn ymddangos yn wag yn rheolaidd, os yw'n ystyried bod angen cadw'r capasiti hwnnw er mwyn sicrhau y gall gyflawni ei ddyletswyddau statudol yn effeithlon ac yn ddiogel.
Rhaid talu'r ffi berthnasol yn llawn am y tymor cyn dechrau defnyddio'r sedd wag.
Mae'r ffi yn ymwneud â chaniatâd i ddefnyddio sedd wag am gyfnod penodol ac nid yw'n prynu hawl i gludiant ysgol na hawl i sedd benodol.
Nid yw talu'r ffi na dyrannu sedd wag yn creu hawl statudol i gludiant nac yn gwarantu y bydd y sedd ar gael am weddill y tymor, na’r tymor dilynol, na’r flwyddyn academaidd gyfan.
Bydd Hawliau Statudol i Gludiant Ysgol bob amser yn cael blaenoriaeth dros ddefnydd disgresiynol o seddi gweigion. Mae'r Cyngor yn cadw'r hawl i dynnu sedd wag yn ôl ar unrhyw adeg os bydd angen y sedd i ddiwallu Hawl Statudol i Gludiant Ysgol neu os oes rhesymau gweithredol, diogelwch, cytundebol neu ariannol sy'n cyfiawnhau gwneud hynny.
Lle bo'n rhesymol ymarferol, bydd y Cyngor yn rhoi cymaint o rybudd â phosibl i'r rhiant neu'r gwarcheidwad os bydd angen tynnu sedd wag yn ôl, a rhoddir o leiaf wythnos o rybudd fel isafswm.
Os bydd y Cyngor yn tynnu sedd wag yn ôl cyn diwedd y tymor y talwyd amdano, ad-delir y gyfran berthnasol o'r ffi am y cyfnod nad oedd modd manteisio ar sedd wag.
Nid yw dyrannu sedd wag yn warant y bydd y sedd yn parhau i fod ar gael am gyfnod penodol os bydd angen y sedd honno wedyn er mwyn galluogi'r Cyngor i gyflawni ei ddyletswyddau statudol.
Mae'r Cyngor yn cadw'r hawl i ddiwygio, atal neu derfynu'r Cynllun Seddi Gweigion unrhyw bryd yn unol â'i ddyletswyddau statudol, ei bolisïau corfforaethol a'i benderfyniadau ariannol a gweithredol.
Nid yw gweithrediad y Cynllun Seddi Gweigion yn cyfyngu mewn unrhyw ffordd ar ddyletswyddau statudol y Cyngor nac ar ei allu i wneud penderfyniadau er mwyn sicrhau darpariaeth briodol ac effeithlon o gludiant ysgol.