Polisi Cludiant Addysg (Medi 2026)

(yn weithredol o 1 Medi 2027)

1. CYFLWYNIAD
2. CLUDIANT O’R CARTREF I’R YSGOL
3. CLUDIANT YSGOL DEWISOL
4. GWYBODAETH ARALL
5. DARPARU CLUDIANT
6. GWELLA GWASANAETH
7. GWYBODAETH YCHWANEGOL

1. CYFLWYNIAD

1.1 Mae gan Gyngor Gwynedd ddyletswydd i ddarparu cludiant i’r ysgol yn unol â Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 a Teithio gan Ddysgwyr: Darpariaeth Statudol a Chanllawiau Gweithredol 2014. Mae’r Polisi Cludiant i Ddysgwyr yma’n amlinellu sut mae’r Awdurdod yn darparu cludiant i ddysgwyr ysgol a dysgwyr Grŵp Llandrillo Menai sy’n preswylio yng Ngwynedd, a’r meini prawf cymhwyster.

1.2 Er mwyn bodloni’r gofyniad hwn, bydd yr Awdurdod yn ystyried y canlynol wrth wneud trefniadau i ddysgwyr sy’n preswylio yng Ngwynedd:

  • Oedran y dysgwr
  • Y pellter o’r cartref i’r ysgol
  • Natur y llwybr o’r cartref i’r ysgol
  • Ceisiadau am addysg ffydd
  • Anghenion dysgwyr gydag anableddau neu anghenion dysgu ychwanegol
  • Anghenion dysgwyr sy’n derbyn gofal gan yr Awdurdod Lleol
  • Anghenion dysgwyr gyda phreswyliad deuol.

1.3 Mae’r Mesur yn caniatáu’r Awdurdod Lleol i ddefnyddio disgresiwn mewn perthynas â’r gwasanaethau a ddarperir o dan rai amgylchiadau. Amlinellir yr elfennau dewisol hyn yn Rhan 3 o’r polisi hwn.

1.4 Darperir cludiant i ddysgwyr ôl-16 o dan y polisi fel trefniant dewisol. Gweler Rhan 3.3.

1.5 Mae’n ofynnol i’r Awdurdod ddarparu cludiant am ddim o’r cartref i’r ysgol o dan rai amgylchiadau. Amlinellir y rhain yn Rhan 2. Mae’r ddyletswydd i ddarparu’r cludiant hwnnw ond yn berthnasol os ydy plentyn yn preswylio yn ardal yr Awdurdod.

1.6 Bydd yr Awdurdod Lleol yn ymdrechu’n barhaus i ddarparu cludiant diogel, priodol, effeithlon a chost effeithiol i’r dysgwyr hynny sy’n gymwys o dan y polisi hwn.

1.7 Darperir cludiant o’r cartref i’r ysgol i ddysgwyr cymwys rhwng eu cyfeiriadau cartref neu fan casglu dynodedig a’r ysgol addas agosaf lle mae’n nhw wedi cofrestru ynddi. Ni ddarperir cludiant am ddim i gyfeiriadau neu o gyfeiriadau aelodau eraill o’r teulu neu ffrindiau, cyfeiriadau gwaith y rhieni, neu gyfleusterau gofal plant o unrhyw fath.

1.8 Daw’r Polisi i rym o 1 Medi 2027 ymlaen. Bydd trefniadau cludiant a aseswyd ac a ddarparwyd o dan bolisi blaenorol yr Awdurdod Lleol yn parhau oni fod newid materol mewn amgylchiadau a fyddai’n gofyn am wneud cais newydd, e.e. symud cartref neu ysgol / ysgol neu goleg ôl-16.

2. CLUDIANT O’R CARTREF I’R YSGOL

2.1

2.1.1 Bydd Cyngor Gwynedd yn darparu cludiant am ddim i ddysgwyr sy’n diwallu’r meini prawf am gludiant a osodir yn y polisi hwn. Cyfeiria’r polisi at gludiant i ysgolion sy’n gymwys ac oddi wrthynt yn y categorïau canlynol:

  • Ysgol gymunedol, sylfaen, a reolir neu wirfoddol a gynorthwyir
  • Ysgol arbennig nas cynhelir
  • Uned cyfeirio i ddisgyblion
  • Ysgol annibynnol a enwir mewn Cynllun Datblygu Unigol.

2.2 Meini Prawf Pellter

2.2.1 Mae Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 yn amodi y bydd cludiant am ddim yn cael ei ddarparu i ddysgwyr oed ysgol gorfodol yn unig, os ydi’r pellter o’r cartref i’w hysgol addas agosaf o leiaf:

a) 2 filltir i ddysgwyr Ysgolion Cynradd

b) 3 milltir i ddysgwyr Ysgolion Uwchradd

2.3 Yr Ysgol ddalgylch/addas agosaf

2.3.1 Diffinnir ysgol ddalgylch dysgwr gan ddalgylchoedd penodol ac yn seiliedig ar leoliad cartref y dysgwr. Yr ysgol addas agosaf at ddibenion cludiant fydd yr ysgol dan ofal Cyngor Gwynedd sydd agosaf at gartref y dysgwr. Ceir gwybodaeth bellach am yr ysgol ddalgylch/addas agosaf trwy ymweld â’r ddolen ‘Lle dwi’n byw’ ar wefan Cyngor Gwynedd: Chwilio am gyfeiriad

2.3.2 Os yw’r ysgol ddalgylch / addas agosaf yn llawn, asesir argaeledd yr ysgol addas agosaf nesaf sydd ar gael i dderbyn y dysgwr. Bydd yr un meini prawf pellter yn berthnasol.

2.3.3 Darperir cludiant o’r cartref i’r ysgol i ddysgwyr cymwys rhwng eu cyfeiriadau cartref neu fan casglu dynodedig a’r ysgol addas agosaf lle maent wedi cofrestru ynddi. Ni ddarperir cludiant am ddim i gyfeiriadau neu o gyfeiriadau aelodau eraill o’r teulu neu ffrindiau, cyfeiriadau gwaith y rhieni, neu gyfleusterau gofal plant o unrhyw fath.

2.4 Mesur Pellter Teithio

2.4.1 Ar gyfer asesiadau o dan y meini prawf pellter yn Rhan 2.2 , bydd y gwaith o gyfrifo pellter o’r cartref i’r ysgol yn glynu wrth yr arweiniad a ddarparwyd yn Teithio gan Ddysgwyr: Darpariaeth Statudol a Chanllawiau Gweithredol 2014.

2.4.2 Lle disgwylir yn rhesymol i ddysgwyr gerdded i’r ysgol, caiff y pellter ei fesur yn ôl y llwybr byrraf sydd ar gael y gallai plentyn, boed yn annibynnol neu gyda hebryngwr, gerdded, yn rhesymol o ddiogel arno; o ystyried oedran ac anghenion y plentyn.

2.4.3 Asesir addasrwydd y llwybr teithio o ran diogelwch y dysgwr wrth gerdded arno, a gwneir asesiadau risg trylwyr gan swyddogion yr Uned Gludiant Integredig (Cyngor Gwynedd) ar amseroedd tebygol o’r dydd y byddai’r dysgwr yn ei ddefnyddio.

2.4.4 Wedi cynnal asesiad risg o lwybr teithio’r dysgwr (boed hynny’n cerdded yn annibynnol neu gydag oedolyn cyfrifol), os bernir bod llwybr teithio o’r cartref i’r ysgol yn beryglus, yna ni ellir disgwyl i’r dysgwr gerdded i’r ysgol, er bod y pellter o’r cartref i’r ysgol yn llai na’r pellter statudol a nodir yn 2.2 uchod. Yn yr amgylchiadau yma, mae gan y dysgwr hawl i ddarpariaeth cludiant am ddim.

2.4.5 Y diffiniad o ffordd beryglus yw lle mae natur y ffordd, sydd yn cynnwys llwybrau troed cyhoeddus, yn golygu nad yw’n rhesymol disgwyl i ddysgwyr gerdded yn gymharol ddiogel. Wrth asesu diogelwch cymharol ffordd, bydd yr Awdurdod yn asesu’r peryglon y gallai dysgwr eu hwynebu; gall y rhain gynnwys afonydd, ffosydd, cyflymder traffig ar hyd y ffordd, data damweiniau o’r gorffennol, coed a changhennau, ynghyd â nodweddion eraill all rwystro gyrrwr cerbyd allu gweld cerddwyr ar y ffordd.

2.4.6 Ar gyfer asesiadau dros y meini prawf pellter a nodir yn 2.2, caiff pellter y llwybr i’r ysgol ei fesur o ffin y cartref i’r fynedfa agosaf sydd ar gael i’r ysgol, a gallai gynnwys llwybrau troed cyhoeddus, llwybrau ceffylau a llwybrau eraill, yn ogystal â ffyrdd wedi’u mabwysiadu. Nid oes rhaid iddo gynrychioli’r pellter byrraf ar y ffordd. Caiff y pellter ei fesur gan system fapio ddigidol (GIS).

SYLWER:

2.5 Cludiant Ysgolion Cynradd ac Uwchradd

2.5.1 Bydd yr Awdurdod yn darparu cludiant am ddim i’r ysgol ddalgylch/addas agosaf yn unol â meini prawf y polisi hwn ar gyfer Ysgolion Cynradd ac Uwchradd. Gallai darpariaeth ddewisol fod yn berthnasol hefyd, yn rhinwedd y meini prawf a ddengys yn Rhan 3.

2.6 Dewis Ysgol y Rhieni / Gwarchodwyr

2.6.1 Mae gan rieni / gwarchodwyr yr hawl i ddewis unrhyw ysgol ar gyfer mynediad i’w plentyn yn amodol ar argaeledd llefydd. Os derbynnir y cais, bydd y rhiant / gofalwr yn colli eu hawl i gludiant am ddim os nad dyma yw eu hysgol ddalgylch / ysgol addas agosaf, neu os nad honno yw’r ysgol Uwchradd ddynodedig ar gyfer yr ysgol fwydo gynradd a fynychwyd ganddynt.

2.6.2 Mae hyn yn gyson ac yn cwrdd â’r gofynion a amlinellir yn Teithio gan Ddysgwyr: Darpariaeth Statudol ac Arweiniad Gweithredol (Mehefin 2014).

PWYSIG: Cynghorir rhieni / gofalwyr i ystyried goblygiadau cludiant ysgol cyn datgan eu dewis am le mewn ysgol. Gweler Rhan 2.3 ar yr ysgol ddalgylch/addas agosaf, ynghyd a Rhan 4.4 ar effaith cludiant.

2.7 Mynediad i Ysgol

2.7.1 Os bydd rhieni / gofalwyr yn methu sicrhau lle i’w plentyn yn eu hysgol dalgylch/addas agosaf, neu os ydy eu hysgol Uwchradd ddynodedig (o’r ysgol gynradd fwydo briodol) yn llawn, yna bydd cludiant am ddim yn cael ei ddarparu i’w hysgol addas agosaf nesaf, ar yr amod y bodlonir y meini prawf pellter yn Rhan 2.2.

2.8 Safleoedd Casglu a Gollwng

2.8.1 Ar gyfer dysgwyr sydd yn gymwys ar gyfer cludiant, bydd disgwyliad eu bod yn cychwyn o fan casglu wedi’i benderfynu ymlaen llaw, oni nodir fel arall pan brosesir y cais. Bydd yr Awdurdod yn ymdrechu i leoli mannau casglu sy’n rhesymol agos i gartrefi dysgwyr, ac nad yw’n fwy na’r pellteroedd statudol a amlinellir yn Rhan 2.2. Bydd unrhyw bellter a fesurir yn dilyn yr egwyddorion a amlinellir yn Rhan 2.4. Bydd yr asesiad hefyd yn ystyried llwybrau peryglus, gan ddilyn yr egwyddorion a nodir yn Rhan 2.8.

2.8.2 Cyfrifoldeb y rhiant / gwarchodwr yw sicrhau bod eu plentyn yn cyrraedd y man casglu mewn modd amserol a’i fod yn mynd ar y cerbyd yn ddiogel. Rhaid iddynt hefyd sicrhau bod yno oedolyn cyfrifol i gyfarfod y plentyn ar y siwrnai’n ôl, os yw oedran neu anghenion y plentyn yn gofyn am ddarparu hebryngwr.

2.8.3 Os nad oes oedolyn cyfrifol yno i gyfarfod plentyn sydd o ran oedran neu anghenion yn gofyn am ddarparu hebryngwr, yna bydd costau ychwanegol yn daladwy gan y rhiant/gwarchodwr, oherwydd gallai fod angen i Swyddogion geisio arweiniad gan y Gwasanaethau Plant ac, os bydd angen, trefnu i fynd â’r plentyn i fan diogel gan Gyngor Gwynedd.

2.8.4 Nid oes unrhyw beth yn y Polisi hwn yn creu'r disgwyliad y dylai pob plentyn gerdded i’r mannau casglu, gan y byddai hyn yn anaddas mewn rhai achosion. Mae’r Awdurdod yn cadw cofrestr o lwybrau peryglus hysbys, ac mae hyn yn ffurfio rhan o’r ystyriaeth a roddir wrth asesu ceisiadau am gludiant. Fodd bynnag, os cred rhiant / gwarchodwr nad yw defnydd o fan casglu’n addas i’w plentyn, dylent fynegi eu pryderon er sylw’r Awdurdod, a fydd yn ymchwilio i’r amgylchiadau i benderfynu a oes angen trefniadau cludiant ychwanegol neu amgen eu hangen i’r plentyn hwnnw; er mwyn sicrhau bod gofynion y Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 yn cael eu bodloni. Er hyn, disgwylir y bydd rhieni / gwarchodwyr yn gwneud trefniadau ar gyfer y ddwy filltir gyntaf i gwrdd ag unrhyw gludiant a ddarperir gan yr Awdurdod.

2.8.5 Mae gan yr Awdurdod yr hawl i adolygu’r mannau casglu i sicrhau y cynhelir llwybr diogel yn barhaus ac yn amodol ar sicrhau bod y ddarpariaeth fwyaf cost effeithiol ar waith.

2.8.6 Unwaith bydd cymhwysedd am gludiant ysgol wedi’i gadarnhau, bydd yr Uned Gludiant Integredig yn hysbysu’r ysgol gyda chais i’r ysgol rannu’r wybodaeth berthnasol gyda’r rhieni / gofalwyr.

2.8.7 Ble defnyddir cludiant i gludo dysgwyr i fannau casglu, rhaid i’r dysgwyr aros gyda’r tacsi hyd nes i’r cerbyd i’w cludo ymlaen gyrraedd. Mae disgwyl i yrwyr adrodd i’r Uned Gludiant Integredig am unrhyw ddysgwyr nad ydynt yn cydymffurfio gyda’r disgwyliad yma.

2.8.8 Mae contractwyr sy’n darparu’r gwasanaethau hyn wedi’u cyfarwyddo i aros gyda dysgwyr i sicrhau eu bod yn mynd ar y cerbyd sy’n eu cludo ymlaen. Anogir rhieni / gwarchodwyr hefyd i adrodd i’r Uned Gludiant Integredig am unrhyw achosion lle nad yw gyrwyr yn gwneud hyn.

2.9 Llwybrau Peryglus

2.9.1 I ddysgwyr sy’n byw o dan y pellter cymhwyso statudol a ddengys yn Rhan 2.2, bydd yr Awdurdod yn darparu cludiant i’r ysgol os ystyrir fod y llwybr yn beryglus. Asesir llwybrau peryglus gan Yr Uned Gludiant Integredig gan ddilyn y canllawiau a ddarparwyd yn Teithio gan Ddysgwyr: Darpariaeth Statudol a Chanllawiau Gweithredol 2014.

2.9.2 Lle defnyddir mannau casglu, bydd yr Awdurdod Lleol yn ystyried hefyd a oes llwybrau peryglus allai atal dysgwyr yn rhesymol rhag cerdded i’r lleoliadau hyn, gyda chwmni hebryngwr fel y bo angen. Yn yr achosion hynny, bydd yr Awdurdod Lleol, ar ôl asesu, yn darparu cludiant am ddim o’r cartref i’r man casglu, neu’n cyfeirio at yr ysgol (pa bynnag un sydd fwyaf effeithlon).

SYLWER: Lle mae rhieni / gofalwyr wedi defnyddio’u hawl i ddewis ysgol yn ôl eu dymuniad (gweler Rhan 2.6), yna cyfrifoldeb y rhiant/gofalwr yw trefnu cludiant o’r cartref i’r ysgol.

2.9.3 Os cred rhiant / gwarchodwr fod llwybr penodol yn beryglus, dylent fynegi eu pryderon i sylw’r Awdurdod, a fydd yn ymchwilio i gadarnhau a oes angen unrhyw drefniadau cludiant ychwanegol neu amgen.

2.10 ANGHENION DYSGU YCHWANEGOL (ADY) A CHYFLYRAU MEDDYGOL

2.10.1 Bydd yr Awdurdod yn ystyried cyflwr meddygol, anabledd ac anghenion dysgu ychwanegol dysgwr wrth asesu anghenion teithio dysgwyr yn yr ardal. Os oes gan ddysgwr Gynllun Datblygu Unigol (CDU), bydd cludiant i’r dysgwr yn cael ei ddarparu yn unol â’r CDU – gall hyn gynnwys plant cyn-ysgol hefyd. Os caiff y CDU ei adolygu a’r elfen cludiant yn cael ei ddiwygio, bydd unrhyw drefniadau cludiant yn adlewyrchu’r CDU diwygiedig.

2.10.2 Gall yr Awdurdod ddarparu cludiant o’r cartref i’r ysgol am ddim i ddysgwyr o oed ysgol orfodol, os nad oes ganddynt CDU, pan ofynnir am gludiant am resymau meddygol, anabledd neu anghenion dysgu ychwanegol dysgwr (ADY). Bydd y ddarpariaeth hon yn cael ei hystyried pan fydd ffurflen gais am gludiant ar sail feddygol yn cael ei chwblhau, ynghyd â thystiolaeth gan ymgynghorydd neu berson o statws tebyg (nid Meddyg Teulu, Nyrs neu Ymarferydd). Bydd cludiant i ddysgwyr gydag anhawster meddygol/ADY yn ddibynnol ar eu hamgylchiadau unigol a’r llwybr y mae’n ofynnol i’r dysgwr ei deithio. Caiff y trefniadau cludiant yma eu hadolygu’n flynyddol.

2.10.3 Mae’r Awdurdod wedi ymrwymo i gefnogi dysgwyr i deithio’n annibynnol ble fo hynny’n ymarferol bosibl. Bydd yr adolygiad blynyddol o’r trefniadau teithio yn ystyried y math o gludiant a ddarperir i'r dysgwr ac, os darperir cynorthwyydd teithwyr personol, p’un a oes angen parhau gyda’r trefniant hwnnw ai peidio. Gall Cyngor Gwynedd wneud newidiadau i drefniadau cludiant yn dilyn yr adolygiad.

2.11 Plant Mewn Gofal

2.11.1 Plant sy’n derbyn gofal yw’r term a ddefnyddir yn Neddf Plant 1989 i ddisgrifio plant sydd o dan 18 oed sy’n derbyn gofal a llety gan yr Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd, Cyngor Gwynedd, yn aml gyda gofalwyr maeth.

2.11.2 Mae gan blant sy’n derbyn gofal (yn ôl diffiniad Deddf Plant 1989) yr un hawl i dderbyn cludiant a phlant nad ydynt yn derbyn gofal; fodd bynnag, nid oes gofynion iddynt fynychu’r ysgol addas agosaf at eu cartref neu gyfeiriad y lleoliad.

2.11.3 Os yw’r plentyn sy’n derbyn gofal yn mynychu ysgol agosach na’r pellter gofynnol a ddengys yn Rhan 2.2, ni fydd cludiant am ddim yn cael ei ddarparu. Gallai eithriadau yn rhinwedd y meini prawf a ddengys yn Rhan 3 fod yn berthnasol hefyd.

2.12 Preswyliad Deuol

2.12.1 Pan fydd rhieni yn rhannu cyfrifoldeb am blentyn a bod y plentyn yn preswylio mewn dau gartref, sef cartrefi’r ddau riant ar wahân, bydd yr Awdurdod yn darparu cludiant o’r prif gyfeiriad, sef y cyfeiriad y mae’r dysgwyr yn ymgartrefu gan amlaf, gydag o leiaf un o’r preswylfeydd hynny yng Ngwynedd. Mae hyn ar yr amod mai’r ysgol a fynychir yw'r ysgol ddalgylch/addas agosaf ar gyfer un o’r ddau breswylfa. Ni ddarperir cludiant o unrhyw un o’r ddwy breswylfa os yw’n fwy na phum milltir o’r ysgol ddalgylch / addas agosaf ar gyfer un o’r ddwy breswylfa.

SYLWER: Mae’r Awdurdod Lleol hefyd yn cadw’r hawl i brofi rhesymoldeb y cludiant y gofynnwyd amdano o dan yr amod hwn, o ystyried pellter, llwybrau diogel a hygyrch, hyd y daith, cost, ynghyd ag agosrwydd i sefydliadau addysg addas.

3. CLUDIANT YSGOL DEWISOL

3.1 O fewn Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008, gellir gwneud trefniadau dewisol o dan ran 6 y Mesur. Mewn rhai achosion, gellir codi ffi am gost y trefniadau hynny i’r rhiant / gwarchodwr cyfrifol.

3.2 Cynllun Seddi Gweigion

3.2.1 Mae’r Awdurdod Lleol yn cynnig seddi gweigion i ddysgwyr nad ydynt yn gymwys i gludiant am ddim. Mae’r cynnig yn amodol bod sedd wag ar gael ar gludiant ar ôl diwallu anghenion pob dysgwr sydd â hawl statudol i gludiant.

3.2.2 Ni fydd gan ddysgwyr hawl awtomatig i gael sedd wag, ac nid oes gan y Cyngor unrhyw ddyletswydd i gynnig, cynnal neu lenwi unrhyw sedd wag. Bydd manteisio ar y cynllun yn amodol ar y canlynol:

- Bod seddi gwag ar gael

- Nid oes angen i’r cerbyd wyro oddi ar ei daith arferol

- Dim costau ychwanegol i Gyngor Gwynedd

- Talu’r ffi gyfredol am sedd wag

3.2.3 Bydd seddi gweigion yn cael eu dyrannu’n dymhorol, fesul tymor ysgol ar y tro, a bydd yn ofynnol i dalu’r ffi berthnasol am y tymor cyn cael mynediad i’r sedd wag.

3.2.4 Nid oes gwarant y bydd seddi gwag ar gael drwy gydol y tymor, os bydd yr hawl yn dod i ben, ceisir rhoi o leiaf wythnos o rybudd. Os digwydd hyn, bydd yn ofynnol i’r rhiant/gwarchodwr drefnu cludiant ei hunain i’r dysgwr gyrraedd yr ysgol.

3.2.5 Bydd hawl statudol i gludiant am ddim yn unol â’r meini prawf bob amser yn cymryd blaenoriaeth dros unrhyw ddysgwyr sydd yn manteisio ar y cynllun sedd wag.

3.3 Ysgolion Ffydd

3.3.1 Ar gyfer ysgolion ffydd, bydd Cyngor Gwynedd yn darparu cludiant am ddim ar gyfer dysgwyr sy’n mynychu eu hysgol ffydd agosaf ar sail ddewisol os dyma yw dewis y rhieni/ gwarchodwr i ddysgwyr sy’n byw hyd at 5 milltir o’r ysgol (ffydd) addas agosaf. Defnyddir y meini prawf pellter statudol yn Rhan 2.2 er mwyn gwirio bod y dysgwr yn gymwys, ond gydag ysgolion ffydd, adolygir y cais yn erbyn meini prawf mynediad yr ysgol ffydd hefyd. Gall tystiolaeth o brawf gynnwys enghreifftiau megis tystysgrif bedydd, tystysgrif prawf o ffydd neu lythyr gan arweinydd ffydd. Os na fydd dysgwr yn cwrdd â’r gofynion ffydd, yna adolygir y cais mewn perthynas â gofynion cludiant yr ysgol agosaf neu ddalgylch agosaf.

3.4 Cludiant Ôl-16

3.4.1 Mae rhan 2 o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 yn ei gwneud hi’n ofynnol i Awdurdodau Lleol asesu anghenion teithio pob dysgwr sydd o dan 19 oed, (mae’n rhaid i ddysgwr fod yn astudio cwrs llawn amser a bod o dan 19 oed ar y 1af o Fedi y flwyddyn academaidd y dilynwyd y cwrs).

3.4.2 Mae’r Awdurdod Lleol yn darparu cludiant dewisol y tu hwnt i oedran ysgol statudol i ddysgwyr cymwys sy’n byw yng Ngwynedd. Bydd cludiant yn cael ei ddarparu i’r ysgol Uwchradd ddalgylch / addas agosaf a ddynodwyd gan yr Awdurdod i wasanaethu cyfeiriad cartref y dysgwyr yn unig, neu yn achos cyrsiau llawn amser Grŵp Llandrillo Menai, i’r safle coleg addas agosaf sy’n darparu’r cwrs. Bydd cludiant am ddim ar gael i ddysgwyr sy’n byw 3 milltir neu fwy o’r ysgol ddalgylch/addas agosaf neu’r safle coleg addas agosaf. Bydd yr Awdurdod yn defnyddio’r pellter a fesurwyd ganddynt o’r cartref i’r ysgol neu goleg cymwys ar y system (GIS) er mwyn cadarnhau gwir bellter.

3.4.3 Bydd dysgwyr gydag anghenion dysgu ychwanegol yn gallu manteisio ar gynllun cludiant ôl-16 yr Awdurdod am gyfnod o hyd at 4 blynedd o ddechrau eu tymor cyntaf.

3.4.4 Mae’r polisi’n berthnasol ar gyfer teithio i’r sefydliadau addysgol canlynol:

  • Ysgolion Uwchradd a gynhelir gan Gyngor Gwynedd sy’n darparu ar gyfer Blynyddoedd 12 a 13.
  • Ysgolion arbennig a gynhelir gan Gyngor Gwynedd sy’n darparu ar gyfer Blynyddoedd 12 a 13 a 14.
  • Grŵp Llandrillo Menai - safleoedd Dolgellau, Pwllheli, Glynllifon, Safle Menai Parc Menai - Bangor, Llangefni a Chaernarfon. Gellir gweld y cyrsiau sydd ar gael ym mhob un o’r sefydliadau hyn yn eu prosbectai, sydd ar gael gan y sefydliadau yn uniongyrchol.

3.4.5 Os yw lleoliad cwrs neu ddysgwr yn trosglwyddo sefydliad addysgol arall yn ystod y flwyddyn academaidd, bydd y meini prawf ar gyfer cludiant ôl-16 yn Rhan 3.4.2 yn parhau’n berthnasol.

3.4.6 Mae gan ddysgwyr yr hawl i ddewis unrhyw leoliad ar gyfer eu haddysg ôl-16, ond os na fydd dysgwr yn dewis yr ysgol ddalgylch/addas agosaf neu’r safle coleg addas agosaf sy’n darparu’r cwrs yna byddent yn colli eu hawl i gludiant am ddim. Codir ffi ar gyfer dysgwyr sydd yn dewis teithio i ysgol all-dalgylch neu safle coleg nad yw’r safle agosaf sy’n darparu’r cwrs.

3.4.7 Darperir cludiant rhwng sefydliadau dysgu sy’n gweithio mewn partneriaeth â’i gilydd gan y partneriaid hynny.

3.4.8 Ceir rhagor o wybodaeth am gludiant ôl-16 yn Atodiad 2.

3.5 Ad-drefnu Ysgolion

3.5.1 Mewn achosion ble mae ysgolion wedi eu had-drefnu, bydd yr Awdurdod Lleol yn ystyried y dewisiadau mwyaf priodol ar gyfer cludiant ysgol. Gallai hyn gynnwys darparu cludiant am ddim am gyfnod penodol o amser yn dibynnu ar yr amgylchiadau. Bydd y fath drefniadau’n cael eu darparu ar sail ddewisol ac yn cael eu dogfennu yn y broses ad-drefnu; felly bydd ysgolion, cyrff llywodraethol, rhieni / gwarchodwyr perthnasol ac unrhyw fudd-ddeiliaid eraill i gyd yn ymwybodol o delerau’r trefniant.

3.6 Adolygu Dalgylchoedd

3.5.1 Mewn achosion ble mae’r Awdurdod yn adolygu ffiniau dalgylchoedd (y tu allan i’r broses ad-drefnu ysgolion), bydd y meini prawf cludiant yn Rhan 2.2 yn berthnasol.

3.7 Symud Cartref

3.7.1 Mewn achosion lle mae dysgwr, sydd wedi bod yn derbyn cludiant ysgol am ddim, yn symud cartref rhan o’r ffordd trwy’r flwyddyn academaidd, bydd darpariaeth cludiant yn dod i ben os nad ydynt mwyach yn mynychu eu hysgol ddalgylch/addas agosaf.

3.7.2 Os yw dysgwr ran o’r ffordd trwy flwyddyn TGAU (blynyddoedd ysgol 10 ac 11), bydd yr Awdurdod yn parhau i ddarparu cludiant dewisol hyd nes i’r blynyddoedd academaidd gael eu cwblhau, h.y. tan ddiwedd blwyddyn 11.

3.7.3 Mae’r ymrwymiad hwn yn dibynnu ar y dysgwr yn byw yn ardal yr Awdurdod Lleol.

SYLWER: Mae’r Awdurdod Lleol hefyd yn cadw’r hawl i brofi rhesymoldeb y cludiant y gofynnwyd amdano o dan yr amod hwn, o ystyried pellter, amser y daith, a’r agosrwydd i sefydliadau addysg addas eraill.

3.7.4 Bydd pob ail-asesiad cymhwysedd arall yn dilyn yr un meini prawf a nodir yn Rhan 2. Ni fydd y rhan hon yn berthnasol lle mae rhieni / gwarchodwyr wedi defnyddio eu dewis yn flaenorol fel y manylir yn 2.6.

3.8 Trosglwyddiadau Ysgol a Reolir

3.8.1 Lle cefnogir trosglwyddiadau ysgol a reolir gan bennaeth ysgol y gyrchfan newydd a’r Adran Addysg, bydd rhieni / gofalwyr yn ymwybodol o’r weithred hon ac yn cael eu cynnwys yn y trafodaethau hyn ar lefel ysgol. Gallai cludiant ysgol o dan yr amgylchiadau hyn gael eu cefnogi ar sail ddewisol lle ffurfia ran o’r weithred a chytundeb pob parti i fynd ar drywydd newid ysgol er lles y dysgwr.

3.8.2 Cyfrifoldeb y rhiant / gofalwr yw sicrhau eu bod yn ymgysylltu’n llawn gyda’r Awdurdod a’r ysgol wrth fynd ar drywydd trosglwyddiad a reolir. Mae angen gwirio’r materion hyn ac mae tystiolaeth ar gael. Mae hyn yn galluogi’r Adran Addysg i wneud penderfyniad deallus ar sail y dystiolaeth sy’n cefnogi’r cais am gludiant.

3.8.3 Lle nad oes tystiolaeth ar gael ac/neu lle mae rhiant/gwarchodwr yn gwrthod ymwneud â’r broses gyda’r ysgol a’r Adran Addysg, bydd y cais am gludiant yn cael ei wrthod. Bydd hyn yn seiliedig ar y diffyg tystiolaeth sydd ar gael i wneud penderfyniad deallus.

3.9 Cyflyrau Meddygol

3.9.1 Rhoddir ystyriaeth i’r angen i ddarparu cludiant i’r dysgwyr rheiny sydd angen cludiant i’r ysgol dros dro oherwydd bod natur eu cyflwr meddygol yn effeithio’n ddifrifol ar eu symudedd (e.e. torri coes). Bydd yr Awdurdod yn rhoddi ystyriaeth i bob achos yn unigol, nid yn unig i’r rheiny sy’n gymwys am gludiant ar sail pellter. Ymhob achos darperir cludiant i’r safle a fynychir gan y dysgwr yn unig.

4. GWYBODAETH ARALL

4.1 Addysg Feithrin

Nid yw’r Awdurdod yn darparu cludiant i blant sy’n mynychu ysgol feithrin neu ddosbarthiadau meithrin yn 3 neu 4 oed. Darperir cludiant i blant cymwys o ddechrau’r flwyddyn ysgol lle mae’r plentyn yn cyrraedd 5 oed ac yn dechrau addysg amser llawn, fel rheol yn y dosbarth derbyn.

4.2 Clybiau y Tu Allan i’r Ysgol

Ni fydd yr Awdurdod yn darparu cludiant i glybiau ar ôl ysgol neu oddi wrthynt (h.y. clwb brecwast, clybiau ar ôl ysgol ayyb) neu weithgareddau allgyrsiol sy’n disgyn y tu allan i’r cwricwlwm statudol. Cyfrifoldeb y rhiant / gwarchodwr yw sicrhau bod trefniadau cludiant priodol ar waith os manteisir ar y darpariaethau hyn.

4.3 Newidiadau i’r Polisi

Os bydd angen diwygio’r polisi hwn, rhaid i’r Awdurdod ddilyn y gofynion statudol a osodwyd yn Rheoliadau Gwybodaeth am Deithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2009. Mae hyn yn gofyn i’r Awdurdod ymgynghori, cytuno a chyhoeddi newidiadau i’r polisi cyn 1af Hydref yn y flwyddyn sy’n rhagflaenu’r flwyddyn academaidd y daw’r newidiadau i rym.

4.4 Effaith Cludiant

Dylai rheini / gwarchodwyr ystyried goblygiadau eu dewis ysgol ar y defnydd o geir preifat a’r effaith y gallai hynny ei gael ar draffig ac allyriadau carbon y tu allan i’w hysgol ddethol. Mae’r Awdurdod yn annog rhieni / gwarchodwyr i ystyried cludiant a theithio llesol a chynaliadwy i’r ysgol o’u dewis.

4.5 Dulliau Teithio Cynaliadwy

Dylai rhieni / gofalwyr ystyried dewisiadau ar gyfer teithio llesol i’r ysgol. Mae gwybodaeth i’w gael am Deithio Llesol yng Ngwynedd ar wefan y Cyngor ynghyd â gwefan Walk Wheel Cycle Trust o safbwynt llwybrau beicio ar hyd a lled y sir.

5. DARPARU CLUDIANT

5.1 Darpariaeth Cyngor Gwynedd

5.1.1 Bydd yr Awdurdod yn ymdrechu i ddarparu’r dull cludiant mwyaf addas a phriodol i bob dysgwr cymwys sy’n ddiogel ac sy’n darparu’r dull cludiant mwyaf cost effeithiol. Efallai y bydd hyn ar fws, coets, bws mini, neu gytundebau tacsi, neu ar gludiant cyhoeddus sy’n bodoli eisoes. Trefnir a rheolir y gwasanaethau hyn a’r cytundebau cysylltiedig gan yr Uned Gludiant Integredig.

5.2 Taliadau Cludiant

5.2.1 Er mwyn cwrdd â’r gofynion statudol, mewn amgylchiadau eithriadol gall y Cyngor gynnig cyllideb bersonol i rieni gludo eu plant i’r ysgol/coleg os bydd hynny’n rhatach na darparu cludiant a drefnir gan yr Awdurdod, neu ble nad oes trefniadau cludiant eisoes mewn lle.

5.2.2 Gwneir taliadau misol i gyfrif banc rhiant ar ôl derbyn ffurflen hawlio tâl C1 gan yr Uned Gludiant Integredig. Caiff y ffurflen gais ei gwirio gyda gwybodaeth am bresenoldeb y dysgwr o fewn yr ysgol/coleg a fynychir. Cyfrifir y tâl yn seiliedig ar bellter teithio’r rhiant o’r cartref i’r ysgol gan ddefnyddio meddalwedd mapiau digidol (GIS) y Cyngor. Cyfrifir y gost yn ôl pellter y siwrne o’r cartref i’r ysgol ac yn ôl ddwywaith. Nid oes rhwymedigaeth ar rieni / gwarchodwyr i dderbyn y cynnig ad-daliad, fodd bynnag, hwyrach yr ystyrir mai dyma’r dull cludiant mwyaf rhesymol.

5.3 Trefniadau Tywydd Garw

5.3.1 Mewn amgylchiadau o dywydd garw, cyfrifoldeb y Pennaeth yw penderfynu a ddylid cau'r ysgol ai peidio. Caiff yr Adran Addysg eu hysbysu o unrhyw benderfyniad i gau ysgol. Bydd y penderfyniad yn ddibynnol ar asesiad o’r ffactorau perthnasol gan gynnwys y rhagolygon tywydd, y sefyllfa yn ardal yr ysgol, sefyllfa aelodau staff mewn perthynas â theithio, a.y.y.b.

5.3.2 Os nad ydi’r darparwr yn gallu darparu bws neu dacsi yn y bore, oherwydd tywydd garw, yna ni fydd y cludiant hynny ar gael yn y prynhawn. Dylid hysbysu unrhyw rieni sydd wedi penderfynu cludo eu plant i’r ysgol dan amgylchiadau o’r fath bod angen iddynt drefnu i gludo’r plant adref yn y prynhawn gan na fydd y cludiant ysgol arferol ar gael.

5.3.3 Os bydd darparwyr cludiant yn hysbysu’r ysgol eu bod yn awyddus i gludo rhai dysgwyr adref yn fuan, bydd rhaid i'r ysgolion gytuno i’r cais gan mai cyfrifoldeb y darparwr ydi cludo’r dysgwyr adref yn ddiogel. Wrth wneud cais o’r fath fe fydd y darparwr yn ymateb i rybuddion tywydd neu dystiolaeth uniongyrchol fod y sefyllfa mewn perthynas â’r tywydd yn gwaethygu. Ni ddylai cais o’r fath o reidrwydd arwain at benderfyniad i anfon pob dysgwr adref yn fuan.

5.3.4 Os penderfynir cau ysgol, bydd y Pennaeth yn cysylltu â darparwyr cludiant i’w hysbysu. Dylid hefyd gadarnhau â’r darparwyr y trefniadau ar gyfer y dyddiau dilynol cyn gynted ag y gwneir unrhyw benderfyniad perthnasol. Os methir â chysylltu â’r darparwyr dylid hysbysu’r Uned Cludiant Integredig ar 01766 771 000. Pan gymerir penderfyniad i gau ysgol, dylai’r Pennaeth hysbysu’r Adran Addysg drwy ddefnyddio’r system “Ysgol ar Gau” ar y wefan yr Awdurdod: Ysgolion ar gau

5.4 Monitro Gwasanaethau

5.4.1 Mae’r Awdurdod yn cadw’r hawl i archwilio gwasanaethau Cludiant Addysg ar hap er mwyn sicrhau bod pawb sy’n teithio’n gymwys.

5.5 Archwiliadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)

5.5.1 Mae’r Uned Gludiant Integredig (Cyngor Gwynedd) yn rheoli ac yn trefnu’r holl gytundebau cludiant addysg angenrhreidiol gyda’r darparwyr gwasnaeth priodol. Mae hyn yn cynnwys derbyn tystiolaeth a chadw cofnod o archwiliadau’r Gwasnaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer pob gyrrwr a hebryngwr teithio gan y darparwyr.

SYLWER: Cyflogir hebryngwr teithio ar wasanaethau cludiant ysgolion cynradd yn unig lle ystyrir bod hynny’n briodol, neu os bydd Anghenion Dysgu Ychwanegol y plentyn yn gwneud hynny’n briodol.

5.6 Y Cod Ymddygiad

5.6.1 Mae Cyngor Gwynedd yn cefnogi’r “Cod Ymddygiad Wrth Deithio” a baratowyd gan Lywodraeth Cymru. Mae’r Cod yn gosod disgwyliadau ar y dysgwr unigol, cyd-deithwyr a’r darparwyr cludiant. Gellir gweld y Cod ar Wefan y Cyngor Cod Ymddygiad, ac yn yr atodiad i'r Polisi yma.

5.6.2 Wrth i ddysgwyr gyflwyno cais am gludiant addysg bydd yn rhaid iddynt, neu riant / gwarchodwr, ddatgan ar y ffurflen gais eu bod wedi deall ac yn ymrwymo i gadw at y Cod Ymddygiad a’u bod yn ymwybodol o’r canlyniadau posib wrth dorri’r Cod.

5.6.3 Gall gweithrediad annerbyniol sy’n groes i’r Cod gan ddysgwr arwain at:

  • adennill costau difrod pwrpasol gan ddysgwyr a / neu eu rhieni / gwarchodwr,
  • dileu’r trefniadau teithio a gytunwyd i ddysgwr am gyfnod penodol neu amhenodol. Cyfrifoldeb y dysgwyr fydd gwneud eu trefniadau cludiant i fynychu’r ysgol/coleg eu hunain o dan yr amgylchiadau hyn,
  • camau disgyblu gan yr ysgol neu goleg perthnasol,
  • cyflwyno adroddiad am y digwyddiad i’r Heddlu.

6. GWELLA GWASANAETH

6.1 Mae Cyngor Gwynedd yn awyddus i dderbyn adborth a sylwadau gan ddefnyddwyr gwasanaeth allai arwain at wella gwasanaethau. Dylid cyflwyno unrhyw adborth neu sylwadau ynglŷn â’r Polisi hwn drwy’r drefn Cwynion ac Adborth Cwyn ffurfiol / Canmoliaeth

7. GWYBODAETH YCHWANEGOL

7.1 Mae’r canlynol ar gael ar wefan y Cyngor

A. Amserlenni a mapiau o’r Rhwydwaith i’r sefydliadau perthnasol

B. Cod Ymddygiad

C. Ffurflenni cais.

Ch. Cwynion a Sylwadau