Ymateb i droseddau Neil Foden

Ers i Neil Foden gael ei ganfod yn euog a’i ddedfrydu i garchar am droseddau erchyll yn erbyn plant, mae Cyngor Gwynedd wedi cyhoeddi Cynllun Ymateb i ymchwilio i’r holl wersi i’w dysgu yn sgil y digwyddiadau ofnadwy hyn.

Mae saith prif amcan i’r Cynllun:

  • Cydnabod yn agored a chyhoeddus na ddylai y fath droseddau fyth fod wedi digwydd ac na ddylai’r un plentyn oddef y fath brofiadau.
  • Ymddiheuro yn ddidwyll i’r dioddefwyr a’u teuluoedd am yr hyn y maent wedi gorfod ei ddioddef.
  • Cefnogi’r dioddefwyr, yr ysgol a’r gymuned ehangach i geisio adfer eu sefyllfa.
  • Sefydlu holl ffeithiau yr achos, yr hanes o amgylch y sefyllfa a’r cyd-destun ehangach.
  • Dysgu’r holl wersi a gaiff eu hadnabod fel rhan o gasgliadau ac argymhellion pob ymchwiliad.
  • Gwella drwy ymateb yn gyflawn a chyflym i bob casgliad ac argymhelliad gyda’r nod o roi hyder i’r cyhoedd fod y Cyngor yn gwneud popeth posib i sicrhau na fydd neb yn dioddef yn yr un modd fyth eto.
  • Atebolrwydd drwy fod yn agored ac yn dryloyw am ein cynnydd gwelliant ac ymrwymo i fesur effaith y newidiadau rydym yn eu rhoi ar waith.  

Mae Bwrdd Rhaglen wedi ei sefydlu er mwyn llywio’r cynllun gwaith drwy gynghori, craffu a herio swyddogion Cyngor Gwynedd bob cam o’r ffordd. Cadeirydd y Bwrdd yw yr Athro Sally Holland, sy’n awdurdod yn y maes gofal cymdeithasol ac yn dysgu ym Mhrifysgol Caerdydd. Bu’n Gomisiynydd Plant Cymru rhwng 2015 a 2022.

Mae’r Bwrdd yn cynnwys cynrychiolwyr o awdurdodau a sefydliadau sy’n arwain yn y maes diogelu plant yng Nghymru gan gynnwys: Comisiynydd Plant Cymru, Llywodraeth Cymru, Estyn, Arolygaeth Gofal Cymru.

Mae’r Bwrdd Rhaglen yn gyfrifol am weithredu’r holl ffrydiau gwaith sy’n deillio o bob adolygiad ac ymchwiliad i drefniadau Cyngor Gwynedd yn sgil yr achos hwn. 

 

Ymchwiliadau i drefniadau Cyngor Gwynedd  

Ers i Gabinet Cyngor Gwynedd fabwysiadu’r Cynllun Ymateb, mae nifer o ymchwiliadau ac adroddiadau annibynnol wedi’u cynnal:

Comisiynwyd bargyfreithiwr annibynnol sy’n arbenigo mewn ymchwiliadau diogelu i gynnal ymchwiliad i’r digwyddiadau penodol hyn a amlygwyd yn ystod achos troseddol Neil Foden. Cwblhawyd y gwaith trylwyr hwn erbyn mis Mai 2025 a rhannwyd yr argymhellion gydag aelodau etholedig Cyngor Gwynedd a phartneriaid allweddol eraill.

Gan fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth sensitif a chyfrinachol – gan gynnwys gwybodaeth am blant, manylion am faterion cyflogaeth a data personol am unigolion – nid oes modd i Gyngor Gwynedd gyhoeddi’r adroddiad yn llawn. 

Mae’r ymchwiliad hwn wedi’i gwblhau a gweithdrefnau Rhyddid Gwybodaeth Cyngor Gwynedd wedi’u diweddaru.

Comisiynwyd ymchwilydd Adnoddau Dynol annibynnol i asesu a oedd ymateb Ysgol Friars, Llywodraethwyr yr ysgol a’r Cyngor i ganfyddiadau Adroddiad Panel Cwynion a gynhaliwyd yn 2019 yn ddigonol ac yn briodol. 

Mae’r ymchwiliad hwn wedi’i gwblhau ac mae’r canfyddiadau wedi’u rhannu â chynghorwyr a phartneriaid allweddol eraill. Nid oedd yr adroddiad yn 2019 yn ymwneud â chwynion am faterion diogelu plant ond daeth yr ymchwiliad mwy diweddar i’r casgliad y gellid fod wedi sicrhau gwell ymateb gan y Corff Llywodraethu a gan y Cyngor, i argymhellion y Panel. 

Mae’r Corff Llywodraethu a’r Cyngor wedi croesawu argymhellion yr adroddiad, ac yn ymrwymo i sicrhau y bydd pob argymhelliad yn derbyn ymateb trwyadl er mwyn sicrhau fod ymateb gwell mewn unrhyw sefyllfa o'r fath yn y dyfodol. 

Mae Pwyllgor Craffu’r Cyngor wedi sefydlu ymchwiliad. Mae cynnydd da yn cael ei wneud gyda gwaith yr Ymchwiliad gyda’r nod o’i gwblhau cyn diwedd 2025.

 

 

Adolygiad Ymarfer Plant

Mae Adolygiad Ymarfer Plant (AYP neu Child Practice Review - CPR) yn broses statudol sy’n digwydd pan fo plentyn/plant yng Nghymru wedi dioddef niwed difrifol neu wedi marw, ac mae pryderon ynghylch sut y gwnaeth gweithwyr proffesiynol neu wasanaethau gydweithio i’w diogelu.

Bwriad yr Adolygiad yw dysgu gwersi a gwella’r ffordd y mae sefydliadau’n cydweithio i gadw plant yn ddiogel. 

Wedi i achos troseddol Neil Foden ddod i ben, comisiynwyd Adolygiad Ymarfer Plant gan Fwrdd Diogelu Gogledd Cymru. Gweld mwy o wybodaeth am Fwrdd Diogelu Gogledd Cymru

Dechreuodd y broses Adolygiad Ymarfer Plant ym mis Awst 2024 ac mae’n cael ei gadeirio gan Jan Pickles OBE. 

Mae Jan Pickles yn annibynnol ar Gyngor Gwynedd ac mae hi’n weithiwr cymdeithasol profiadol sydd wedi gweithio gyda’r Gwasanaeth Prawf, yr Heddlu, y Llywodraeth a’r NSPCC. Mae hi wedi bod yn aelod o Fwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol Cymru.  Mae hi wedi gweithio fel rhan o’r tîm sy’n adolygu achosion hanesyddol o gamdriniaeth o fewn pêl-droed a’r Eglwys.

Ynghyd â Jan Pickles, penodwyd dau adolygwr annibynnol o’r tu allan i’r ardal sy’n brofiadol yn y maes diogelu mewn ysgolion.

Mae’r broses AYP yn gwbwl annibynnol ar Gyngor Gwynedd. Mae Cyngor Gwynedd wedi rhannu’r holl wybodaeth gysylltiedig oedd ganddo gydag ymchwilwyr yr Adolygiad. Ymhellach, mae’r holl ganfyddiadau sydd wedi codi o ymchwiliadau mewnol y Cyngor drwy weithgaredd y Cynllun Ymateb wedi’u rhannu â’r Adolygiad Ymarfer Plant yn syth.

Mae disgwyl i’r Adolygiad gael ei gwblhau a’r Adroddiad terfynol gael ei gyhoeddi yn ystod Medi 2025. 

Mae diweddariadau am yr Adolygiad penodol hwn i’w gweld ar wefan y Bwrdd Diogelu:
Adolygiad Ymarfer Plant Gwynedd – Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru.

 

Dolenni a mwy o wybodaeth

Mabwysiadwyd y Cynllun Ymateb i Droseddau gan Gabinet Cyngor Gwynedd ym mis Ionawr 2025.

Cyflwynwyd adroddiad cynnydd chwarterol cyntaf yr Athro Sally Holland, Cadeirydd y Bwrdd i Gabinet Cyngor Gwynedd ar 8 Gorffennaf, 2025. 


Newyddion 

Mae cynnydd yn cael ei wneud ar draws y ffrydiau gwaith sy’n deillio o’r Cynllun Ymateb i Droseddau Neil Foden, gyda gwaith pellach i’w wneud er mwyn atal unrhyw blentyn yng Ngwynedd rhag dioddef yn yr un modd eto.

Darllen erthygl llawn: Adroddiad cynnydd yn amlygu diwygiadau diogelu yng Ngwynedd

Mae Cyngor Gwynedd wedi diweddaru aelodau etholedig a phartneriaid allweddol am y camau diweddaraf sydd wedi’u cymryd fel rhan o’r cynllun i ymchwilio ac ymateb i droseddau erchyll Neil Foden.

Darllen erthygl llawn: Cynllun Ymateb i Droseddau – diweddariad gan Gyngor Gwynedd

Mae cyn-Gomisiynydd Plant Cymru wedi’i phenodi i gadeirio’r Bwrdd Rhaglen fydd yn cadw llygad fanwl ar y camau gweithredu yng Nghynllun Ymateb Cyngor Gwynedd i droseddu Neil Foden.

Darllen erthygl llawn: Penodi Cadeirydd Bwrdd Rhaglen Ymateb i Droseddau

Mae Cabinet Cyngor Gwynedd wedi rhoi cefnogaeth unfrydol i gynllun sy’n gosod yr ystod o weithdrefnau a threfniadau sydd ar y gweill i ymchwilio i’r holl wersi i’w dysgu yn sgil troseddau Neil Foden.

Darllen erthygl llawn: Derbyn cynllun mewn ymateb i droseddau Neil Foden

Mewn cyfarfod ar 21 Ionawr, bydd Cabinet Cyngor Gwynedd yn trafod cynllun sy’n gosod yr ystod o weithdrefnau a threfniadau sydd ar y gweill i ymchwilio i’r holl wersi i’w dysgu yn sgil troseddau Neil Foden. 

Darllen erthygl llawn: Cyngor Gwynedd yn cyhoeddi cynllun mewn ymateb i droseddau Neil Foden

 

Pryder am fater diogelu yng Ngwynedd

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth newydd yn ymwneud â chamdriniaeth plant posib gysylltu’n uniongyrchol â'r Heddlu neu ag Adran Gwasanaethau Cymdeithasol eu cyngor lleol.

Os yw’r person ifanc mewn perygl uniongyrchol, ffoniwch yr Heddlu ar unwaith ar 999

Os nad yw’r plentyn mewn perygl dybryd, ffoniwch Gwasanaethau Cymdeithasol Gwynedd cyn gynted â phosibl i rannu eich pryderon: 01758 704455 (neu 01248 353551 tu allan i oriau swyddfa). Mae gwybodaeth ar gael ar ein gwefan: Cam-drin plant


Cysylltiadau defnyddiol eraill:

Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru

NSPCC (Cymdeithas Genedlaethol Atal Creulondeb i Blant) 
Yn cynnig cyngor a chymorth i unrhyw un sy’n poeni am les plentyn.

  • Llinell gymorth: 0808 800 5000 (rhad ac am ddim, cyfrinachol, Llun-Gwener 8am–10pm, Sad a Sul 9am–6pm)
  • Gwefan: nspcc.org.uk
  • E-bost help@nspcc.org.uk
  • Sgwrs fideo iaith arwyddo (BSL):  Sign Video (Llun-Gwener 8am–8pm, Sad a Sul 9am–6pm).

 

Childline
Gwasanaeth cyfrinachol i blant siarad am unrhyw beth sy’n eu poeni.

  • Llinell Gymorth: 0800 1111 (rhad ac am ddim, cyfrinachol, 24/7)
  • Gwefan: Childline.org.uk
  • Live Chat: Mae’r wefan yn cynnwys sgwrs fyw lle gall plant a phobl ifanc siarad yn gyfrinachol)

Canolfan Cymorth ar gyfer Trais Rhywiol ac Achosion Cam-drin Rhywiol (RASASC) Gogledd Cymru 

Yn darparu cymorth arbenigol, cwnsela, a therapi i unrhyw un 3 oed a hŷn sydd wedi profi cam-drin rhywiol neu drais rhywiol—boed hynny’n ddiweddar neu’n hanesyddol. Hefyd yn cefnogi partneriaid a theuluoedd y rhai sydd wedi’u heffeithio.

Yn gyfrinachol, heb farnu, ac yn rhad ac am ddim.

Close