Gallwch wneud cais am gludiant os yw’r holl bwyntiau canlynol yn berthnasol i’ch plentyn:
- mae eich plentyn yn byw yng Ngwynedd
- mae eich plentyn yn mynychu’r ysgol neu safle ysgol agosaf, neu’r ysgol neu safle ysgol yn eich dalgylch
- mae’r daith i’r ysgol neu safle ysgol yn fwy na 2 filltir - mae'r siwrnai o’r cartref i’r ysgol neu safle ysgol yn cael ei fesur fel y daith fyrraf ar hyd llwybr saff
- ddim yn ddisgybl dosbarth meithrin
Mae disgwyl i ddysgwyr sy'n derbyn addysg cynradd (ac eithrio’r disgyblion gydag anghenion addysgol arbennig neu anableddau) gerdded hyd at 2 filltir i gyfarfod ag unrhyw gludiant sy'n cael ei ddarparu gan Gyngor Gwynedd.
- I weld polisi cludiant Ysgolion Gwynedd ewch i’r Llawlyfr Gwybodaeth i Rieni (yn agor mewn tab newydd)
Gwneud cais am gludiant
Ffurflen gais ar-lein: cais am gludiant ysgol (yn agor mewn tab newydd)Am unrhyw wybodaeth ychwanegol am gludiant ysgol, cysylltwch â ni ar 01766 771 000.
Polisi Cludiant Ysgolion – sefyllfa methu agor ysgol
Polisi Cludiant sefyllfa methu agor ysgol (neu ran o ysgol) Cyflwynir trefniadau cludiant dros dro mewn sefyllfa ble nad yw’n bosib agor ysgol ddalgylch (neu ran o ysgol ddalgylch) am gyfnod o amser. Gall sefyllfaoedd fel hyn godi, er enghraifft, o fethu â staffio ysgol, neu lle bo difrod wedi bod mewn ysgol (e.e. tân).
Gall y trefniadau fod ar gyfer ystod oedran cyfan ysgol, neu ystod o oedrannau penodol o fewn ysgol (yn dibynnu ar yr amgylchiadau).
Pan na fydd hi’n bosib agor ysgol (neu ran o ysgol) ddalgylch fe ystyrir bod dalgylch yr ysgol nad yw’n bosib ei hagor yn dod yn rhan o ddalgylch gwahanol (e.e. dalgylch ysgol gyfagos (neu ddalgylch mwy estynedig na hynny os oes angen) er mwyn sicrhau adeilad addas sydd ar gael i gartrefu’r ysgol).
Cymhwysir Polisi Cludiant Ysgolion arferol y Cyngor i’r dalgylch gwahanol, newydd, dros dro hwn.
Felly - darperir cludiant i ddisgyblion sy’n byw yn y Sir ac sydd wedi cofrestru mewn ysgol sy’n cael ei rhedeg gan y Cyngor
- Ysgolion cynradd - ar gyfer disgyblion sy’n byw 2 filltir neu ymhellach o’r ysgol agosaf (neu adeilad addas) yn y dalgylch gwahanol, newydd dros dro ble mae llefydd ar gael, neu i ysgol sydd ddim yn y dalgylch gwahanol, newydd dros dro ond sydd yn agosach at gartref y disgybl (dim yn cynnwys disgyblion dosbarth meithrin).
- Ysgolion uwchradd - ar gyfer disgyblion o dan 16 oed sy’n byw 3 milltir neu ymhellach o’r ysgol agosaf (neu adeilad addas) yn y dalgylch gwahanol, newydd dros dro ble mae llefydd ar gael, neu i ysgol sydd ddim yn y dalgylch gwahanol, newydd dros dro ond sydd yn agosach at gartref y disgybl.
I gael cludiant rhaid i ddisgyblion gydymffurfio â'r cod ymddygiad ar gyfer cludiant ysgol. Am fwy o wybodaeth edrychwch ar y Cod ymddygiad wrth deithio. (yn agor mewn tab newydd)