Rydym eisiau gwneud yn siŵr bod Cyngor Gwynedd yn:
- Gwrando ar blant a phobl ifanc, ac yn eu credu, ac yn eu cymryd o ddifri.
- Gwneud popeth sydd yn bosib i gefnogi y rhai sydd wedi dioddef.
- Cynnwys plant a phobl ifanc yn y drafodaeth pan mae penderfyniadau yn cael eu gwneud.
Beth mae adroddiad Cyfiawnder drwy ein Dewrder yn ei ddweud?
(Hon ydi’r adroddiad gafodd ei chyhoeddi yn dilyn ymchwiliad Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru i droseddau y cyn-bennaeth. (Gweld yr adroddiad (yn agor mewn tab newydd))
- Nid oedd gweithwyr proffesiynol wedi gwrando ar bryderon plant.
- Pan gafodd pryderon diogelu eu codi, nid oedd gweithwyr wedi siarad efo’r plentyn er mwyn clywed eu stori ar bob achlysur.
- Mae angen gwneud mwy i gefnogi dioddefwyr sydd wedi profi trawma.
Beth sydd wedi ei wneud i wella pethau
- Mae ymddiheuriad personol wedi ei gynnig i’r merched a gafodd eu cam-drin gan y cyn-bennaeth.
- Mae Cyngor Gwynedd yn gweithio gyda arbenigwyr o Ganolfan Gefnogi Trais a Cham-drin Rhywiol (RASAC) Gogledd Cymru a Chynghorwyr Annibynnol ar Drais Rhywiol (ISVAs) i wneud yn siŵr bod cymorth personol ar gael i’r rhai sydd wedi dioddef. Mae hyn yn cynnwys cefnogaeth emosiynol, mynediad at wasanaethau therapiwtig a chymorth ymarferol. Nid yw pob un dioddefwr wedi derbyn y cynnig, ond bydd y gefnogaeth yn parhau i fod ar gael iddynt ar unrhyw adeg os ydynt ei angen.
- Mae’r Cyngor wedi newid y trefniadau pan mae pryder diogelu yn ymwneud â phlentyn ac oedolyn proffesiynol yn cael ei adrodd (mae hyn yn cael ei adnabod fel ‘cyfeiriad Rhan 5’). Mae Adran Plant Cyngor Gwynedd rŵan yn sicrhau bod y plentyn yn cael cyfle i siarad efo gweithiwr cymdeithasol ar bob achlysur.
- Mae Cyngor Gwynedd yn cyflogi gweithiwr i gefnogi’r Fforwm Ieuenctid i wneud yn siŵr fod pobl ifanc yn gallu lleisio eu barn a chyfrannu at benderfyniadau'r Cyngor.
- Mae’r Cyngor wedi atgoffa pob Ysgol bod angen arddangos posteri gyda manylion cyswllt yr NSPCC mewn mannau amlwg yn eu hysgolion fel fod plant a phobl ifanc yn gwybod sut i gael cefnogaeth os ydynt ei angen.
- Mae’r Cyngor wedi cynnal gweithdy Hawliau’r Plentyn ar gyfer y Fforwm Ieuenctid, Aelodau Cabinet ac Aelodau’r Bwrdd Rhaglen Cynllun Ymateb.
- Mae’r Cyngor wedi datblygu Strategaeth “Llais y Plentyn” a fydd yn egluro sut mae Cyngor Gwynedd yn gwrando ar blant a phobl ifanc. Bydd yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet yn yr hydref.
- Mae hyfforddiant i gynyddu dealltwriaeth staff o effaith profiadau niweidiol a thrawma ar blant yn cael ei gyflwyno'n raddol ar draws y Cyngor. Y nod yw gwneud yn siŵr fod Cyngor Gwynedd yn sefydliad sy'n meddwl am deimladau ac yn fwy ystyriol o drawma.
Beth fydd Cyngor Gwynedd yn ei wneud erbyn mis Chwefror 2027
- Cyflogi gweithiwr ychwanegol i wrando ar lais mwy o blant a phobl ifanc, fel plant mewn gofal a phlant anabl. Bu heriau recriwtio sylweddol cyn haf 2026 ac nid yw'r swydd wedi'i llenwi hyd yma.
- Parhau i ddatblygu Gwynedd fel Sir Blentyn-gyfeillgar, gan wreiddio hawliau plant ar draws gwaith y Cyngor a sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael eu gwrando arnynt ac yn dylanwadu ar benderfyniadau sy'n effeithio arnynt.
Sut fydd Cyngor Gwynedd yn mesur effaith y newidiadau
- Adborth gan y Grŵp Cefnogi Dioddefwyr am y profiad a safon y gefnogaeth sy’n cael ei gynnig gan Cyngor Gwynedd.
- Adborth gan Fforwm Ieuenctid Gwynedd, gan ystyried hyder a phrofiad pobl ifanc o’r drefn diogelu mewn ysgolion.
- Polisi Cyfranogiad / Polisi Llais y Plentyn yn cael ei adolygu a’i ddiweddaru yn rheolaidd, gyda mewnbwn gan blant a phobl ifanc ledled Gwynedd.
