Thema 5: Arferion Cyfyngol

Weithiau, pan mae rhywun yn ddig neu’n ofnus iawn, mae’n gallu gwneud pethau sy’n beryglus iddyn nhw eu hunain neu i eraill. Ar y pryd, efallai bydd oedolion yn gwneud rhywbeth i helpu pawb i aros yn ddiogel. Gelwir hynny’n ‘arferion cyfyngol’.

Gall staff ysgol ddefnyddio arferion cyfyngol fel dewis olaf yn unig, er mwyn atal disgybl rhag cael ei frifo neu i stopio aflonyddwch difrifol.  

Dylai pob ysgol gael polisi clir ar hyn, yn dilyn Polisi’r sir. 


thema 5

Rydym eisiau gwneud yn siŵr:

Bod arferion cyfyngol ond yn cael eu defnyddio i gadw plentyn yn ddiogel neu i atal niwed difrifol. Ni ddylid byth ei ddefnyddio i gosbi, rheoli na bychanu plentyn. 

Bod staff ysgolion yn cael hyfforddiant a rheolau clir ynglŷn â sut a phryd i ddefnyddio grym rhesymol. 

Os defnyddir grym, rhaid i’r plentyn gael cymorth a chefnogaeth os ydyn nhw wedi cael eu brifo yn gorfforol neu’n feddyliol. 


Beth mae adroddiad Cyfiawnder drwy ein Dewrder yn ei ddweud?

(Hon ydi’r adroddiad gafodd ei chyhoeddi yn dilyn ymchwiliad Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru i droseddau y cyn-bennaeth. (Gweld yr adroddiad)

  • Roedd lefelau anghyfreithlon o rym yn cael ei ddefnyddio yn yr ysgol dan sylw yng nghyfnod y cyn-bennaeth. 

  • Fe wnaeth y cyn-bennaeth gam-arwain staff yr ysgol i feddwl ei fod yn iawn i ddefnyddio grym fel hyn. 

  • Roedd y cyn-bennaeth yn annog staff yr ysgol i ffilmio ataliaeth corfforol ar blant. 

  • Pan ddefnyddiwyd ataliaeth corfforol ar blentyn, nid oedd trefniadau mewn lle i wneud yn siŵr bod y plentyn heb frifo nac i gynnig cymorth trawma.

  • Nid oedd rhieni plant oedd wedi cael eu hatal yn gorfforol yn teimlo bod eu cwynion yn cael eu deall na’u parchu. 

Beth sydd wedi digwydd yn barod i wella pethau? 

  • Pan fydd Tîm Diogelu a Llesiant Addysg yn ymweld ag ysgolion maent bob tro yn edrych ar Bolisi Arferion Cyfyngol yr ysgol.

  • Mae hyfforddiant Arferion Cyfyngol yn cael ei roi i staff sydd ei angen. 

Beth fydd yn digwydd rhwng mis Ionawr 2026 a mis Gorffennaf 2026? 

Bydd Cyngor Gwynedd yn... 

  • Derbyn adborth gan gwmni allanol sydd wedi cynnal adolygiad o’r Polisi a trefniadau arferion cyfyngol yng Ngwynedd. 
  • Adolygu’r Polisi Arferion Cyfyngol sirol ac yn sicrhau bod pob ysgol yn mabwysiadu'r polisi hwnnw yn llawn.

  • Adolygu’r hyfforddiant ar arferion cyfyngol a ddefnyddir gan Wasanaethau Addysg a Gwasanaethau Plant, er mwyn sicrhau cysondeb yn y dulliau neu eglurder am unrhyw wahaniaethau. 

Sut fydd Cyngor Gwynedd yn mesur effaith y newidiadau

  • Bod pob un o ysgolion Gwynedd yn cydymffurfio efo'r Polisi Arferion Cyfyngol sirol.

  • Pan fo digwyddiadau arferion cyfyngol mewn ysgol, bydd y Cyngor yn cadw tystiolaeth bod trafodaethau proffesiynol yn cael eu cynnal.

Yn ôl i brif dudalen Bwrdd Rhaglen Cynllun Ymateb