Oedolion mewn perygl

Oedolion bregus yw pobl dros 18 na allant eu hamddiffyn eu hunain rhag niwed neu gael eu hecsbloetio oherwydd anabledd, oedran neu salwch.

Mae camdriniaeth yn golygu gwneud niwed i rywun neu beidio sicrhau nad yw rhywun yn cael niwed. Mae camdriniaeth neu esgeulustod yn gallu digwydd o fewn teulu neu sefydliad, gan bobl sy'n eu hadnabod yn dda, neu yn llai aml gan rhywun dieithr. 

Os ydych yn gwybod am rywun sydd mewn peryg o gael ei gam-drin neu sy’n cael ei gam-drin, mae’n bwysig iawn gadael i'r Cyngor neu’r heddlu wybod.

 

Mathau o gamdriniaeth

  • cam-drin corfforol: taro, ysgwyd, taflu, llosgi neu ddefnyddio meddyginiaeth i wneud drwg i rywun.
  • cam-drin emosiynol: gwneud rhywun i deimlo'n ddiwerth, dweud bod neb yn eu caru, codi ofn - bygwth niwed, bod yn gas, ecsploetio i bwrpas rhyw neu waith. 
  • cam-drin rhywiol: gorfodi rhywun i gymryd rhan mewn gweithgaredd rhywiol, gorfodi rhywun i edrych ar a/neu greu deunydd pornograffig. Annog rhywun i ymddwyn mewn ffordd rhywiol anaddas.
  • esgeulustod: Peidio darparu bwyd, llety a dillad addas, peidio amddiffyn rhag niwed neu berygl corfforol, peidio sicrhau mynediad at olaf neu driniaeth feddygol; peidio sicrhau fod plentyn yn derbyn addysg reolaidd.
  • camdriniaeth ariannol: gall oedolion ddioddef o ladrad, cael eu twyllo, pwysau ar gynnwys ewyllys neu bŵer twrnai.
  • caethwasiaeth fodern 

 

Beth i’w wneud os yw cam-drin yn digwydd?

Os yw'r unigolyn mewn perygl uniongyrchol, ffoniwch yr heddlu'n syth - 999.

Os nad, cysylltwch â Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant y Cyngor er mwyn rhannu eich pryder.

  • Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant: 01766 772577/ est: 32964

  • Tu allan i oriau arferol 01248 353551

  • Llinell Gymorth Caethwasiaeth Fodern 08000121700


Pa wybodaeth fyddai angen ei rannu?

  • Beth yw eich pryder a sut ddaeth yn amlwg?

  • Beth yw enw'r unigolyn sydd yn dioddef, ei ddyddiad geni, cyfeiriad a manylion y teulu? (os ar gael)

  • Pwy sydd wedi achosi pryder i chi ac oes yna dystion eraill?


Beth fydd yn digwydd wedyn?

  • Bydd eich galwad yn cael ei gofnodi a gwybodaeth am yr unigolyn yn cael ei wirio i weld a yw'n adnabyddus.

  • Bydd gwybodaeth yn cael ei chasglu gan asiantaethau eraill sydd â chysylltiad posib gyda'r unigolyn.

  • Ar sail y wybodaeth sydd ar gael bydd penderfyniad yn cael ei wneud i ymchwilio i'ch pryder.

  • Gall hyn arwain at waith cynhwysfawr i amddiffyn yr unigolyn rhag dioddef niwed pellach.