Ymateb i droseddau Neil Foden: Fersiwn hawdd i'w ddarllen ar gyfer plant

Roedd Neil Foden yn arfer bod yn bennaeth mewn ysgol yng Ngwynedd. Mae’r llys wedi ei gael o yn euog o droseddau difrifol yn erbyn plant, ac mae wedi cael ei yrru i'r carchar. Tydi  troseddau fel hyn ddim yn iawn, ac mae’r ffaith eu bod wedi digwydd yn gwneud i bobl deimlo’n annifyr. 

Beth mae Cyngor Gwynedd yn ei wneud? 

Ers i'r achos llys ddod i ben, mae Cyngor Gwynedd wedi gwneud cynllun i wneud yn siŵr bod pobl ifanc yn cael eu cadw’n ddiogel, a gwneud yn siŵr na fydd unrhyw beth tebyg i hyn yn digwydd eto.  

Mae Cyngor Gwynedd wedi addo:  

  • Ymddiheuro i'r plant a’r teuluoedd sydd wedi dioddef.  
  • Cefnogi'r rhai sydd wedi dioddef, eu hysgolion, a'r gymuned ehangach.  
  • Ffeindio allan beth yn union ddigwyddodd, a edrych ar sut cafodd pethau eu trin yn y gorffennol.  
  • Dysgu o gamgymeriadau a gwrando ar gyngor arbenigol.  
  • Gwella sut mae pethau'n cael eu gwneud. 
  • Bod yn onest am beth  sy'n cael ei wneud.  


Pwy sy'n helpu? 
 

Mae grŵp o arbenigwyr yn helpu Cyngor Gwynedd gyda'r gwaith hwn. Mae'r grŵp yma yn cynnwys pobl sy'n gwybod llawer am amddiffyn plant, fel cyn-Gomisiynydd Plant Cymru a staff o sefydliadau fel Estyn a Llywodraeth Cymru.  

 

Ymchwiliadau ac Adolygiadau

Mae sawl ymchwiliad wedi cael ei gynnal.

Mae hyn yn meddwl bod pobl yn casglu gwybodaeth ac yna mae pobl sy’n gweithio i Gyngor Gwynedd yn defnyddio’r wybodaeth i wella eu gwaith yn y dyfodol. Bydd hyn yn helpu i wneud yn siwr nad ydi’r un camgymeriadau yn digwydd eto, a bod pawb yn ddiogel yn yr ysgol.   

Mae rhai o'r ymchwiliadau sydd wedi'u cynnal yn cynnwys:  

  • Adolygiad o ddigwyddiadau yn 2019 gan arbenigwr cyfreithiol annibynnol.  
  • Gwaith gan y Comisiynydd Gwybodaeth i wella sut mae Cyngor Gwynedd yn trin gwybodaeth sensitif.  
  • Edrych ar sut mae’r ysgol a Chyngor Gwynedd wedi ymateb i gwynion yn y gorffennol.  
  • Adolygiad llawn o sut mae ysgolion Gwynedd yn delio efo materion diogelu.   

 

Adolygiad Ymarfer Plant  

Mae Adolygiad Ymarfer Plant wedi cael ei drefnu. Mae Adolygiad Ymarfer Plant yn fwy manwl na’r adolygiadau eraill sydd wedi digwydd oherwydd bod yr ymchwilwyr wedi gallu siarad efo mwy o bobl a chasglu llawer mwy o wybodaeth. Mae’n ymarfer da i adolygiad fel hyn ddigwydd pan fydd plentyn (neu blant) wedi cael ei niweidio'n ddifrifol. 

Pwrpas yr Adolygiad ydi deall beth aeth o'i le, a dysgu sut i stopio rhywbeth tebyg i hyn rhag digwydd eto.  

Bwrdd Diogelu Rhanbarthol Gogledd Cymru sydd yn cynnal yr adolygiad yma, dim Cyngor Gwynedd. Ddarllen mwy am Fwrdd Diogelu Rhanbarthol Gogledd Cymru

Bydd canlyniad yr adolygiad yn cael ei gyhoeddi ym mis Medi 2025. Bydd yr adroddiad ar gael i bawb ei ddarllen.  

 

Wyt ti angen siarad? 

Wyt ti’n cael dy gam-drin?  Neu oes gen ti ffrind sydd angen help oherwydd ei fod o neu hi yn cael ei gam-drin / ei cham-drin? Os wyt ti, mae help ar gael.

Cysyllta efo:  

  • RASASC (cymorth i unrhyw un sy'n cael ei effeithio gan gam-drin rhywiol).
    01248 670628
    Gwefan RASA 
Close

 

Gweld fersiwn llawn: Ymateb i droseddau Neil Foden