Cam-drin plant

Os ydych yn blentyn sy’n cael eich cam-drin, neu os ydych yn poeni am blentyn sy’n cael ei gam-drin, cysylltwch â ni:

 

 

 

Wyt ti'n cael dy gam-drin - adref neu gan rywun arall? Oes rhywun adref yn cael ei gam-drin? Oes gen ti ffrind sy'n cael ei gam-drin ac angen help?

Gall cam-drin ddigwydd mewn sawl ffordd:

  • cam-drin corfforol: taro, ysgwyd, taflu, llosgi neu ddefnyddio meddyginiaeth i wneud drwg i rywun.
  • cam-drin emosiynol: gwneud rhywun i deimlo'n ddiwerth, dweud bod neb yn eu caru; codi ofn - bygwth niwed, bod yn gas; ecsploetio i bwrpas rhyw neu waith.
  • cam-drin rhywiol: gorfodi rhywun i gymryd rhan mewn gweithgaredd rhywiol gorfodi rhywun i edrych ar a/neu greu deunydd pornograffig. Annog rhywun i ymddwyn mewn ffordd rhywiol anaddas.
  • esgeulustod: peidio darparu bwyd, lletya dillad addas; peidio amddiffyn rhag niwed neu berygl corfforol, peidio sicrhau mynediad at ofal neu driniaeth feddygol; peidio sicrhau fod plentyn yn derbyn addysg reolaidd.

Beth i'w wneud

  • Cysylltu â Gwasanaethau Cymdeithasol a dweud beth sy'n digwydd.
    Ffôn: 01758 704 455
    (Rhif allan o oriau: 01248 353551)
  • E-bost: cyfeiriadauplant@gwynedd.llyw.cymru
  • Mewn argyfwng - fel pan fo rhywun yn cael ei daro neu ei gau allan o'r tŷ - ffonio'r heddlu ar 999
  • Ffonio Childline ar 0800 1111 neu cer i wefan ChildLine
  • Gofyn i oedolyn rwyt yn ymddiried ynddo, fel athro, gweithiwr ieuenctid neu ffrind, ffonio ar dy ran. Mae'n rhaid i bobl sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc ddilyn rheolau a phrosesau, ond byddant yn esbonio hyn i ti a dy helpu drwy'r broses.
  • Os wyt yn cael dy fwlio, mynd i wefannau ChildlineKidscape a SortIt.

Os oes rhywbeth yn dy boeni neu dy ddychryn, ac nad wyt yn siŵr a yw'n gam-drin, siarad â rhywun rwyt yn ei drystio.

Mae camdriniaeth yn golygu gwneud niwed i rywun neu beidio sicrhau nad yw rhywun yn cael niwed. Mae camdriniaeth neu esgeulustod yn gallu digwydd o fewn teulu neu sefydliad, gan bobl sy'n eu hadnabod yn dda, neu yn llai aml gan rhywun dieithr. 

Os ydych yn gwybod am blentyn sydd mewn peryg o gael ei gam-drin neu sy’n cael ei gam-drin, mae’n bwysig iawn gadael i'r Cyngor neu’r heddlu wybod.

Os yw'r unigolyn mewn perygl uniongyrchol, ffoniwch yr heddlu'n syth - 999.

Os nad, cysylltwch â llinell ffôn Gwasanaethau Cymdeithasol gynted a bo modd er mwyn rhannu eich pryder.

Gwasanaethau Cymdeithasol: 01758 704 455

(Rhif allan o oriau: 01248 353551)


Pa wybodaeth fyddai angen ei rannu?

  • Beth yw eich pryder a sut ddaeth yn amlwg?
  • Beth yw enw'r unigolyn sydd yn dioddef, ei ddyddiad geni, cyfeiriad a manylion y teulu? (os ar gael)
  • Pwy sydd wedi achosi pryder i chi ac oes yna dystion eraill?


Beth fydd yn digwydd wedyn?

  • Bydd eich galwad yn cael ei gofnodi a gwybodaeth am yr unigolyn yn cael ei wirio i weld a yw'n adnabyddus.
  • Bydd gwybodaeth yn cael ei chasglu gan asiantaethau eraill sydd â chysylltiad posib gyda'r unigolyn.
  • Ar sail y wybodaeth sydd ar gael bydd penderfyniad yn cael ei wneud i ymchwilio i'ch pryder.
  • Gall hyn arwain at waith cynhwysfawr i amddiffyn yr unigolyn rhag dioddef niwed pellach.

 

Gweithio gyda'n gilydd i ddiogelu pobl:Cod ymarfer diogelu

Cadw’n ddiogel wrth fwynhau gweithgareddau a defnyddio gwasanaethau