Ymateb Cyngor Gwynedd i adroddiad ‘Cyfiawnder Trwy Ein Dewrder’
Mae Cyngor Gwynedd wedi croesawu cyhoeddi ‘Cyfiawnder Trwy Ein Dewrder’, sef adroddiad Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru mewn ymateb i droseddau Neil Foden.
Mae’r Cyngor yn derbyn holl ganfyddiadau’r Adroddiad Adolygiad Ymarfer Plant; yn cymryd cyfrifoldeb am y methiannau sy’n cael eu hamlygu; yn ymddiheuro’n gwbl ddidwyll i’r holl ddioddefwyr ac yn ymrwymo i barhau i weithio er mwyn gwella trefniadau diogelu yn ysgolion y sir.
Yn Ionawr 2025, mewn ymateb i’r troseddau hyn, mabwysiadodd Cyngor Gwynedd gynllun gweithredu i gryfhau gweithdrefnau mewn ysgolion ac yng ngwasanaethau’r Cyngor a sefydlwyd Bwrdd i oruchwylio’r gwaith allweddol yma.
Dywedodd y Cynghorydd Nia Jeffreys, Arweinydd Cyngor Gwynedd:
“Mae hwn wedi bod yn achos ysgytwol sydd wedi achosi gymaint o niwed i fywydau plant. Rydym wedi ein ffieiddio gan y manylion sydd wedi eu hamlygu gan yr adolygwyr annibynnol ac rydym yn cymryd cyfrifoldeb am y camgymeriadau a’r cyfleodd a fethwyd gennym i atal Neil Foden.
“Ar ran y Cyngor, rydw i’n ymddiheuro i bawb sydd wedi dioddef ac yn talu teyrnged i'w dewrder a’u cryfder.
“Mae’r dasg o adfer y sefyllfa yn lleol wedi dechrau. I yrru’r gwaith allweddol yma yn ei flaen, rydym wedi sefydlu Bwrdd Rhaglen dan gadeiryddiaeth yr Athro Sally Holland, sy’n awdurdod yn y maes gofal cymdeithasol ac yn gyn-Gomisiynydd Plant Cymru.
“Mae arbenigwyr diogelu plant o sefydliadau cenedlaethol hefyd yn bresennol yn holl gyfarfodydd y Bwrdd fel sylwebyddion sy’n rhoi mewnbwn gwerthfawr.
“Byddwn yn mynd drwy’r adroddiad efo crib mân i adnabod y camau pellach sydd angen eu cymryd fel nad ydi camgymeriadau yn cael eu hail-adrodd. Ni fyddwn yn cuddio o’n cyfrifoldeb i wneud popeth sydd ei angen i ddiogelu plant – nawr ac i’r dyfodol.”
Dywedodd y Cynghorydd Menna Trenholme, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Plant a Chefnogi Teuluoedd Cyngor Gwynedd:
“Rydw i'n croesawu’r adroddiad ac rydw i'n datgan fy edmygedd i'r dioddefwyr a’r goroeswyr, ac yn ychwanegu fy niolch am eu gwydnwch.
“Yn sgil cyhoeddi adroddiad ‘Cyfiawnder Trwy Ein Dewrder’ rydym yn ymrwymo i wella a chryfhau ein trefniadau diogelu er budd holl blant Gwynedd.”
Dywedodd y Cynghorydd Dewi Jones, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Addysg:
“Fyddwn ni byth yn anghofio’r niwed a’r effaith pellgyrhaeddol mae hyn wedi ei gael ar fywydau plant a ddylai fod wedi bod yn ddiogel yn yr ysgol.
“Ni allwn newid y gorffennol, ond byddwn yn parhau i gydweithio gyda arweinyddiaeth newydd a llywodraethwyr Ysgol Friars i gefnogi cymuned yr ysgol i ymdopi gyda'r hyn sydd wedi digwydd.
“Rydym wedi ymrwymo i ddysgu o’r sefyllfa drychinebus hon ac i sicrhau fod ysgolion Gwynedd yn ddiogel a chefnogol i ddysgwyr a staff. Rydym yn barod wedi gwneud cynnydd yn y maes ac mae ein trefniadau lleol yn llawer mwy cadarn nag yr oeddent cyn i’r troseddwr gael ei arestio.
“Mae llawer i’w wneud eto a byddwn yn gweithredu ar bob arweiniad pellach sy’n deillio o adroddiad Cyfiawnder Trwy Ein Dewrder.
“Yr her i'r Adran Addysg ydi sicrhau fod gwersi yn cael eu dysgu fel na all unigolion twyllodrus byth eto fanteisio ar fannau gwan mewn systemau a phrotocolau lleol a chenedlaethol.”
Dywedodd Dafydd Gibbard, Prif Weithredwr Cyngor Gwynedd:
“Mae’r cyfrifoldeb am nifer o’r methiannau sy’n cael eu hamlygu yn yr adroddiad hwn yn gorwedd gyda Chyngor Gwynedd ac rydym yn ymddiheuro’n gwbl ddidwyll i’r holl ddioddefwyr am hynny. Rydym yn talu teyrnged iddynt am eu dewrder a’u cryfder.
“Er mor boenus ydi’r adroddiad i’w ddarllen, rydym yn ei groesawu ac yn derbyn yr holl gasgliadau ac argymhellion.
“Mewn sefyllfaoedd lle mae sefydliad dan y chwyddwydr, mae tuedd weithiau i fod yn amddiffynnol. Rwyf yn addo heddiw na fydd Cyngor Gwynedd yn gwneud hynny. Ni fyddwn yn cuddio o’n cyfrifoldeb i wneud popeth sydd ei angen i ddiogelu plant nawr ac i’r dyfodol.”
Diwedd
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â:
cyfathrebu@gwynedd.llyw.cymru