Cynllun Ymateb i Droseddau – diweddariad gan Gyngor Gwynedd

Dyddiad: 15/05/2025

Mae Cyngor Gwynedd wedi diweddaru aelodau etholedig a phartneriaid allweddol am y camau diweddaraf sydd wedi eu cymryd fel rhan o’r cynllun i ymchwilio ac ymateb i droseddau erchyll Neil Foden.

 

Mae’r rhanddeiliad allweddol hyn wedi cael gwybod yr wythnos hon fod cynnydd cadarnhaol wedi ei wneud ar sawl ffrwd gwaith gan gynnwys ymateb i argymhellion ymchwiliad gan Fargyfreithiwr diogelu arbenigol.

 

Mae camau cadarnhaol eraill yn cynnwys:

  • Trefniadau ymchwilio i bryderon diogelu – Bydd y Cyngor yn sefydlu trefniadau ar gyfer delio gyda pryderon sydd ddim yn cyrraedd trothwyon ffurfiol diogelu plant ac yn cymryd y cyfle i greu trefn newydd allai fod o fudd mawr yn y maes pwysig hwn.
  • Cadw cofnodion – Er fod y Bargyfreithiwr wedi adnabod ymarfer da o ran cadw cofnodion cyfarfod, adnabuwyd cyfleon i wella’n trefniadau hefyd ac felly mae’r drefn o gadw cofnodion am faterion diogelu ar draws yr yr Awdurdod wedi ei gryfhau a bellach mae trefn ganolog wedi ei sefydlu ar gyfer eu cadw a’u rheoli. Yn ogystal, mae’r elfen cadw cofnodion o fewn yr hyfforddiant diogelu sy’n cael ei ddarparu i staff wedi ei gryfhau.
  • Canu’r gloch – Mae’r Cyngor wedi cryfhau cyfundrefnau ‘canu’r gloch’ (whistleblowing) ar gyfer staff ar draws y sefydliad.
  • Hyfforddiant diogelu – Tra fod staff yn yr Adrannau Plant ac Addysg y Cyngor eisoes yn derbyn lefel uwch o hyfforddiant diogelu, mae trefniadau bellach mewn lle i sicrhau fod pob aelod o staff ym mhob adran yn derbyn hyfforddiant perthnasol.
  • Polisi diogelu ysgolion – Mae camau wedi eu cymryd i gryfhau y drefn sy’n cynorthwyo staff gyda’r hyn ddylid ei wneud mewn achosion diogelu heriol mewn ysgolion, gan gynnwys pryd i rannu gwybodaeth gyda chyrff Llywodraethol.

Daw y diweddariad hyn yn sgil y Cynllun Ymateb i Droseddau, a fabwysiadwyd gan Gabinet Cyngor Gwynedd ym mis Ionawr eleni. Bwriad y cynllun manwl hwn yw gosod allan yr ystod o weithdrefnau a threfniadau y bydd Cyngor Gwynedd yn eu gweithredu’n fewnol er mwyn:

  • sefydlu holl ffeithiau’r achos a dysgu gwersi,
  • gwella pob agwedd o waith y Cyngor,
  • gwneud popeth posib i sicrhau na fydd neb yn dioddef yn yr un modd fyth eto.

 

Un o’r tasgau o fewn y cynllun oedd i gomisiynu bargyfreithiwr annibynnol sy’n arbenigo mewn ymchwiliadau diogelu i gynnal ymchwiliad i’r digwyddiadau penodol yn 2019 â amlygwyd yn ystod achos troseddol Neil Foden, gyda’r gwaith trylwyr hwn bellach wedi ei gwblhau.

 

Mae’r adroddiad llawn wedi ei anfon yn syth at ymchwilwyr annibynnol yr Adolygiad Ymarfer Plant statudol a gynhelir gan Fwrdd Diogelu Gogledd Cymru. Bydd cynnwys yr adroddiad yn bwydo i fewn i gasgliadau ac argymhellion yr Adolygiad.

 

Ochr yn ochr a hyn, mae Cyngor Gwynedd wedi cael barn gyfreithiol gan arbenigwyr annibynnol am y camau nesaf. Canlyniad hyn yw fod aelodau etholedig y Cyngor wedi derbyn holl argymhellion yr ymchwiliad a diweddariad ar sut bydd y Cyngor yn gweithredu arnynt. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Nia Jeffreys, Arweinydd Cyngor Gwynedd:

“Mae achos troseddau erchyll Neil Foden yn parhau i gael effaith pellgyrhaeddol ar bobl a chymunedau Gwynedd. Mae’r dioddefwyr a’u teuluoedd yn parhau i fod yn ein meddyliau wrth i ni ymchwilio i’r hyn aeth o’i le a beth yn fwy allwn ei wneud i sicrhau fod plant yn ddiogel yn ein hysgolion.

“Tra na allwn ddad-wneud effeithiau troseddau erchyll Neil Foden, fel Cyngor rydym yn benderfynol o ddefnyddio’r achos difrifol yma i adnabod a dysgu gwersi a’u defnyddio i gryfhau ein trefniadau. Ein nod yw sicrhau fod gennym drefniadau diogelu o’r radd flaenaf fydd yn amddiffyn pobl ifanc Gwynedd ac hefyd o ddefnydd i gynghorau ar draws Cymru.

“Cychwyn y daith oedd creu’r Cynllun Ymateb ym mis Rhagfyr. Ers hynny rydym wedi gwneud cynnydd gyda’r holl ffrydiau gwaith ond rydym yn llwyr ymwybodol fod rhagor o waith caled o’n blaenau yn enwedig pan byddwn yn derbyn argymhellion y Adolygiad Ymarfer Plant statudol yn yr hydref.”

 

Ychwanegodd Dafydd Gibbard, Prif Weithredwr Cyngor Gwynedd:

“Fel Cyngor, rydym wedi datgan yn glir y byddwn yn troi pob carreg i gael atebion, i ddysgu ac i wella. Mae’r Cynllun Ymateb yn ein helpu gyda hyn drwy osod allan mewn un ddogfen y mesurau sydd ar waith.

“Mae swyddogion y Cyngor wedi cychwyn arni yn syth i weithredu ar argymhellion adroddiad y bargyfreithiwr arbenigol annibynnol a edrychodd ar ddigwyddiadau penodol yn 2019.

“Yn ogystal, mae ymchwiliad Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth wedi ei gwblhau ac rydym wedi diweddaru ein gweithdrefnau Rhyddid Gwybodaeth; mae Pwyllgor Craffu’r Cyngor wedi bwrw iddi gyda’r ymchwiliad i drefniadau diogelu yn ein hysgolion; ac mae ymchwiliad annibynnol i adroddiad gomisiynwyd gan Banel Cwynion Annibynnol wedi ei gwblhau a bydd yn cael ei rannu gyda chynghorwyr yn fuan.

“Mae mwy i’w wneud ac ni fyddwn yn gorffwys ein rhwyfau tan y byddwn yn fodlon fod popeth posib wedi ei gyflawni.”

Anogir unrhyw aelodau o'r cyhoedd sydd â gwybodaeth newydd yn ymwneud â chamdriniaeth plant posib i gysylltu’n uniongyrchol â'r Heddlu neu ag Adran Gwasanaethau Cymdeithasol eu cyngor lleol.

 

Nodiadau

  • Mae holl ganfyddiadau’r ymchwiliad bargyfreithiwr wedi eu rhannu â’r Adolygiad Ymarfer Plant.
  • Mae Adolygiad Ymarfer Plant statudol yn cael ei gynnal gan Fwrdd Diogelu Gogledd Cymru, sy’n annibynnol o Gyngor Gwynedd. Mae mwy o wybodaeth am y Bwrdd yma: Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru – Safeguarding children and adults across North Wales
  • Mabwysiadwyd y Cynllun Ymateb i Droseddau gan Gabinet Cyngor Gwynedd yn Ionawr 2025. Mae adroddiad y cyfarfod Cabinet i’w weld yma: 21.01.25_Cynllun Ymateb_Adroddiad Cabinet C.pdf  a’r cynllun llawn ar gael yma: Atodiad 1 - Cynllun Ymateb.pdf
  • Chwe prif amcan y Cynllun yw:
    • Cydnabod yn agored a chyhoeddus na ddylai y fath droseddau fyth fod wedi digwydd ac na ddylai yr un plentyn oddef y fath brofiadau.
    • Ymddiheuro yn ddidwyll i’r dioddefwyr a’u teuluoedd am yr hyn y maent wedi gorfod ei ddioddef.
    • Cefnogi’r dioddefwyr, yr ysgol a’r gymuned ehangach i geisio adfer eu sefyllfa.
    • Sefydlu holl ffeithiau yr achos, yr hanes o amgylch y sefyllfa a’r cyd-destun ehangach.
    • Dysgu yr holl wersi a gaiff eu hadnabod fel rhan o gasgliadau ac argymhellion pob ymchwiliad.
    • Gwella drwy ymateb yn gyflawn a chyflym i bob casgliad ac argymhelliad gyda’r nod o roi hyder i’r cyhoedd fod y Cyngor yn gwneud popeth posib i sicrhau na fydd neb yn dioddef yn yr un modd fyth eto.
  • Mae’r Cynllun hefyd yn ffurfioli galwad Cyngor Gwynedd ar Lywodraeth Cymru i gynnal Ymchwiliad Cyhoeddus i droseddau Neil Foden.