Thema 3: Hyfforddiant a Pholisïau
Rydym eisiau gwneud yn siŵr:
Bod staff Cyngor Gwynedd wedi eu hyfforddi i fod yn fwy drwgdybus, hynny yw i feddwl y ‘gwaethaf posib’ a deall y ‘gallai ddigwydd yma’.
Ein bod yn datblygu a chryfhau polisïau er mwyn gwneud yn siŵr bod arweiniad clir ar gyfer gweithwyr Cyngor Gwynedd.
Beth mae adroddiad Cyfiawnder drwy ein Dewrder yn ei ddweud?
(Hon ydi’r adroddiad gafodd ei chyhoeddi yn dilyn ymchwiliad Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru i droseddau y cyn-bennaeth. (Gweld yr adroddiad)
- Nid oedd y Person Diogelu Dynodedig yr ysgol lle gwnaeth y cyn-Brifathro droseddu wedi derbyn hyfforddiant diogelu addas. (Y Person Diogelu Dynodedig ydi’r person sydd wedi’i benodi i fod yn gyfrifol am faterion diogelu mewn ysgol).
- Nid oedd Llywodraethwyr a staff yr ysgol wedi derbyn hyfforddiant diogelu addas.
- Nid oedd staff Cyngor Gwynedd na staff yr Ysgol yn gwybod pryd a sut i gyflwyno pryder (trefn sy’n cael eu hadnabod fel “Canu'r Gloch”).
Beth sydd wedi ei wneud i wella pethau
- Mae Cyngor Gwynedd wedi cynnwys gwybodaeth am feithrin perthnasoedd amhriodol (“grooming”) yn y pecyn hyfforddiant i bob ysgol ar ddechrau’r flwyddyn ysgol (Medi 2025).
- Mae gweithiwr wedi cael ei benodi i godi ymwybyddiaeth o’r maes diogelu ar draws y Cyngor a rhoi gwybod am yr hyfforddiant diogelu sydd ar gael i staff.
- Mae pob adran o fewn Cyngor Gwynedd yn gwirio faint o staff sydd wedi mynychu hyfforddiant Diogelu, ac hyfforddiant ar Drais yn erbyn Merched, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol. Mae hyn bellach yn cael ei fonitro yn y cyfarfodydd perfformiad rheolaidd.
- Mae’r Cyngor wedi creu fideo ar gyfer cyflwyno’r hyfforddiant diogelu i staff sy’n gweithio yn y maes, er enghraifft, gweithwyr ar y loriau bin, glanhawyr ac ati.
- Mae’r Cyngor wedi prynu hyfforddiant arbenigol gan yr NSPCC i helpu staff sy'n gweithio â phlant adnabod newid mewn ymddygiad plentyn a allai fod yn arwydd o feithrin berthynas amhriodol (“grooming”) neu gam-driniaeth.
- Mae’r NSPCC hefyd yn creu hyfforddiant cyffredinol ar-lein i holl aelodau staff ar adnabod arwyddion o gam-driniaeth a “grooming”.
- Mae’r Cyngor wedi mabwysiadu polisi cyflwyno pryder (Polisi “Canu’r Gloch”) a gwneud mwy o waith i godi ymwybyddiaeth staff ar draws y Cyngor.
Beth fydd Cyngor Gwynedd yn ei wneud rhwng mis Ionawr 2026 a mis Gorffennaf 2026?
Bydd Cyngor Gwynedd yn:
- Cyflwyno Polisi a Chanllaw Cyflwyno Pryder (Polisi “Canu’r Gloch”) ar gyfer Cynghorwyr Gwynedd.
- Cyflwyno hyfforddiant ar y Polisi a Chanllaw Cyflwyno Pryder (Polisi “Canu’r Gloch”) ar gyfer holl staff a Chynghorwyr Gwynedd.
- Cyflwyno hyfforddiant cadw cofnodion diogelu.
- Bydd aelodau Pwyllgorau Craffu’r Cyngor (grŵp o gynghorwyr sy’n gwirio bod y Cyngor yn gwneud pethau’n iawn) yn gorffen ymchwilio i drefniadau diogelu mewn ysgolion.
Beth fydd Cyngor Gwynedd yn ei wneud erbyn mis Chwefror 2027
Bydd Cyngor Gwynedd wedi:
- Mapio’r lefel briodol o hyfforddiant diogelu i bob swydd fel bod y rhai sydd ei angen yn cael hyfforddiant uwch.
- Gwneud yn siŵr bod pob aelod newydd o staff yn derbyn hyfforddiant diogelu yn amserol ar ddechrau eu swydd.
- Derbyn canlyniad yr ymchwiliad gan aelodau Pwyllgorau Craffu a llunio cynllun i weithredu ar unrhyw argymhellion.
- Adolygu a cyflwyno Polisi Diogelu Corfforaethol newydd ar gyfer y Cyngor.
Sut fydd Cyngor Gwynedd yn mesur effaith y newidiadau
- Bod pob aelod o staff sydd angen Tystysgrif DBS ar gyfer eu swydd efo Tystysgrif DBS gyfredol. (Tystysgrif DBS ydi’r archwiliad i wirio os ydi person yn ddiogel i weithio gyda phlant neu bobl bregus)
- Adrodd ar nifer y staff sydd wedi cwblhau’r hyfforddiant Diogelu a’r hyfforddiant Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol.
- Bod pob ysgol yn derbyn ymweliad gan y Tîm Diogelu a Llesiant Ysgolion, a nifer yr ysgolion sydd yn dilyn polisïau diogelu’r Cyngor.
Yn ôl i brif dudalen Bwrdd Rhaglen Cynllun Ymateb